Mae Ella Maclean-Howell wedi breuddwydio am gystadlu yn y Gemau Olympaidd ers pan oedd yn ferch ysgol yn gwylio chwaraewyr fel Becky James a Dani King yn ennill medalau aur i Dîm Prydain Fawr yn y Gemau.
Fis nesaf, y ferch 19 oed o Lantrisant fydd yr un fydd yn ysbrydoli merched ifanc ledled Prydain Fawr i fynd ar eu beic pan fydd hi’n dod yn feiciwr mynydd Olympaidd cyntaf erioed Cymru.
Daeth profiad cyntaf Ella o lwybr oddi ar y ffordd pan aeth Beicio Cymru â hi o’r trac ac i’r mynyddoedd.
Dywedodd Ella: “Ar y dechrau, roedd yn rhywbeth gwahanol iawn a doeddwn i ddim yn rhy gyfforddus. Roeddwn i wedi arfer gyda ffordd a thrac. Ond fe aeth Beicio Cymru â ni i Gwm Afan i wneud sesiynau beicio mynydd i feithrin ein sgiliau ni’n fwy cyffredinol.
“Fe wnes i wir ddechrau mwynhau bryd hynny. Roedd yn hawdd cyrraedd yno ac fe fyddwn i hyd yn oed yn mynd i lawr gyda fy nheulu i wneud sesiynau ychwanegol. Ac wedyn rhoi cynnig ar ddigwyddiad cynghrair Cymru a meddwl, wel, dydw i ddim yn rhy ddrwg am wneud hyn!”
O Eryri i Goedwig Afan, mae Ella wedi beicio llawer o lwybrau beicio mynydd Cymru ac mae eisiau annog eraill i roi cynnig arni eu hunain fel eu bod hwythau hefyd yn gallu profi hwyl a chyffro beicio mynydd.
Beth bynnag ydi lefel eich profiad, mae gwahanol lwybrau ar draws y wlad sy'n addas i chi. Felly, dyma ddadansoddiad Ella o’r llwybrau beicio mynydd gorau yng Nghymru.