Main Content CTA Title

Gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl plant

Emily Brooks, llysgennad Pwysau Iach Cymru, sy’n trafod ei phrofiad o'r manteision niferus mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu cynnig i bobl ifanc, ac yn rhannu ei syniadau ar gyfer ffyrdd syml i bobl ifanc fod yn fwy actif. Ar ôl graddio'n ddiweddar gyda gradd mewn Chwaraeon ac Addysg Gorfforol, mae Emily yn teimlo’n angerddol am helpu pobl i fod yn actif ac yn iach. 

Maen nhw'n ei alw fe'n 'awyr agored gwych' dydyn? Ond weithiau gall hynny deimlo braidd yn dwyllodrus wrth i ni syllu allan drwy'r ffenest ganol gaeaf a gweld y glaw yn curo yn ei herbyn.

Ond ar ôl mwynhau’r awyr agored fy hun, fel person hoff o chwaraeon ac fel Llysgennad Ifanc, rhaid i mi ddweud ei fod e wir yn wych. Mynd am dro, loncian, ar olwynion, beth bynnag – gall fod yn wych i ni bobl ifanc.

Os ydych chi'n mynd allan i’r awyr agored, neu'n aros y tu mewn, mae llond gwlad o astudiaethau'n awgrymu bod ymarfer corff, a chadw’n actif, yn wych i'n corff a'n meddwl ni. Ac os yw gwyddoniaeth yn dweud bod hynny’n wir, mae’n rhaid ei fod e, dydi? 

 

Hefyd, rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weld yn uniongyrchol beth yw manteision corfforol, gwybyddol a chymdeithasol chwaraeon a gweithgarwch corfforol. 

Dyma un esiampl: drwy gydol fy amser yn y brifysgol, roeddwn i’n teimlo ei fod yn fuddiol iawn i mi gymryd seibiant yn rheolaidd, yn enwedig yn ystod cyfnodau llawn straen, hyd yn oed os mai dim ond mynd am dro oedd hynny, neu sesiwn byr yn y gampfa. Rhowch gynnig ar hyn eich hun, ac o ddifrif, fe fyddwch chi’n teimlo'r gwahaniaeth. I mi, fe wnes i sylweddoli ’mod i’n teimlo'n bositif ac yn hapus, ac fel Llysgennad Ifanc, rydw i wedi siarad gyda llawer iawn o bobl ifanc sy'n teimlo'r un fath. 

Hefyd mae ymarfer corff yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd; does dim rhaid i chi fod yn Gareth Bale i gicio pêl, nac yn Tanni Grey Thompson i fynd am sbin yn eich cadair olwyn. Gall gwneud rhywbeth, unrhyw beth, roi hwb da i chi.

Mae mwy o ffyrdd nag erioed o gysylltu â phobl eraill drwy chwaraeon hefyd. Cofnodi eich taith gerdded ar Strava? Ymaferion dawns ar TikTok? A hynny heb sôn am ymuno â'ch tîm lleol; pêl rwyd, pêl droed, hoci, rygbi... mae’n ddiddiwedd.

Dod o hyd i'r hyn sy'n gweithio orau 

Does dim ateb hud i gael pobl ifanc i fod yn actif; efallai na fydd rhywbeth sy'n gweithio i un person ifanc yn gweithio i berson arall. Er hynny, un neges allweddol rydw i bob amser yn ceisio'i chynnwys yw'r 'ffactor hwyl'. Os ydych chi'n mwynhau rhywbeth – hyd yn oed os nad ydych chi'n mynd i fod yn broffesiynol – mae'n debygol o wneud i chi deimlo'n wych. Ac fel pobl ifanc, mae’n syniad grêt gwneud rhywbeth sy’n gwneud i ni deimlo'n dda, ac yn ein helpu ni i gadw'n iach. 

Ar yr olwg gyntaf, gall cicio neu daflu pêl edrych fel sgil sylfaenol. Ond mae cymaint o fanteision i bobl ifanc wrth gymryd rhan mewn chwaraeon neu ffordd actif o fyw; ac mae hyn yn amrywio o'r adeg pan rydych chi'n siglo hyd y lle yn blentyn bach iawn i pan rydych chi'n cymdeithasu gyda'ch ffrindiau ar ôl ysgol. 

