Skip to main content

Heather Lewis - Y ffermwr llaeth sy’n profi nad yw hi byth yn rhy hwyr i chwaraeon

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Heather Lewis - Y ffermwr llaeth sy’n profi nad yw hi byth yn rhy hwyr i chwaraeon

Bydd Heather Lewis yn cerdded yn dalog dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad – ac yn profi nad yw hi byth yn rhy hwyr i roi cynnig ar gamp newydd.

Mae Lewis wedi bod yn jyglo ei blaenoriaethau rhwng fferm laeth ei theulu a cherdded rasio drwy gydol ei gyrfa athletau elitaidd, ond mae’n benderfynol mai nawr yw ei hamser ar ôl cael profiad o’r Gemau ar yr Arfordir Aur bedair blynedd yn ôl.

Sicrhaodd yr athletwraig 28 oed fedal aur ym Mhencampwriaethau Athletau’r DU yn ddiweddar yn y cerdded rasio 5K ac mae’n edrych yn addawol y bydd ar ei gorau eto yn Birmingham.

Ymddiddorodd Heather, o Hwlffordd, mewn cerdded rasio yn weddol hwyr yn ei gyrfa, yn 15 oed, ond roedd hoffter ei theulu o chwaraeon yn llwyfan iddi ddod yn un o gerddwyr rasio gorau’r byd.

Daeth yr aelod o Harriers Sir Benfro at y gamp hon ar ôl cael cais i gymryd rhan mewn cerdded rasio i helpu i ennill pwyntiau i'w thîm yng nghyfarfod lleol Louise Arthur ar gyfer athletwyr ifanc.

Gwelodd yr hyfforddwyr lleol ei photensial ac fe wnaeth penderfyniad Heather i ennill, ynghyd â dipyn o gystadleuaeth rhyngddi hi a’i chwiorydd, ei sbarduno ymlaen.

“Roedd fy rhieni i bob amser yn fy annog i a fy chwiorydd i roi cynnig ar wahanol chwaraeon ac fe wnaethon ni gymryd rhan o oedran ifanc,” meddai.

“Mae ein teulu ni’n actif iawn ac fe wnaethon ni fwynhau chwaraeon gyda’n gilydd, felly bydden ni i gyd yn mynd i redeg a nofio. Dyna beth oedden ni i gyd ei fwynhau, felly roedd yn wych treulio amser gyda nhw. Fe wnaethon ni roi cynnig ar bopeth, gan fwynhau bod allan gyda'n gilydd.

“Yn ifanc iawn, fe wnaethon ni lawer o gymnasteg. Roeddwn i a fy nhair chwaer yn mwynhau’r un chwaraeon, felly roedden ni’n mwynhau cystadlu yn erbyn ein gilydd – mewn rhedeg neu nofio.

“Roedden ni’n cael cychwyn gyda’r Harriers yn wyth oed ac unwaith i ni ddechrau fe wnaethon ni sylweddoli i gyd ein bod ni wrth ein bodd gyda rhedeg pellter hir.

“Rydw i bob amser yn meddwl tybed pam i fod yn onest. Fe gefais i jyst switsh yn fy mhen ac fe ddigwyddodd e.

“Ond roeddwn i wrth fy modd gyda’r gymuned cerdded rasio. Hyd yn oed pan fyddwch chi'n teithio'r byd a dydyn nhw ddim yn gallu siarad eich iaith chi, maen nhw mor gefnogol.

“Mae'n rhaid i mi fod yn onest hefyd, fe ddechreuodd fy nwy chwaer iau i, Josie a Poppy, ddod yn dda am redeg, ac roeddwn i eisiau rhywbeth i mi fy hun ac felly fe es i â'r cerdded rasio i lefel arall, ac fe wnes i fwynhau cymaint. ”

Mae Heather yn rhannu ei hamser rhwng hyfforddiant a busnes fferm laeth a thwristiaeth ei theulu.

Mae hi'n tueddu i hyfforddi cyn ac ar ôl gwaith ond mae wedi gorfod dysgu sut i gydbwyso ei hamser y ffordd galed dros y blynyddoedd.

“Mae wedi bod yn anodd ac mae cyfnodau da a drwg wedi bod. Rydw i wedi gorfod sylweddoli’r hyn rydw i’n gallu ymdopi ag e oherwydd rydw i eisiau bod yn helpu drwy’r amser, ond mae’n bwysig cydbwyso hynny gyda hyfforddiant.

“Yn ystod gwyliau’r haf, gall fod yn brysur iawn. Ond rydw i bob amser yn cwblhau fy hyfforddiant yn gynnar ac wedyn pan fydd y fferm wedi cau. Mae'n golygu y gallaf wneud fy holl hyfforddiant i gyd a hefyd helpu o amgylch y parc.

“Roedd ras ar ddiwedd y tymor diwethaf a oedd yn cyd-daro â gwyliau’r haf ac fe aeth y ras yn iawn, ond fe allwn i ddweud fy mod i wedi blino’n lân.

