Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl blodau gwyllt yn llwyddiannus.
Mae’r tîm o Sir Benfro wedi creu cynefin bywyd gwyllt prysur rhwng ei gaeau pêl droed. Drwy roi cyfle i fyd natur ffynnu, mae’r dolydd yn chwarae rhan mewn cefnogi’r ecosystem drwy ddarparu cysgod a bwyd i bryfed peillio fel gwenyn a glöynnod byw.
Rhannodd Steve Brown, cadeirydd Clwb Pêl Droed Clarbeston Road, y canlynol:
“Rydyn ni’n credu y gall ein clwb pêl droed ni chwarae rhan bwysig wrth helpu i addysgu a dylanwadu nid yn unig ar aelodau ein clwb ni, ond hefyd y gymuned ehangach, am bwysigrwydd gweithredoedd amgylcheddol cadarnhaol.