Gyda chymaint o bobl ifanc yn styc gartref ar hyn o bryd yng Nghymru, a gweddill y DU, rydyn ni’n treulio mwy o amser nag arfer dan do mae’n bur debyg, a llai o amser yn datblygu ein sgiliau cymdeithasol. Ond gydag amser i sbario, mae gennym ni gyfle gwych i fynd allan – ie, i’r awyr agored gwych – gyda'r teulu a mwynhau’r amgylchedd hardd sydd gennym ni yng Nghymru. 

Rhai syniadau i roi cynnig ar ffyrdd newydd o fod yn actif bob dydd

  • Mae cerdded yn cael ei anwybyddu yn aml ond mae'n cynnig gweithgaredd effaith isel sy'n hygyrch i lawer. Gall cynnwys taith gerdded yn eich trefn ddyddiol fod o fudd nid yn unig yn gorfforol, ond yn seicolegol hefyd, gan ei fod yn helpu i rannu'r diwrnod ac yn darparu seibiant o ddysgu dan do.
  • Gosodwch heriau gyda'ch ffrindiau a'ch teulu, fel rhoi cynnig ar gamp newydd, gwella eich hyblygrwydd neu anelu at nod newydd ar gyfer camau dyddiol. Trafodwch eich syniadau gyda'ch gilydd! Mae fy mam a fi wedi herio ein gilydd i gwblhau 12,000 o gamau bob dydd – mae'n help mawr i ni godi a symud, hyd yn oed ar y dyddiau pan nad ydyn ni eisiau gwneud hynny. 
  • Mae technoleg yn rhan fawr o fywydau pawb ar hyn o bryd, ar wahân i ddysgu o bell mae'n ein galluogi ni i gadw mewn cysylltiad â'n cyd-ddisgyblion, y teulu a'r ffrindiau hynny rydyn ni’n eu colli ar hyn o bryd. Rydw i'n hoffi estyn am fy nghlustffonau a ffonio taid a nain pan rydw i’n cerdded – mae'r amser yn hedfan heibio. 
  • Gwnewch newid positif – yn hytrach na gwrando ar yr un rhestri chwarae o gerddoriaeth o hyd, gofynnwch i ffrind neu aelod o'r teulu am argymhelliad newydd y gallwch wrando arno wrth i chi gerdded, beicio neu redeg (efallai y byddwch yn dod o hyd i ffefryn newydd)!
  • Mae podlediadau wedi dod yn rhan reolaidd o fy nhrefn ddyddiol i. Drwy gydol fy amser yn y brifysgol, roeddwn i’n teimlo bod dysgu llawer iawn o wybodaeth yn heriol, ac wedyn fe wnes i ddarganfod podlediadau'r BBC – oedd yn galluogi i mi ddysgu wrth symud o gwmpas a chael seibiant hollbwysig oddi wrth eistedd o flaen sgrin!
  • Weithiau gall cerdded neu loncian fod yn undonog braidd, neu'n ddiflas pan rydych chi ar eich pen eich hun – mae'r rheolau yng Nghymru wedi’u llacio ac rydych chi’n cael ymarfer gyda rhywun o aelwyd arall. Beth am gwrdd â ffrind neu gymydog ac archwilio un o'ch llwybrau cyhoeddus lleol. Gall y cyfle i gael awyr iach a gweld wyneb cyfeillgar roi hwb mawr i'ch hwyliau os ydych chi'n teimlo braidd yn ynysig – mae'n rhoi gwên ar fy wyneb i yn sicr. 
  • Ddim yn hoffi cerdded neu redeg? Ydych chi wedi rhoi cynnig ar ddawns neu Swmba? Gofynnwch i'ch ffrindiau a'ch cyfoedion beth sydd wedi bod yn eu cadw nhw’n actif – rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Mae ioga rhithwir yn un o fy ffefrynnau i i’w ddilyn gyda fy ffrindiau.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy