Nod Holly Jones yw cael dau dîm y tu ôl iddi pan fydd yn cystadlu dros ei gwlad yng Ngemau'r Gymanwlad y flwyddyn nesaf - Tîm Cymru a Thîm Jones.
Mae gan Jones - a adenillodd deitl llamu hŷn Prydain ym Mhencampwriaethau Gymnasteg Prydain yn ddiweddar - flwyddyn fawr o’i blaen ac mae hi’n gobeithio y bydd yn cynnwys ennill medal yn Birmingham.
Yng Ngemau’r Gymanwlad y tro diwethaf ar yr Arfordir Aur yn Awstralia yn 2018, methodd y ferch 20 oed o Abertawe o drwch blewyn â chyrraedd y podiwm yn y gystadleuaeth llamu pan orffennodd yn bedwerydd.
Roedd ei mam a’i thad yno i’w chefnogi yn Awstralia, ond gyda’r Gemau nesaf ar garreg drws Cymru, ni fydd prinder cefnogaeth i Jones.
“Rydw i’n hynod gyffrous am Gemau’r Gymanwlad,” meddai Jones, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Treforys.
“Mae'n amlwg y bydd ychydig yn wahanol i Awstralia. ’Fydd y tywydd ddim mor braf i ddechrau, a ’fydd hi ddim mor heulog.
“Ond rydw i’n falch eu bod nhw’n gemau cartref oherwydd dim ond fy rhieni a fy hyfforddwyr ddaeth allan i ’ngwylio i yn Awstralia. Rydw i'n credu y bydd yn braf cael torf a fy holl deulu, ffrindiau a phawb i ddod i fy ngwylio i.
“Fe ddois i mor agos i efydd y tro diwethaf, gan orffen yn bedwerydd. Felly dyna un o fy mhrif nodau i ar gyfer 2022 - cyrraedd y rowndiau terfynol, yn bendant, ac wedyn gobeithio cael medal. Dyna’r nod.”
Yn sicr mae Jones wedi paratoi’r ffordd gyda’i pherfformiad a gipiodd y teitl iddi yn Guildford ym mis Tachwedd, yn dilyn hefyd ei harian buddugol ar yr un cyfarpar ym Mhencampwriaethau Gogledd Ewrop a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ystod yr un mis.
I fod yn bencampwraig Prydain, roedd angen marc cyfartalog o 13.425 ar gyfer ei dwy naid. Gorffennodd yn chweched ar y llawr hefyd ac yn 23ain ar y trawst.
Roedd ei buddugoliaeth i gipio teitl Prydain yn ailadrodd yr aur a enillodd yn 2018, cyn i anaf difrifol i'w phen-glin brofi ei gwytnwch gyda'i hail anaf difrifol.
“Ar ôl cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2018 a hefyd ennill y llamu ym Mhencampwriaethau Prydain yn 2018, roeddwn i’n wirioneddol falch o’r cyflawniadau hynny.
“Cyn 2018 yn y treialon ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, fe gefais i anaf cefn drwg iawn. Doeddwn i ddim yn siŵr iawn ’fyddwn i’n gallu mynd i bob un o'r treialon a chystadlu ynddyn nhw.
“Roedd hynny’n anodd iawn oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai’n digwydd yn y dyfodol – cael lle yn y tîm ar gyfer Awstralia oedd fy mreuddwyd i, a fy nod, a phan wnes i ddarganfod ’mod i wir wedi brifo fy nghefn, roeddwn i’n meddwl bod popeth drosodd.
“I bawb yn y byd chwaraeon, fe fyddwn i'n dweud cofiwch gael hwyl a mwynhau'r profiad dysgu.
“Bydd isafbwyntiau ac uchafbwyntiau, a phan fyddwch chi'n teimlo na all pethau fod yn waeth neu eich bod chi wedi taro’r gwaelod ac yn methu dal ati, jysd ewch amdani, oherwydd fe fydd pethau’n gwella.”