“Nawr, rydw i wedi dysgu bod ychydig yn fwy hunanol ond rydw i hefyd wedi gallu cydbwyso’r ddau yn well nawr.”

Chwith: Heather yn gweithio fel ffermwr llaeth gyda’i dwy chwaer. Dde: Heather gyda chyd-gerddwr rasio Cymru, Bethan Davies
Chwith: Heather yn gweithio fel ffermwr llaeth gyda’i dwy chwaer. Dde: Heather gyda chyd-gerddwr rasio Cymru, Bethan Davies
Rydw i bob amser yn cwblhau fy hyfforddiant yn gynnar ac wedyn pan fydd y fferm wedi cau. Mae'n golygu y gallaf wneud fy holl hyfforddiant i gyd a hefyd helpu o amgylch y parc.
Heather Lewis

Mae Lewis wedi aros yn driw i’w gwreiddiau ac mae’n parhau i gystadlu gyda Harriers Sir Benfro, lle dechreuodd ei gyrfa.

“Martin Bell oedd fy hyfforddwr iau i. Roedd yn wych a dyna'r rheswm pam wnes i ddechrau cerdded rasio. Ef oedd yr un ddaeth ataf i, fy nghymryd i dan ei adain a dweud wrtha’ i fy mod i’n gallu gwneud yn dda.

“Fe roddodd gymaint o anogaeth a hyder i mi. Mae'n dal i fod yn anhygoel gyda mi, mae'n dal i roi awgrymiadau i mi ar gyfer ochr dechnegol pethau.

“Os ydw i’n cael anhawster, fe fydd bob amser yn cyfarfod ac yn rhoi rhywfaint o gefnogaeth i mi, felly rydw i mor ffodus fy mod i wedi cadw mewn cysylltiad ag e.

“Fe yw’r un wnaeth fy nenu i at y gamp ac mae’n fentor gwych, yn foi gwych, ac rydw i’n ddyledus iawn iddo fe.

“Rydw i wastad wedi bod gyda Harriers Sir Benfro ac mae’n hyfryd fy mod i wedi treulio fy ngyrfa gyda nhw. Pete Freeman oedd fy hen hyfforddwr i ac mae’n dal i helpu gyda fy hyfforddi gan fy mod i yng Ngorllewin Cymru.

“Felly, rydw i mor ffodus o’u cael nhw. Mae Martin yn 70 oed ac mae’n dal i ddod gyda mi ar ei feic gyda chwiban.”

Mae Lewis a’i chyd gerddwr rasio yn Nhîm Cymru, Bethan Davies, wedi bod yn cystadlu’n rhagorol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’r partneriaid hyfforddi wedi bod yn gwthio ei gilydd at lwyddiant pellach.

Bydd y ddwy yn gobeithio parhau â'r rhediad hwnnw yn Birmingham, wrth i'r gystadleuaeth gynhesu.

“Mae Beth yn anhygoel i gystadlu â hi, mae hi bob amser yn fy ngwthio i. Rydw i’n credu ein bod ni'n gwthio ein gilydd ymlaen cymaint.

“Hebddi hi fe fyddai’n anodd dal ati i ddatblygu o hyd. Rydw i wedi dysgu cymaint ganddi, rydw i’n gobeithio y gallwn ni ein dwy fynd amdani a gwneud yn dda iawn. Mae hi’n ffrind mor dda yn ogystal â phartner hyfforddi.”

Cynrychiolodd Heather Gymru yn Awstralia bedair blynedd yn ôl ond mae wedi parhau i wella a chodi i fyny yn y safleoedd.

Mae hi'n cofio: “Roedd yn brofiad mor wych mynd i'r Arfordir Aur yn 2018. Roedd yn beth da iawn i mi, i fy helpu i ddatblygu. Roedd yn anhygoel.

“Rydw i’n teimlo fy mod i wedi symud ymlaen cymaint ar ôl hynny oherwydd roeddwn i eisiau mwy. Roedd yn gyfle anhygoel, roeddwn i wrth fy modd yn rhoi fest Cymru amdanaf, mae’n beth enfawr i ni Gymry!”

Mae’r Gemau eleni yn llawer mwy lleol i athletwyr Cymru ac ychwanegodd Lewis: “Rydw i’n ffodus bod fy rhieni a fy mhartner i’n dod lan i wylio, ond mae’n rhaid i fy chwiorydd druan i aros gartref a gweithio ar y fferm!

“Ond mae’n anhygoel cael rhai o fy nheulu i yno gan nad oedden nhw’n gallu teithio i Awstralia am resymau amlwg.

“Rydw i’n gyffrous iawn eu bod nhw’n dod i fy ngweld i oherwydd maen nhw mor brysur o hyd. Mae'n mynd i fod yn wych.

“Mae’n gymaint o anrhydedd, mae pob tro rydw i’n gwisgo fest Cymru yn anhygoel. Mae bob amser yn awyrgylch anhygoel.”

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy