“Sut mae rhieni’n cael sgyrsiau gyda’u plant heb ofyn ‘wnes di ennill? gefais di orau personol?’ yn unig, ond helpu plant i ddatblygu’r sgiliau meddwl hynny fel rhan o’r broses.”
Mae Shorter, sydd ag 20 mlynedd o brofiad yn y maes, yn awyddus i bwysleisio nad dosbarthiadau magu plant yw’r sesiynau, er eu bod yn canolbwyntio ar y rôl mae rhieni yn ei chwarae.
“Rydyn ni’n gwybod oddi wrth athletwyr bod rhieni’n eithriadol bwysig iddyn nhw hyd at y pwynt pan maen nhw’n ymddeol fel cyfranogwyr hŷn. Felly, sut mae rhieni’n jyglo’r siwrnai honno?
“Nid magu plant sy’n bwysig yn y fan yma, ond helpu ein plant i ffynnu mewn camp. ’Dyw rhieni ddim eisiau dod i sesiynau i ddysgu sut i fagu plant.
“Mae pob bod dynol yn gwybod mai’r rhieni yw’r bobl fwyaf dylanwadol yn eu datblygiad pan maen nhw’n iau.
“Mae’r un peth yn wir am athletwyr ifanc, rydyn ni eisiau gweld y plant yma’n cael y cyfle gorau i groesawu a datblygu eu potensial.
“Yr hyn mae’r pedwar sefydliad sy’n dod at ei gilydd gyda Chwaraeon Cymru ac eraill yn ei ddweud yw ‘sut mae helpu rhieni yn y rôl anhygoel yma?’ Does dim llawlyfr, ’dyw e ddim yn hawdd.
“Mae’n ymwneud â helpu rhieni i gynllunio atebion ar gyfer eu cyd-destun eu hunain. Nid ‘cynllun pum cam Richard ar gyfer rhyddhau potensial eich plant’ yw hwn.
“Rydyn ni’n cydnabod bod pob camp yn wahanol, pob grŵp oedran yn wahanol, pob rhyw yn wahanol, pob teulu yn wahanol. Nid un ateb addas i bawb yw hyn.
“Rydw i’n gwybod gyda phob un o fy mhlant i, pe bawn i’n gweithio yn yr un ffordd gyda phob un ohonyn nhw, fe fyddwn i’n methu, yn drychinebus. Rydw i’n addasu fy sgwrs am fod yn rhiant i gyd-fynd â chyd-destun y berthynas honno.
“Gobeithio y cawn ni lawer o hwyl gyda’n gilydd yn y sesiynau. Os bydd pobl yn dweud nad ydyn nhw wedi cael hwyl, fe fydda’ i’n siomedig iawn.”
Bydd y cyn weithiwr ieuenctid yn canolbwyntio ar y pwysau mwyaf mae athletwyr ifanc a’u teuluoedd yn ei wynebu.
“Pan rydw i’n gofyn i blant dan 13 oed i dan 18 oed ‘beth yw’r pwysau mwyaf arnoch chi?’ yr ateb bob amser bron yw jyglo’r cyfan... beth sydd ar frig y rhestr? Does gen i ddim ffon hud ar gyfer hynny.
“Ond beth mae hynny’n ei olygu yw pan rydyn ni’n jyglo’r cyfan, rydyn ni i gyd o dan ychydig mwy o bwysau, sy’n golygu bod y sgyrsiau gyda hyfforddwyr ac athletwyr yn gallu bod ychydig bach yn fwy anodd.