Pan wnaeth Harrison Walsh, a fydd yn cystadlu am y tro cyntaf eleni fel Paralympiad, ddechrau ar ei siwrnai athletau, roedd yn amlwg i’w hyfforddwr bod ganddo seren y dyfodol ar ei ddwylo.
Bydd Walsh – a oedd yn chwaraewr rygbi hynod addawol gyda’r Gweilch cyn i anaf difrifol gau’r llwybr hwnnw iddo – yn cystadlu yn y Ddisgen F64 yn y Gemau Paralympaidd gan geisio ennill medal yn ei Gemau cyntaf.
Yn ymuno ag ef yn Tokyo bydd chwe athletwr trac a chae arall o Gymru, gan gynnwys Aled Davies, a fydd yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd am y trydydd tro yn y Taflu Maen F63.
Mae Hollie Arnold (Gwaywffon F46), Olivia Breen (Naid Hir a 100m T38), Sabrina Fortune (Taflu Maen F20), Kyron Duke (Taflu Maen F41) a Harri Jenkins (100m T33) wedi’u dewis hefyd.
Y tu hwnt i athletau, mae Cymru hefyd yn cael ei chynrychioli mewn chwaraeon fel rhwyfo, taekwondo, tennis bwrdd a chanŵio.
Fe wnaeth brwdfrydedd a dyhead Walsh i fod y gorau yn ei faes argraff ar Anthony Hughes, cyfarwyddwr perfformiad cenedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru, ar unwaith.
“Roedd Harrison eisiau gwybodaeth, roedd mor awyddus,” meddai Hughes, sydd wedi bod ag angerdd gydol ei oes dros chwaraeon anabledd.
“Pan wnes i gwrdd ag ef i ddechrau, roedd yn amlwg yn ddyn ifanc a oedd yn broffesiynol tu hwnt. Fe allech chi ddweud ei fod wedi bod mewn academi rygbi o’r safon uchaf.
“Ar ôl clywed am ei addewid gan hyfforddwyr yn Abertawe, fe wnes i ei wahodd i Gaerdydd er mwyn i mi gael golwg arno fy hun. Fe wnaeth yr hyn welais i argraff fawr arna’ i.”
Cystadlodd Hughes yn y Gemau Paralympaidd ei hun yn 1992 ac mae wedi gosod safonau uchel drwy gydol ei yrfa.
Sylwodd hefyd ar Harrison yn gosod y bar yn uchel iddo'i hun ac roedd gallu'r llanc ifanc i fod yn ddisgybledig a chadarnhaol yn creu argraff arno, nodweddion y credai oedd wedi deillio o'i fywyd y tu hwnt i chwaraeon.
“Rydw i’n credu bod ei broffesiynoldeb yn dod o weithio ym mwyty ei dad - Patrick’s - yn y Mwmbwls.
“Fe es i am bryd o fwyd yno ar ôl cwrdd ag ef gyntaf ac roedd Harrison yn gweithio tra roeddwn i yno ac fe allech chi weld bod ganddo safonau uchel iawn.
“Rydw i bob amser yn ei glywed yn dweud wrth rai o athletwyr ifanc yr academi, ‘pa bynnag amser y mae angen i chi gyrraedd, gwnewch yn siŵr eich bod chi yno o leiaf 10 munud yn gynnar’.
“A dyna grynhoi Harrison i mi.”
Mae’r safonau uchel hynny yn amlwg i’w gweld yng nghyflawniadau Walsh hyd yn hyn.
Enillodd efydd wrth gystadlu am y tro cyntaf ym Mhencampwriaethau Para Ewrop yn ogystal â chymhwyso ar gyfer y Gemau Paralympaidd sydd i ddod.
“Cyn gynted ag y cafodd ddosbarth, fe drodd ata’ i a dweud, ‘Rydw i eisiau mynd i’r Gemau Paralympaidd’,” meddai Hughes, a dderbyniodd MBE yn 2013 am ei wasanaethau i chwaraeon anabledd yng Nghymru.
“Roedd ei yrfa i gyd wedi’i mapio ganddo. Roedd yn achos o arafu pethau a dweud, ar hyn o bryd, beth am i ni ganolbwyntio ar y dysgu.
“Un peth oedd yn anodd iddo ar y dechrau rwy’n credu oedd addasu i’n hamgylchedd ni oherwydd er ei fod ar ben uchaf ein rhaglen ni, nid yw mor ddwys â bod mewn clwb rygbi proffesiynol.
“Rydw i’n credu ei fod yn teimlo ychydig yn fflat. Dydych chi ddim yn cael yr un faint o sylw o'r tu allan gyda chwaraeon anabledd ag ydych chi gyda rygbi.
“Roedd angen iddo ddeall y byd newydd yr oedd wedi dod i mewn iddo.”