O ran hwylio, dydi pawb ddim yn yr un cwch, felly mae'r gamp yn newid i gwrdd â gofynion a diddordebau cenhedlaeth newydd.
Y ddelwedd draddodiadol o hwylio oedd dingis neu gychod hwylio, trefi arfordirol, regatas, a chlybiau aelodau yn unig gydag arfbais ar y wal y tu allan a chabinetau tlysau llychlyd ar y wal y tu mewn.
Ond y dyddiau yma, fe all rhywun sy'n mwynhau bod ar y dŵr fod yn sefyll ar fwrdd padlo, ar ôl ei logi am 60 munud, neu wedi ei chwythu ei hun hyd yn oed, allan o sach gefn.
Datblygiadau technolegol newydd, yr ymgyrch am hygyrchedd ehangach, y dyhead am gynaliadwyedd, a newid chwaeth o ran sut i gymryd rhan mewn chwaraeon – mae’r dyfroedd yn cael eu cynhyrfu gyda chyfleoedd a heriau.
I RYA (Royal Yachting Association) Cymru, mae cadw eu pen uwch ben wyneb y dŵr yn y cerrynt cynhyrfus yma’n golygu addasu, arloesi a chwilfrydedd iach ynghylch i ba ffordd mae’r gwynt yn chwythu.
“Mae llawer o newid wedi bod yn ein camp ni ac mae mwy o newid i ddod,” meddai prif weithredwr RYA Cymru, James Stuart.
“Y cwestiwn i ni ydi sut ydyn ni’n archwilio ac yn deall y newidiadau yma.”
Camu ar y bwrdd
Mae hygyrchedd a chyfleoedd hwylio wedi bod yn broblem erioed, yn enwedig mewn ardaloedd heb fod mewn rhanbarthau arfordirol, neu ganolfannau chwaraeon dŵr mewndirol.
Wedyn mae rhwystrau o ran mynediad yn gysylltiedig â chostau teithio i'r mannau gweithgarwch, a hefyd costau prynu neu logi cwch.
Dangosodd Arolwg Chwaraeon Ysgol diweddar 2022 ledled Cymru bod tua 1,000 o bobl ifanc ledled Cymru yn cymryd rhan mewn hwylio yn rheolaidd.
Ond datgelodd yr arolwg hefyd bod tua 37,000 o blant wedi mynegi dyhead i roi cynnig ar hwylio fel gweithgaredd corfforol - galw cudd y mae RYA Cymru yn awyddus iawn i geisio ei fodloni.
Dywed James Stuart: “Mae galw ar raddfa eithaf mawr. Os gallwn ni ddod o hyd i ffordd o droi’r diddordeb hwnnw’n weithgarwch, fe fydden ni’n rhoi cyfle i’r bobl ifanc hynny roi cynnig ar rywbeth rydyn ni’n gwybod sy’n anhygoel.”
Yn hanesyddol, mae ysgolion wedi helpu i ddarparu rhywfaint o gyfleoedd drwy dripiau i ganolfannau antur awyr agored ledled Cymru. Ond gyda thoriadau cyllidebol yn effeithio ar y math hwnnw o fynediad, mae clybiau hwylio yn ymdrechu i gadw costau aelodaeth mor isel â phosib i bobl ifanc.
“Gall ffi aelodaeth fechan – mewn degau o bunnoedd – roi’r allweddi i berson ifanc i’r adeilad cyfan, o ran mynediad am ddim i git ac offer ac efallai rhywfaint o hyfforddiant hefyd,” ychwanegodd James.
“Os ydych chi’n chwarae pêl droed 5 bob ochr bob wythnos, fe allech chi wario mwy ar hynny nag ar hwylio.”
Er enghraifft, mae Clwb Hwylio Llandegfedd - sydd wyth milltir i'r gogledd o Gasnewydd ar Lyn Llandegfedd - yn cynnig aelodaeth am £40 y flwyddyn i bawb dan 18 oed a myfyrwyr.
Mae hefyd sesiynau blasu am ffioedd is yn cael eu cynnal ledled Cymru ar wahanol adegau o'r flwyddyn.