Mae Helen Ward yn credu bod chwaraeon yn symud i'r cyfeiriad iawn o ran delio â beichiogrwydd a bod yn fam – ond ni fydd hynny'n ei hatal rhag poeni am weld ei phlant ei hun ar Sul y Mamau.
Mae’r ymosodwr eiconig o Gymru - sy'n dod yn agosach at ennill 100 o gapiau rhyngwladol dros ei gwlad - yn chwarae i Watford i ffwrdd yn Sunderland ddydd Sul.
Mae'n golygu taith hir yn ôl i lawr i'r de, a dim gwastraffu amser os yw hi am gael cardiau a chusanau gan Emily sy'n saith oed, a Charlie sy'n bedair oed.
“Dydw i ddim yn siŵr a fydda i hyd yn oed yn eu gweld ar Sul y Mamau," meddai. "Mae'r gic gyntaf am 12.30, felly efallai y byddaf yn ôl erbyn amser gwely!”
Nid yw canfod y cydbwysedd rhwng bod yn fam a chwaraeon elît yn dasg hawdd, yn yr un modd ag y gall ceisio sicrhau amser i wneud gweithgarwch corfforol o amgylch plant fod yn anodd i unrhyw fam.
Ond mae Ward yn credu bod pêl-droed a chwaraeon eraill yn gwella yn araf, hyd yn oed o'r adeg wyth mlynedd yn ôl pan oedd hi'n feichiog am y tro cyntaf.
Ers hynny, mae Serena Williams wedi ennill twrnamaint tenis y Gamp Lawn pan oedd hi'n feichiog, sylweddolodd y beiciwr o Gymru, Elinor Barker, ei bod yn feichiog tra’r oedd gyda thîm Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Tokyo y llynedd, ac mae Uwch Gynghrair y Merched (WSL) yn cyflwyno cymalau mamolaeth i gontractau chwaraewyr.
Unwaith y bydd gan athletwyr eu plant, yna mae llawer o chwaraeon yn mabwysiadu systemau mwy hyblyg sydd â'r nod o ddiogelu statws y mamau hynny o fewn y gamp a lefelau eu hincwm.
Y llynedd, cyflwynodd UK Sport ganllawiau beichiogrwydd swyddogol ar gyfer athletwyr Tîm Prydain Fawr am y tro cyntaf, gyda'r sefydliad yn dweud "na ddylai dechrau teulu a bod yn athletwr elît ddibynnu ar ei gilydd.”
Cynlluniwyd y canllawiau newydd i gefnogi athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd “cyn genedigaeth, yn ystod, ac ar ôl genedigaeth."
Dywedodd Ward, a allai gyrraedd carreg filltir ac ennill ei 100fed cap yn erbyn Ffrainc mewn gêm ragbrofol hollbwysig yng Nghwpan y Byd fis nesaf: "Ro'n i wastad yn meddwl ar ôl i mi gael teulu mai dyna fyddai'r diwedd i mi o ran pêl-droed, ond cyn gynted ag yr oeddwn i'n feichiog gydag Emily, ro'n i'n gwybod yn syth nad oeddwn i'n barod i roi'r gorau i chwarae.
"Diolch byth, fe lwyddais i gael fy hun yn ôl i lefel dda a pharhau â fy ngyrfa.”
Ond heb fawr o wybodaeth wrth law, mae Helen yn cyfaddef nad oedd yn siŵr beth oedd hi’n ei wneud.
“Doedd dim llawer o chwaraewyr yn cario ymlaen felly doedd dim llawer o brofiad perthnasol gan famau eraill i mi fanteisio arno.
"Ro'n i'n ddigon ffodus i chwarae gyda Katie Chapman yn Arsenal ac roedd ganddi dri o blant, a Katie Sherwood, y bûm yn chwarae gyda hi dros Gymru.
"Mae Katie hefyd wedi cael tri o blant a daeth hi'n ôl ar ôl cael ei phlentyn cyntaf a'i hail. Felly, roedd gen i'r math yna o fodelau rôl, ond doedd dim llawer y gallech chi ddibynnu arnyn nhw, ac ychydig o wybodaeth, felly do’n i ddim yn siŵr beth o'n i’n ei wneud gydag Emily.”