Dywedodd Ben Lightowler, ffisiotherapydd a chadeirydd Clwb Beicio Wedi’i Addasu Freewheelers Conwy: “Roedd gwir angen datblygu cyfleoedd mwy cynhwysol i bobl yn yr ardal leol. Roedd plant ac oedolion ag anableddau yn ei chael yn anodd iawn mynd allan ac ymuno mewn unrhyw fath o weithgareddau oherwydd nad oedd unrhyw beth ar gael. Roeddwn i'n arfer gwirfoddoli i glwb pêl fasged cadair olwyn, felly fe wnes i gytuno i ymuno â rhywbeth ddechreuodd fel cynllun peilot.
“Drwy gyllid gan Chwaraeon Cymru, Cronfa Gofal Canolraddol Conwy, Cronfa Gwynt y Môr a Chronfa Gwastadeddau’r Rhyl, mae gennym ni bellach fflyd o fwy nag 20 o feiciau wedi’u haddasu ar gyfer pobl o bob gallu. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n dod yma erioed wedi bod ar feic o'r blaen, ac mae rhai ohonyn nhw’n ein gadael ni ar ôl prynu eu beic wedi'i addasu eu hunain ac yn gallu ymuno â'u teulu ar daith feicio egnïol. Dylai pawb gael y cyfle i ddatblygu sgiliau fel beicio, y cyfan sydd ei angen yw rhoi'r gefnogaeth iawn i bobl wneud hyn. "
Yma yn Chwaraeon Cymru, rydyn ni wedi lansio ymgyrch newydd i helpu pobl ledled Cymru i gysylltu â chwaraeon ac ymarfer corff.
Dywedodd Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd ei bod hi’n amser i bawb fod nôl yn y gêm a mwynhau manteision enfawr chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Rydyn ni’n falch o fod yn cefnogi clybiau fel Clwb Beicio Wedi’i Addasu Freewheelers Conwy ac eisiau diolch i wirfoddolwyr ledled Cymru am ddarparu'r cyfleoedd cynhwysol yma.
“Mae ein hymchwil diweddar yn dangos bod mwy nag 1 o bob 4 o bobl yng Nghymru eisiau gwirfoddoli yn y byd chwaraeon. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â chlwb chwaraeon lleol neu siaradwch â Chorff Rheoli Cenedlaethol camp benodol. Drwy waith gwych gwirfoddolwyr y gallwn ni sicrhau bod cyfleoedd amrywiol ar gael i bawb.”