Skip to main content

Gweithgareddau hanner tymor am ddim yng Nghymru

Chwilio am rai gweithgareddau hanner tymor rhad ac am ddim i gadw'r plant yn brysur? Mae mor bwysig mynd allan o’r tŷ, symud ac ailgysylltu â byd natur. 

Cyfri’r camau     

Gosodwch her unigol i chi'ch hun neu darged teuluol i gerdded nifer penodol o gamau bob dydd, neu i gerdded am awr y dydd.

Mae cerdded yn ffordd hawdd o adeiladu eich stamina. Does dim rhaid i chi gerdded am oriau, gall fod yn 10 munud fan hyn a 5 munud fan acw. Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Gallwch ddarllen mwy am ddechrau arni gyda cherdded a'r manteision iechyd yma.

Os hoffech chi osod her ychydig yn fwy, mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymestyn ar hyd arfordir Cymru gyfan. Mae rhannau o Lwybr Arfordir Cymru yn hygyrch ac yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, ymwelwyr â symudedd cyfyngedig a theuluoedd sydd â phramiau a chadeiriau gwthio.

Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru i gael rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded hygyrch.

Dod yn iogi 

Mae ioga yn weithgaredd effaith isel sydd am ddim i'w wneud. Mae'n hynod werthfawr ar gyfer ymestyn, symudedd a hyblygrwydd. Y tu hwnt i'r mat, mae hefyd yn ymlaciol, gan roi mwy o egni i chi a chodi eich hwyliau, i gefnogi eich iechyd meddwl.

Y cyfan sydd arnoch chi ei angen yw dillad cyfforddus, hyblyg a digon o le i orwedd. Mae Yoga with Adriene yn rhannu sesiynau a rhaglenni am ddim y gallwch chi eu dilyn fel rydych yn dymuno. Os hoffech chi ymarfer yn y Gymraeg, gallwch roi cynnig ar Carioga

Dewch o hyd i un sy'n gweithio i chi a rhowch gynnig arni!

Creu sblash gyda nofio am ddim 

Does dim byd tebyg i greu atgofion gyda theulu a ffrindiau yn y pwll nofio - y newyddion da ydi y gall plant fynd i nofio AM DDIM yng Nghymru.

Nid yn unig mae nofio yn ymarfer da i'r corff cyfan sy'n adeiladu cryfder a dygnwch, ond mae wedi'i brofi fel ymarfer sy’n lleihau lefelau straen a gorbryder.

Cysylltwch â'ch canolfan hamdden leol i fanteisio i’r eithaf ar nofio am ddim i blant dan 16 oed a phobl dros 60 oed.

Archwilio’r awyr agored ar eich beic

Nid dim ond ar gyfer yr haf mae beicio, mae Cymru’n cynnig tirweddau hardd sy’n esblygu o amgylch y tymhorau. Er ei bod hi’n oer efallai, does dim teimlad gwell na mynd ar daith feicio anturus ac wedyn dod adref i gael paned o de braf a phice ar y maen.

Cyn i chi fynd, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynllunio'ch llwybr yn ofalus rhag mynd ar goll! Mae Croeso Cymru yn awgrymu digon o lwybrau beicio heb lawer o draffig ac addas i deuluoedd o amgylch y wlad. Mae hefyd ddigonedd o lwybrau beicio mynydd a thraciau BMX lle gallwch chi ymarfer ambell dric.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dilyn y cynghorion hanfodol yma ar gyfer beicio yn ystod y gaeaf.

Dod o hyd i’ch Parkrun agosaf

Oeddech chi'n gwybod bod 71 o ddigwyddiadau parkrun ledled Cymru? Yn cael eu cynnal bob bore Sadwrn am 9am, gallwch gerdded, loncian neu redeg 5k. I’r rhai bach, mae 2k ar fore Sul sydd wedi’i gynllunio ar gyfer plant 4 i 14 oed.

Does dim ots am eich cyflymder na beth rydych chi'n ei wisgo. Yr hyn sy'n bwysig ydi eich bod yn symud eich corff mewn ffordd sy'n teimlo'n iawn i chi, wedi'ch amgylchynu gan wirfoddolwyr anhygoel.

Dod o hyd i’ch Parkrun agosaf.

Cyrraedd lefelau uwch       

Rydyn ni’n ffodus yng Nghymru o fod ag amrywiaeth mor eang o dirweddau gwahanol, o’r arfordir a’r llynnoedd i’r mynyddoedd a’r dyffrynnoedd. Rydyn ni’n dweud yn aml y dylen ni dreulio mwy o amser yn crwydro’r DU, felly beth am roi cynnig ar gerdded?

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn argymell amrywiaeth o deithiau cerdded ledled Cymru, neu os hoffech chi fynd â’ch teulu gyda chi, mae Croeso Cymru wedi llunio rhestr o rai o’r teithiau cerdded llai heriol.

Hela am drysor (Geogelcio)

Wnaethoch chi ymgolli yn y trend Pokémon Go yn 2016? Oeddech chi'n hoffi hela am y trysor a chyfrif dipyn ar y camau ar yr un pryd? Wel, yr un peth yn y bôn ydi geogelcio! Mae'n gêm hela trysor awyr agored yn y byd real sy'n defnyddio mapiau a GPS.

Y nod yw llywio i gyfesurynnau GPS penodol ac wedyn ceisio dod o hyd i'r cynhwysydd geogelc sydd wedi'i guddio yn y lleoliad hwnnw. Os byddwch yn dod o hyd i gelc, yn aml maen nhw’n eitemau masnach y gallwch chi eu cyfnewid a llyfr log i gofnodi'ch ymweliad.

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cuddio 180 o gelciau i’w darganfod. Gallwch fynd i geogelcio yn unrhyw le bron, ac mae am ddim!

Edrychwch ar y wefan Geogelcio am ragor o wybodaeth.

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy