Mae algâu a llinellau pŵer ymhlith cynnwys mwy anarferol y prosiectau sydd wedi’u cefnogi gan Chwaraeon Cymru yn ystod y chwe mis diwethaf i wella’r profiad cyffredinol o chwaraeon ar lawr gwlad.
Drwy gronfa ‘Lle i Chwaraeon’, mae Chwaraeon Cymru yn cynnig hyd at £15k i gefnogi ymdrechion codi arian clybiau a sefydliadau cymunedol i wneud gwelliannau i gyfleusterau oddi ar y cae.
Mae’n gronfa wahanol iawn i unrhyw beth sydd wedi’i gynnig yn flaenorol yng Nghymru gan ei bod yn ofynnol i glybiau godi o leiaf hanner yr arian eu hunain drwy gyllido torfol ar wefan Crowdfunder.
Ymhlith y clybiau a fanteisiodd ar y cyfle mae Clwb Chwaraeon a Chymunedol Ponthir yng Nghasnewydd. Wrth i linellau pŵer uwchben amharu ar ran fawr o faes chwaraeon Oaklands, sefydlodd y clwb brosiect cyllido torfol i godi digon o arian i dalu i Western Power am gladdu'r ceblau o dan y ddaear fel bod posib cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon yno. Helpodd grant o £10,500 gan Chwaraeon Cymru y clwb i gyrraedd ei darged codi arian cyffredinol o £35,000.
Yn Sir y Fflint, mae cyllid yn cael ei ddefnyddio i gael gwared ar algâu gwyrddlas gwenwynig o lecyn prydferth ‘Parc yn y Gorffennol’ i wneud y llyn yn addas drwy gydol y flwyddyn ar gyfer nofio, caiacio a deifio. Gyda hwb o £4,050 gan Chwaraeon Cymru, cododd grŵp cymunedol lleol gyfanswm o £13,560 i dalu am raglen trin dŵr gynaliadwy sy’n cynnwys gosod dau fwi wltrasonig yn eu lle a fydd yn allyrru tonfeddi uwchsain. Mae'r tonfeddi sain yn ddiniwed i'r bywyd gwyllt yn y llyn, ond byddant yn lleihau'r algâu peryglus fwy na 90%.