Mae seren y byd para chwaraeon, Harrison Walsh, yn gwybod mwy na’r mwyafrif am ba mor bwerus y gall chwaraeon fod o ran helpu rhywun i ddod i delerau ag anaf sy’n newid bywyd.
Nawr, mae'n annog pobl anabl eraill i gymryd rhan yng Ngŵyl Para Chwaraeon Abertawe yr haf yma.
Gan ddechrau gyda digwyddiad insport Chwaraeon Anabledd Cymru ym Mhrifysgol Abertawe ar 1 Awst 2022, bydd yr ŵyl yn cynnig 5,000 o gyfleoedd i gymryd rhan yn ystod yr haf, gan gynnwys pum digwyddiad cystadleuol mewn gwahanol leoliadau.
Hefyd bydd yr Ŵyl Para Chwaraeon yn ychwanegu at yr awyrgylch o amgylch Abertawe dros benwythnos 6/7 Awst, ochr yn ochr â Thriathlon Cyfres Para y Byd ac Ironman 70.3 Abertawe.
Un o brif amcanion yr ŵyl yw cynnig cyfleoedd i athletwyr elitaidd ac ar lawr gwlad o bob oedran.
Yn 2015, wythnos yn unig cyn bod Harrison i fod i chwarae rygbi i dîm Dan 20 Cymru yn erbyn Lloegr, cafodd anaf erchyll i'w goes mewn damwain wrth chwarae mewn gêm glwb dros Abertawe.
O ganlyniad, nid yn unig y daeth â’i uchelgais rygbi i ben ond hefyd gadawodd Harrison gyda dim ond symudiad rhannol a dim teimlad yn ei droed dde oherwydd maint y niwed i'r nerfau.
“Roedd yn bwysig iawn i mi ddod o hyd i gamp arall gan fod chwaraeon yn rhan mor enfawr o fy mywyd i a bywyd fy nheulu,” meddai Harrison, a oedd hefyd ar lyfrau’r Gweilch.
“Roeddwn i’n ysu am i fy angerdd i dros chwaraeon barhau ac roedd yn wych darganfod hynny o fewn chwaraeon anabledd.
“Roeddwn i wir yn hoffi’r cymhelliant o wella a gwella ac roedd yn bwysig parhau â hynny mewn camp arall.”
Mae Harrison yn llawn canmoliaeth i Chwaraeon Anabledd Cymru ac mae'n hynod ddiolchgar iddynt am ei helpu i addasu i'w ffordd newydd o fyw.
“Mae’n anodd meddwl am y geiriau i ddisgrifio pa mor dda yw Chwaraeon Anabledd Cymru,” meddai.
“Maen nhw’n gwneud cymaint o waith i hybu chwaraeon ar bob lefel. Maen nhw wir wedi fy helpu i setlo mewn amgylchedd newydd.
“Mae pobl yn cael nam mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywydau ac maen nhw'n sensitif iawn ynglŷn â sut maen nhw'n eich helpu chi.
“Roeddwn i’n dod o chwaraeon lefel uchel ac roedd ChAC yn dda iawn yn fy helpu i addasu i ffordd newydd o fyw.
“Alla’ i ddim diolch digon i bobl fel Nathan (Stevens), Anthony (Hughes) a’r holl athletwyr eraill.”
Rhoddwyd penderfyniad meddyliol Harrison ar brawf unwaith eto yn y Gemau Paralympaidd y llynedd pan gafodd ei anafu ar yr eiliad olaf un.
“Fe gefais i anaf allan yn Tokyo ond dyna sut mae chwaraeon, yn anffodus.
“Roeddwn i wir yn dyheu am wneud yn dda allan yna, ond roedd yn syndod pleserus cael fy newis yn y lle cyntaf oherwydd doeddwn i ddim yn disgwyl hynny ar ddechrau’r flwyddyn.
“Roeddwn i’n chwarae’n llawer gwell na’r disgwyl y llynedd ac roeddwn i’n ddiolchgar iawn o gael y cyfle.
“Fe wnes i ddysgu llawer o Tokyo yr un fath a gobeithio y bydd hynny’n fy helpu i ennill aur ym Mharis, Brisbane ac LA, gobeithio.”