Cyn hynny, roedd Nicola yn Llywydd y Ffederasiwn Rhyngwladol ar gyfer Therapi Corfforol Chwaraeon ac mae'n Gymrawd yn y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi; Aelod Bywyd Anrhydeddus o’r Gymdeithas Ffisiotherapyddion Siartredig mewn Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff; ac Aelod o Fwrdd Gwrth Gyffuriau'r DU. Mae hi hefyd yn Aelod o Fwrdd Gemau'r Gymanwlad Cymru.
Ar ei phenodiad, dywedodd Nicola:
"Rwy'n hapus iawn o gael fy enwi'n Chef de Mission ar gyfer Tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2022. Mae'n anrhydedd enfawr ac rwy'n gyffrous iawn o gael bod yn rhan o deulu Tîm Cymru wrth i ni helpu i greu amgylchedd i'n hathletwyr berfformio hyd orau eu gallu."
"Rwy'n credu y gallai Birmingham fod yn Gemau arbennig iawn lle gall Cenhedloedd y Gymanwlad ddod at ei gilydd unwaith eto i ddathlu chwaraeon ar ôl bod ar wahân am gyfnod rhy hir. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at y flwyddyn nesaf."
Mae rôl academaidd yr Athro Nicola Philips yn cynnwys arwain MSc mewn Ffisiotherapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff a gwaith ymchwil, cyhoeddi a darlithio mewn meysydd fel adsefydlu yn dilyn anafiadau chwaraeon; effeithiau anafiadau ar reolaeth echddygol; a mesur adferiad gweithredol yn dilyn anaf wrth wneud chwaraeon – anafiadau i'r pen-glin yn benodol, sy'n cynnwys athletwyr o bob oed a gallu. Mae Nicki hefyd wedi cyhoeddi a darlithio ar ystyriaethau o ran moeseg ac uniondeb ym maes ymarfer ffisiotherapi chwaraeon. Yn 2019, dyfarnwyd OBE i Nicola am ei gwasanaethau ymroddedig i ffisiotherapi.
Dywedodd Chris Jenkins, Prif Swyddog Gweithredol Gemau'r Gymanwlad Cymru:
"Rydym yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Nicki fel ein Chef de Mission ar gyfer Gemau Birmingham. Bydd y 18 mis nesaf yn eithriadol o brysur, ond hefyd yn gyffrous iawn wrth i ni ddechrau cynyddu ein paratoadau ar gyfer Gemau 2022."
"Mae gan Nicki hanes cyfoethog o weithio ar Gemau'r Gymanwlad a'r Gemau Olympaidd, ac mae ei gwybodaeth a'i phrofiad yn golygu ei bod yn parhau i fod yn ased anhygoel i ni."
"Fel arfer, yr adeg hon o'r flwyddyn byddem yn gweld ein hathletwyr yn hyfforddi, yn cystadlu ac yn ceisio ennill eu lle ar gyfer y Gemau. Ond oherwydd y cyfyngiadau parhaus o ganlyniad i COVID-19, nid yw hyn wedi bod yn bosibl. Fodd bynnag, rydym ni yng Ngemau'r Gymanwlad Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein hathletwyr, hyfforddwyr, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, a theulu a ffrindiau i gyd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn y cyfnod cyn y Gemau nesaf. Er gwaethaf yr anawsterau rydym i gyd wedi'u hwynebu, rydym yn gwybod bod y penderfyniad i lwyddo yn parhau'n gryf ac rwy'n hyderus y bydd 2022 yn flwyddyn wych arall i Dîm Cymru."
"Rwy'n siŵr bod y newyddion am benodiad Nicki yn dod â rhywfaint o obaith a sicrwydd yn ystod y cyfnod hwn, wrth i'n tîm barhau i weithio'n galed y tu ôl i'r llenni gan baratoi Tîm Cymru ar gyfer y ffordd i Birmingham."
Cynhelir Gemau'r Gymanwlad 2022 ar draws gwahanol leoliadau yn Birmingham a ledled Gorllewin Canolbarth Lloegr rhwng 28 Gorffennaf ac 89 Awst.