Mae Harrison Walsh yn mynd i Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham – esiampl i bawb o pan fydd un drws yn cau, mae un arall yn agor.
Roedd y llanc 26 oed o’r Mwmbwls ar ddechrau gyrfa rygbi addawol, yn chwarae i Glwb Rygbi’r Gweilch ac Abertawe, pan gafodd anaf cas ar y cae yn ddim ond 19 oed.
Digwyddodd yr ergyd wythnos yn unig cyn yr oedd i fod i chwarae dros Gymru yn erbyn Lloegr Dan 20.
Nid yn unig y daeth yr anaf â'i yrfa rygbi i ben, ond hefyd fe'i gadawodd gyda symudiad rhannol yn unig a dim teimlad yn ei droed oherwydd niwed sylweddol i'w nerfau.
Wrth i’r cyn brop pen rhydd dreulio dwy flynedd yn ceisio ailadeiladu ei goes dde a'i yrfa rygbi, cyfarfu â'r hyfforddwr David Jones a awgrymodd bod Harrison yn rhoi cynnig ar bara-athletau.
Ac yntau bellach yn bara-athletwr rhyngwladol yn cystadlu yn y ddisgen a’r maen, mae Harrison yn llawn canmoliaeth i Jones a Chwaraeon Anabledd Cymru am ei helpu i addasu i’w ffordd newydd o fyw.
“Mae’n anodd meddwl am y geiriau i ddisgrifio pa mor dda yw Chwaraeon Anabledd Cymru,” meddai Harrison.
I ddechrau, mae'n cyfaddef iddo deimlo bod y trawsnewid yn anodd, ond buan iawn y gwelodd ei hun yn gwella.
“Roedd yn bwysig iawn i mi ddod o hyd i gamp arall gan fod chwaraeon yn rhan mor enfawr o fy mywyd i a bywyd fy nheulu,” meddai.
“Roeddwn i’n dyheu i fy angerdd i dros chwaraeon barhau ac roedd yn wych dod o hyd i hynny o fewn chwaraeon anabledd.
“Roeddwn i wir yn hoffi’r cymhelliant o wella a gwella ac roedd yn bwysig parhau â hynny mewn camp arall.”
Fe arhosodd proffesiynoldeb Harrison a’i ewyllys i ennill gydag ef o’i ddyddiau rygbi a gwnaeth argraff ar unwaith ar Anthony Hughes, rheolwr perfformiad cenedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru.
“Roedd gan Harrison awch am wybodaeth, roedd e mor frwd,” meddai Hughes, sydd wedi bod ag angerdd oes dros chwaraeon anabledd.
“Pan wnes i gwrdd ag ef gyntaf, roedd yn amlwg yn ddyn ifanc a oedd yn broffesiynol iawn. Fe allech chi ddweud ei fod wedi bod gydag academi rygbi o'r radd flaenaf.
“Ar ôl clywed am ei addewid gan hyfforddwyr yn Abertawe, fe wnes i ei wahodd i Gaerdydd er mwyn i mi gael golwg arno fy hun. Fe wnaeth yr hyn welais i argraff fawr arna i.
“Rydw i bob amser yn ei glywed yn dweud wrth yr athletwyr academi ifanc, pa bynnag amser y mae angen iddyn nhw gyrraedd, y dylen nhw sicrhau eu bod nhw’n cyrraedd yno o leiaf 10 munud yn gynnar.
“Mae hynny'n crynhoi Harrison, i mi.”