Main Content CTA Title

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. £1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch i werth £1.7m o Grantiau Arbed Ynni sydd wedi cael eu dyfarnu gan Chwaraeon Cymru.

Mae naw deg saith o glybiau chwaraeon – o bob un o’r 22 awdurdod lleol – wedi derbyn cyllid i dalu am welliannau arbed ynni fel paneli solar ac uwchraddio inswleiddio a fydd yn lleihau eu costau ynni a’u hôl troed carbon.

Cyflwynwyd y Grant Arbed Ynni am y tro cyntaf gan Chwaraeon Cymru y llynedd gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru, ac oherwydd y galw mawr cynigiwyd grantiau eto eleni, gyda chlybiau’n gallu gwneud cais am hyd at £25,000.

Mae'r cyllid yn helpu clybiau i barhau i gynnig ystod eang o gyfleoedd fforddiadwy i bobl ddod yn actif. Gyda biliau ynni is, mae clybiau'n dod yn fwy cynaliadwy yn ariannol a hefyd yn gwneud eu rhan dros yr amgylchedd.

Bydd chwe deg un o glybiau sydd wedi derbyn cyllid eleni yn ei ddefnyddio i osod paneli solar yn eu heiddo, ac ar gyfer tri chlwb sydd â phaneli solar eisoes, bydd y grantiau’n eu galluogi i brynu batris storio – sy’n golygu eu bod yn gallu storio ynni dros ben i’w ddefnyddio pan maen nhw ei angen fwyaf. Bydd grantiau eraill yn cael eu defnyddio i gyllido gwelliannau gwresogi a dŵr poeth, gwell inswleiddio, a ffynonellau dŵr cynaliadwy ac ailgylchu.

Dywedodd Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: “Rydyn ni’n gwybod y gall biliau ynni cynyddol effeithio ar glybiau mewn ffordd sylweddol iawn, ac fe all sgil-effeithiau hyn olygu costau uwch i gyfranogwyr.

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae gwerth £3.1m o Grantiau Arbed Ynni wedi bod o fudd bellach i gyfanswm o 175 o glybiau chwaraeon.

“Mae biliau ynni cynyddol yn bygwth bodolaeth rhai clybiau, felly rydyn ni wrth ein bodd yn helpu i ddiogelu eu dyfodol fel eu bod yn gallu dal ati i gynnig gwasanaethau hanfodol i bobl yn eu cymunedau lleol.

“Bydd galluogi clybiau yng Nghymru i wella eu cynaliadwyedd yn cyfrannu llawer hefyd at leihau effaith chwaraeon yng Nghymru ar y newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd.”

Mae’r Grantiau Arbed Ynni wedi bod yn bosibl diolch i gyfanswm o £8m o gyllid cyfalaf ar gyfer 2024-25 sydd wedi’i neilltuo i Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru. 

Dywedodd Gweinidog Chwaraeon Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant: “Mae cyllido’r Grantiau Arbed Ynni yn dangos sut rydyn ni’n cyflawni ein hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu i fuddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon a chefnogi clybiau ar lawr gwlad.

“Mae’n fuddsoddiad yn nyfodol hirdymor ein clybiau ni, sydd, yn ei dro, yn fuddsoddiad mewn darparu cyfleoedd cynhwysol, hygyrch a chynaliadwy i bobl ledled Cymru fwynhau buddion iechyd corfforol a meddyliol chwaraeon.”

Ymhlith y clybiau fydd yn elwa mae Clwb Sboncen Maesteg, sydd ar fin dod yn un o'r cyfleusterau mwyaf ynni-effeithlon yng Nghymru. Diolch i Grant Arbed Ynni o £25,000 – yr uchafswm a ddyfarnwyd gan Chwaraeon Cymru – byddant yn gosod paneli solar yn eu lle, bydd goleuadau fflworoleuol yn cael eu newid am rai LED ynni-effeithlon, ac i sicrhau’r arbedion ynni gorau posibl bydd system wresogi parthau’n cael ei gosod yn ei lle.

Yng Nghlwb Criced Gorseinon yn Abertawe, bydd grant o £6,887 yn cael ei ddefnyddio i osod system casglu dŵr glaw yn ei lle. Yn ystod tywydd gwlypach, gall y clwb gasglu dŵr glaw, ac wedyn bydd y dŵr sy’n cael ei gasglu’n cael ei ailgylchu i ddyfrio'r sgwâr criced, gan arbed y clwb rhag gorfod defnyddio'r tap sy'n cael ei fwydo o'r prif gyflenwad dros y misoedd sychach, ac arbed arian iddyn nhw hefyd.

Ym Mhowys, bydd Clwb Bowlio Llandrindod yn defnyddio £21,130 o gyllid i uwchraddio ei oleuadau presennol gyda goleuadau LED ac i osod paneli solar ar adeilad y clwb, a fydd yn cael effaith sylweddol ar wneud iawn am ddefnydd ynni presennol y clwb.

Clwb arall fydd yn gweld gwahaniaeth sylweddol yn ei filiau ynni diolch i Grant Arbed Ynni yw Clwb Golff Parc Tredegar, a fydd yn defnyddio £20,000 i osod paneli solar yn eu lle. Mae'r clwb yn rhagweld y bydd hyn yn cynnig arbedion trydan o fwy na £130,000 dros y 25 mlynedd nesaf.

I helpu gyda chynnal a chadw’r cae a’r twf mewn biliau fel nwy, trydan a dŵr, bydd Clwb Pêl Droed Phoenix Penmaenmawr ar arfordir Conwy yn defnyddio £23,963 o gyllid i osod amrywiaeth o fesurau arbed ynni yn eu lle. Mae’r rhain yn cynnwys paneli solar, tyllau turio a darpariaethau gwresogi, a bydd y rhain i gyd yn helpu’r clwb i leihau ei filiau ynni a dŵr.

I gael manylion llawn am yr holl glybiau sydd wedi derbyn Grantiau Arbed Ynni, ewch i chwaraeon.cymru.