Main Content CTA Title

Grantiau ar gyfer clybiau chwaraeon sydd wedi cael eu heffeithio gan ddifrod storm

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Grantiau ar gyfer clybiau chwaraeon sydd wedi cael eu heffeithio gan ddifrod storm

Mae'r Gronfa Difrod Stormydd ar gau bellach.

Os ydych chi wedi gwneud cais…

Byddwn yn cysylltu â'ch clwb yn fuan. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn taliad ym mis Ionawr 2025.

Os nad ydych chi wedi gwneud cais…

Mae'n ddrwg gennym! Mae'r Gronfa Difrod Stormydd ar gau bellach. Nid ydym yn derbyn ceisiadau erbyn hyn.

Gallwch wella eich cyfleusterau drwy ddefnyddio ein cronfa Lle i Chwaraeon. Neu, os ydych chi'n chwilio am offer a chyrsiau hyfforddi, edrychwch ar Gronfa Cymru Actif.

 

Gall clybiau chwaraeon yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan ddifrod gan stormydd yn ddiweddar wneud cais am grantiau hyd at £5,000 i'w helpu i adfer.

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio Cronfa Difrod Storm dros dro - gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru - ar ôl i nifer o gyfleusterau chwaraeon ar draws y wlad ddioddef effaith stormydd diweddar.

Dim ond ffenestr fer sydd gan glybiau i wneud cais am y grantiau, sy'n amrywio o isafswm o £300 hyd at uchafswm o £5,000. Bydd ceisiadau'n agor am 9am ddydd Mawrth 10 Rhagfyr ac yn cau wythnos yn ddiweddarach am 4pm ddydd Mawrth 17 Rhagfyr.

Gellir defnyddio'r grantiau i helpu gyda chostau sy'n cynnwys atgyweirio cyfleusterau, tai clwb, gosodiadau a ffitiadau, lloriau, dodrefn, seilwaith, offer, gwaith ar y caeau, trwsio cyfleustodau, prynu nwyddau gwyn newydd a chostau glanhau.  

Dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus Chwaraeon Cymru: "Rydyn ni eisiau cefnogi clybiau sydd wedi wynebu effaith y stormydd diweddar. Mae tywydd garw yn cael effaith enfawr ar allu pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, felly rydyn ni'n falch o helpu clybiau i wella.

"Bydd angen i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth o'r difrod y mae eu clwb wedi'i gael. Cyn belled â bod y difrod wedi'i ddioddef o ganlyniad i stormydd diweddar, gall clybiau wneud cais am gyllid i wneud atgyweiriadau angenrheidiol, neu i dalu am gost gwaith sydd eisoes wedi'i dalu.” 

Dim ond clybiau chwaraeon nid-er-elw all wneud cais am y Gronfa Difrod Storm. Sylwch na fydd ceisiadau i dalu am unrhyw golled incwm yn gymwys i gael cyllid. 

Gallwch wneud cais am y Gronfa Difrod Storm hyd yn oed os yw eich clwb eisoes wedi cael grant gan Gronfa Cymru Actif yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Mae angen gwneud ceisiadau ar-lein. Tîm Buddsoddi Chwaraeon Cymru wrth law i helpu unrhyw un sy'n chwilio am arweiniad a chyngor. Gallwch e-bostio’r tîm yn BeActive@Sport.Wales neu ei ffonio ar 0300 3003102, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10:00-12:30 a 13:15-16:00.