Mae wedi golygu buddsoddi mewn diheintyddion dwylo, chwistrellau gwrth-facteria, masgiau wyneb, ffedogau a ffurfiau eraill ar offer gwarchodol, a hefyd bibiau hyfforddi unigol, peli a photeli dŵr ar gyfer pob chwaraewr.
Gyda’r mesurau hynny yn eu lle, mae’r clwb wedi llwyddo i ddarbwyllo’r feterans i ddod yn ôl i Barc Waunarlwydd ar gyfer sesiynau i griwiau bychain, yn barod ar gyfer cynnal gemau yn fuan gobeithio – gemau cyfeillgar i’r feterans ac, ryw dro, gemau Cynghrair Hŷn Abertawe ar gyfer y tîm cyntaf a’r ail a’r trydydd tîm.
“Byddai croeso mawr i unrhyw fath o gêm i bawb yn y clwb. Rydyn ni wedi colli hynny yn fawr,” ychwanegodd Dean.
“’Fydd pethau ddim yr un fath ag o’r blaen gyda phobl yn llenwi’r ystafell wisgo a’r rhyngweithio mae hynny’n ei gynnwys, ond gyda’r math priodol o gadw pellter cymdeithasol yn ei le, rydw i’n meddwl bod pawb mewn pêl droed ar lawr gwlad yn dyheu am gael ailddechrau chwarae.”
Mae Waunarlwydd wedi dangos dyfalbarhad yn y gorffennol a chadernid i oresgyn anawsterau.
Dim ond pum mlynedd sydd ers i’r clwb wynebu bygythiad o golli eu cae yn y parc – eu cartref hapus am y 40 mlynedd ddiwethaf – wrth i doriadau i gyllideb yr awdurdod lleol olygu bod cyflwr y cae wedi mynd yn wael.
Ond mae trosglwyddo ased cymunedol wedi galluogi’r clwb i reoli ei gartref drwy gytundeb prydles, gan warchod ei bresenoldeb yn y pentref a hefyd trosglwyddo’r cyfrifoldeb am y cynnal a chadw i’r clwb.
“Roedd Cronfa Cymru Actif yn amserol iawn i ni,” ychwanegodd Dean. “Mae’n rhaid i ni gyllidebu nawr ar gyfer atgyweiriadau a chynnal a chadw’r cae, ond dydyn ni ddim wedi cael unrhyw incwm o danysgrifiad y chwaraewyr ers dechrau mis Mawrth.
“Gyda bil o tua £2,000 ar gyfer gwaith hanfodol ar y cae, roedd arnom ni wir angen cymorth ariannol.”
Ac nid dim ond angen am chwaraeon mae’r clwb yn ei fodloni chwaith. Mae cysylltiadau cymdeithasol yn cael eu cynnal drwy’r clwb, sy’n cael ei weithredu o ystafell y bar yn y dafarn leol, y Farmer’s Arms.
“I lawer o’r bobl leol, mae eu rhwydwaith cymdeithasol yn troi o amgylch y clwb pêl droed. Dyna sut maen nhw’n cadw mewn cysylltiad ac rydyn ni’n gallu sicrhau ein bod ni’n eu diogelu nhw rhag ynysu cymdeithasol.
“Dyma reswm arall pam mae pêl droed lleol mor bwysig.”