Mae tîm hoci dynion Cymru wedi bod yn dathlu dwbl ym mis Hydref i adeiladu ar eu cyflawniadau hanesyddol dros yr haf eleni.
I ddechrau, maent wedi cyrraedd eu safle uchaf erioed yn Safleoedd Hoci'r Byd diweddaraf yr FIH.
Wedyn, cafodd Jacob Draper ddechrau hynod lwyddiannus i'w yrfa ym Mhrydain Fawr pan oedd y chwaraewr rhyngwladol dros Gymru'n rhan o dîm Prydain Fawr a drechodd Sbaen yn Valencia.
Ar ôl disgleirio wrth chwarae dros Gymru yn ystod yr ymgyrch EuroHockey ddiweddar, ac yn aelod o garfan D21 Prydain Fawr a enillodd Gwpan Swltan Johor y llynedd, cafodd Draper chwarae am y tro cyntaf ar lefel hŷn i Brydain Fawr pan ddaeth oddi ar y fainc yn y chweched munud.
Wedi'r garreg filltir honno, daeth y newyddion yn dilyn eu perfformiad rhagorol wrth ddychwelyd i haen elitaidd hoci Ewrop y llynedd, mai Cymru sydd wedi dringo fwyaf yn y safleoedd diweddaraf gan eu bod wedi symud i'w safle uchaf erioed, sef 18fed yn y byd, o'u safle blaenorol o 25.
Bedair blynedd yn ôl yn unig, roedd Cymru yn EuroHockey III ac yn safle 36 yn y byd, ond eleni, yn dilyn dyrchafiadau cefn wrth gefn yn 2015 a 2017, maent yn cystadlu yn y Bencampwriaeth EuroHockey.
Hwn yw'r tro cyntaf ers 20 mlynedd i Gymru gystadlu ar y lefel uchaf mewn hoci Ewropeaidd ac yn dilyn y perfformiadau yn Antwerp, maent wedi llwyddo i gadw eu statws haen elitaidd ar gyfer 2021.
Roedd Cymru wedi mynd i'r twrnamaint fel y tîm isaf ei safle yn y gystadleuaeth, ond cafwyd canlyniadau rhagorol, gan gynnwys buddugoliaeth wych o 4-0 yn erbyn Iwerddon - a oedd yn safle 11 yn y byd bryd hynny - yn eu gêm derfynol.