Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye yn paratoi i gystadlu yng Ngemau Paralympaidd Paris 2024, dim ond dwy flynedd ar ôl dechrau ar y gamp.
Pan aeth rhywbeth o'i le mewn llawdriniaeth gyffredin, gan chwalu ei breuddwydion o ddod yn chwaraewr pêl-fasged proffesiynol, mae'n cyfaddef iddi syrthio'n ddarnau.Ond ar ôl cael ei hysbrydoli gan un o ffigyrau mwyaf chwedlonol para-chwaraeon yng Nghymru, mae'r ferch 21 oed wedi mentro i gyfeiriad newydd wrth daflu maen a disgen.
Fe wnaeth lawer o chwaraeon pan oedd hi'n blentyn
Ar ôl rhoi cynnig ar nifer fawr o chwaraeon yn blentyn - sglefrio ffigyrau, tennis, nofio, rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd, camodd Funmi ar y cwrt pêl-fasged o’r diwedd:
“Roedd gen i deimlad o'r cychwyn y byddwn i wrth fy modd â phêl-fasged a dwi’n meddwl mai dyna pam wnes i ei adael tan yr olaf! Ro'n i eisiau bod yn siŵr mai honno oedd y gamp i mi. Roedd fy nhad a fy mrawd hynaf yn chwarae ond Mam wnaeth fy annog i roi cynnig ar unrhyw beth a phopeth.”
Roedd hi’n 11 oed pan ymunodd â Met Archers Caerdydd – clwb dim ond pum munud rownd y gornel o’i thŷ:
“Roedd yr awyrgylch mor groesawgar, ro'n i wrth fy modd yno.”
Wrth chwarae am hwyl, sylweddolodd Funmi pan oedd hi tua 14 oed fod pêl-fasged yn rhywbeth y gallai ei wneud yn broffesiynol:
“Ar ôl ysgol, byddwn i'n mynd yn syth i'r arena. A ro'n i bob amser yn gwneud yn siŵr fy mod yn gweithio'n galed yn yr ysgol oherwydd pe bawn i eisiau ysgoloriaeth i fynd i goleg yn America, byddai angen graddau da arnaf.
“Bob haf, ro'n i'n hyfforddi yn y cyrtiau ym Mharc y Rhath gydag unrhyw un a fyddai yno. Byddwn bron bob amser yn chwarae yn erbyn dynion. Ar y dechrau, roedden nhw'n fy mychanu i, ond fe sylweddolon nhw’n fuan fy mod i’n gryfach nag oeddwn i’n edrych.”
Galwad gan golegau America
Ond daeth ei llwyddiant yn 2019 pan oedd Funmi yn 16 oed ac yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd Dan 18 ym Moldova. Cafodd ei chydnabod fel un o'r All-Star Five - mewn geiriau eraill, y pum chwaraewr gorau o'r twrnamaint cyfan.
Buan iawn y gwnaeth timau yn yr Eidal a Serbia sylwi ar y dalent newydd o Gaerdydd ac roeddent yn awyddus iddi ddod i chwarae gyda nhw. Ond breuddwyd Funmi oedd mynd i America. Dechreuodd gysylltu â cholegau yn America a buan iawn y gwelodd fod digon o hyfforddwyr a oedd yn awyddus i'w chroesawu ar ysgoloriaeth.