Ydi'r pêl fasged 3 yn erbyn 3 llawn cyffro yn y Gemau Olympaidd wedi gwneud i chi neu eich plant ddyheu am fynd ar gwrt i roi cynnig ar y gamp?
Neu efallai bod holl wefr y cystadlaethau rygbi 7 bob ochr, pêl droed, hoci a thennis wedi eich ysbrydoli chi?
Diolch i gyllid Chwaraeon Cymru, fe all llawer o gymunedau ledled Cymru edrych ymlaen at fwynhau’r pum camp Olympaidd yma, a hefyd pêl rwyd, ar arwynebau newydd a gwell.
Cyrtiau newydd ar gyfer pêl fasged, pêl rwyd a thennis
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae Chwaraeon Cymru wedi buddsoddi tua £800,000 – gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru – mewn prosiectau ‘cydweithredu gyda chyrtiau’ i greu cyfleusterau gwell ar gyfer chwarae pêl fasged, pêl rwyd a thennis.
Gweithiodd Chwaraeon Cymru gyda sefydliad Tennis Cymru, Pêl Rwyd Cymru a Phêl Fasged Cymru, yn ogystal ag awdurdodau lleol, i ddewis lleoliadau allweddol heb gyfleusterau modern. Roedd y penderfyniadau ynghylch pa safleoedd i’w huwchraddio yn seiliedig ar y galw ym mhob ardal ymhlith plant i gymryd rhan yn y chwaraeon penodol hynny, fel y nodwyd gan Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022.
Er enghraifft, canfu’r arolwg fod 43% o blant yn Nhorfaen eisiau mwy o gyfleoedd i chwarae pêl fasged, felly mae prosiect adnewyddu cwrt ym Mlaenafon sy’n blaenoriaethu pêl fasged yn gwneud synnwyr perffaith.
Gan ddefnyddio'r cyllid, mae cyrtiau sydd wedi dirywio neu oedd ddim yn cael eu defnyddio yn cael eu trawsnewid gydag arwynebau newydd, marciau llinell a'r cylchoedd a'r rhwydi angenrheidiol.
Caeau newydd ar gyfer pêl droed, rygbi a hoci
Mae ychydig mwy na £1m wedi cael ei neilltuo hefyd i naill ai uwchraddio neu greu caeau artiffisial newydd a fydd yn gwella cyfleoedd ar gyfer chwarae rygbi, pêl droed a hoci. Mae pedwar prosiect wedi rhannu’r cyllid yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda Chwaraeon Cymru yn gweithio ar y cyd ag Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Bêl Droed Cymru a Hoci Cymru i ddarparu’r mathau priodol o gaeau artiffisial yn y rhannau priodol o Gymru.
Bodloni’r galw
Wrth gyflwyno sylwadau ar y buddsoddiadau, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru, Brian Davies: “Rydyn ni bob amser yn falch o gefnogi ein sefydliadau partner ni i ddarparu gwell cyrtiau chwaraeon a chaeau artiffisial yn y llefydd o amgylch Cymru sydd eu hangen fwyaf.
“Mae’r cydweithredu gyda chyrtiau’n bodloni’r galw am fwy o lefydd lle gall pobl fwynhau gemau achlysurol o dennis, pêl rwyd a phêl fasged, ac mae galw mawr am gaeau artiffisial o hyd.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid ni i wneud chwaraeon mor hygyrch â phosibl fel bod pob person sy’n cael ei ysbrydoli gan weld athletwyr Cymru’n cystadlu ar y llwyfan mwyaf yr haf yma’n cael y cyfle i fwynhau’r chwaraeon sy’n apelio atyn nhw.
“Os ydyn nhw’n cydio mewn bat tennis bwrdd am y tro cyntaf, neu’n rhoi cynnig ar bêl fasged neu BMX neu sglefrfyrddio, rydyn ni eisiau i bob person yng Nghymru fwynhau chwaraeon a pharhau i fod yn actif drwy gydol eu hoes.
“Bydd rownd arall o gyllid cydweithredu gyda chyrtiau’n cael ei fuddsoddi mewn cymunedau yn ystod y flwyddyn ariannol yma, gyda datganiadau o ddiddordeb yn cael eu gwahodd gan awdurdodau lleol ddechrau mis Medi.
“Fe gaeodd y ceisiadau ar gyfer y gronfa cydweithredu gyda chaeau am eleni yn ddiweddar, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gyhoeddi’r prosiectau llwyddiannus yn nes ymlaen eleni.”