Skip to main content

Lansio hwb adnoddau newydd i helpu chwaraeon yng Nghymru i leihau eu heffaith amgylcheddol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Lansio hwb adnoddau newydd i helpu chwaraeon yng Nghymru i leihau eu heffaith amgylcheddol

Mae hwb adnoddau ar-lein newydd wedi cael ei greu i helpu clybiau a sefydliadau chwaraeon a gweithgareddau corfforol eraill i leihau eu heffaith amgylcheddol.

Mae Chwaraeon Cymru, fel rhan o’r Sport Environment and Climate Coalition (SECC),wedi helpu i ddatblygu ‘siop un stop’ o adnoddau allweddol i gefnogi sector chwaraeon y DU gyda’i gynaliadwyedd amgylcheddol.

Mae Hwb Adnoddau SECC, sydd ar gael yn y Gymraeg hefyd, yn cynnwys fideos, erthyglau a chanllawiau i gefnogi clybiau a sefydliadau ledled Cymru a’r DU, ble bynnag maen nhw ar eu siwrnai gynaliadwyedd.

Gall y rhai yn y byd chwaraeon sydd eisiau cymryd camau cadarnhaol ddefnyddio'r adnodd ar-lein yma i ymgysylltu â materion cynaliadwyedd a chreu newid ystyrlon. Gallwch ddysgu sut i ddechrau sgwrs am yr hinsawdd yn eich clwb, mesur ôl troed carbon eich sefydliad, a deall graddfa’r her i chwaraeon a’r rôl y gallwch ei chwarae wrth fynd i’r afael â’r materion hyn.

Dywedodd Emma Wilkins, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Busnes yn Chwaraeon Cymru: “Mae’n bwysig ein bod ni, fel sector chwaraeon yng Nghymru, yn gallu chwarae ein rhan yn nod Llywodraeth Cymru i gyflawni Sero Net erbyn 2030. Rydyn ni eisiau darparu i glybiau, lleoliadau a sefydliadau chwaraeon yng Nghymru yr adnoddau i wneud newid cynaliadwy a bydd Hwb Adnoddau SECC yn darparu hynny.

“Ar ôl lansio ein Cynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol, sy’n dangos ein hymrwymiad ni i newid ein hymddygiad, mae’n gyffrous gallu rhannu’r hwb adnoddau yma gyda’n clybiau a’n partneriaid ni yng Nghymru er mwyn galluogi’r sector i leihau ei effaith amgylcheddol.”

Mae SECC yn gweithio i ffrwyno adnoddau cyfunol y sector i helpu i leihau effaith amgylcheddol chwaraeon, hamdden a gweithgarwch corfforol a chyfrannu at bontio’r DU i sero net.

Dywedodd llefarydd ar ran SECC, “Mae’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhan o’n cymdeithas ni ddeall eu heffeithiau amgylcheddol, gan gynnwys chwaraeon. Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn arwain at lefelau cynyddol o darfu ar lefel broffesiynol ac ar lawr gwlad. Mae lansio’r hwb adnoddau yma’n dangos ymrwymiad parhaus y sector i weithredu’n gadarnhaol dros yr hinsawdd a diogelu ein planed ni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Newyddion Diweddaraf

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy

Gwell cyfleusterau chwaraeon i fanteisio ar y cynnwrf Olympaidd

Ydi'r pêl fasged 3v3 yn y Gemau Olympaidd wedi gwneud i chi neu eich plant ddyheu am fynd ar gwrt?

Darllen Mwy