Hwylio mlaen at chwaraeon cynaliadwy
Wrth i chwaraeon ar y cyd ystyried y ffordd orau o fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd, mae’r Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA) yng Nghymru wedi mynd ati i ddod o hyd i un ateb ar gyfer lleihau ei heffaith ei hun ar yr amgylchedd.
Ar hyn o bryd mae tua 70 o forwyr ifanc ac iau yn cymryd rhan mewn rhaglenni perfformiad hwylio ledled Cymru – pob un yn ymgeisio i fod yr Hannah Mills neu’r Chris Grube nesaf.
Mae hynny'n golygu bod tua 70,000 o filltiroedd yn cael eu teithio i gyd ar gyfer morwyr sy'n cyrraedd ac yn gadael hyfforddiant a chystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol.
Felly, er mwyn lleihau eu hôl troed carbon, mae'r RYA newydd ddod yn berchen ar wyth trelar cerbyd sy’n gallu cludo hyd at dri chwch mewn pentwr. Bydd hyn yn galluogi mwy o rannu ceir ymhlith y morwyr a llai o siwrneiau, gan dorri mwy na thraean ar y milltiroedd cyffredinol ar y ffordd.
“Un rhan fawr o’n strategaeth ni yw bod yn fwy cynaliadwy a bydd y trelars yma’n ein galluogi ni i wneud hynny,” meddai rheolwr perfformiad RYA Cymru, Sarah McGovern.
“Po fwyaf y gallwn ni gael y morwyr i rannu lifftiau a rhannu eu llwythi, fe fydd yn helpu i leihau nifer cyffredinol y milltiroedd rydyn ni’n eu clocio.
“Rydyn ni’n gamp mor wyrdd o ran yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Wedi'r cyfan, rydyn ni'n defnyddio gwynt fel tanwydd i bweru'r cychod.
“Ond mae pethau fel y trelars yn ein helpu ni i ddod yn fwy cynaliadwy. Mae gennym ni ddau ddigwyddiad cenedlaethol y flwyddyn yng Nghymru y mae’r morwyr yn teithio iddyn nhw ac mae llawer ohonyn nhw yn rhaglenni carfan Prydain Fawr hefyd, felly maen nhw’n teithio’n gyson i arfordir de Lloegr.”
Po fwyaf y gallwn ni gael y morwyr i rannu lifftiau a rhannu eu llwythi, fe fydd yn helpu i leihau nifer cyffredinol y milltiroedd rydyn ni’n eu clocio
Daeth y cyllid ar gyfer y trelars – cyfanswm cost prosiect o £21,064 – yn bennaf o grant cyfalaf gan Chwaraeon Cymru o £18,958.
Drwy fuddsoddi yn y gamp, y gobaith hefyd yw y bydd y costau i rieni sy'n gyrru ‘tacsi’ yn ystod yr argyfwng costau byw presennol yn cael eu lleihau, gan wneud y gamp ychydig yn fwy hygyrch.
“Ar hyn o bryd, mae gennym ni tua 70 o forwyr sy’n rhan o’n rhaglen carfan Cymru ac wedyn 30 i 40 o blant iau eraill sydd gyda’n clybiau ni hefyd,” meddai Sarah.
“Rydyn ni’n gwneud ein holl hyfforddiant yng Nghymru, ond fel rhanbarth, mae Cymru yn eithaf enfawr, felly mae teithio i fyny ac i lawr Cymru yn dipyn o dasg i rieni.”
Yn ôl prif weithredwr RYA Cymru, Chris Munro, mae llawer o sylw wedi’i ganolbwyntio’n ddiweddar ar gefnogi morwyr drwy ddarparu cychod yng Nghymru ac felly roedd yr help gyda thrafnidiaeth yn ddatblygiad naturiol.
Mae'r RYA yn edrych ar fuddion cynaliadwyedd eraill hefyd o amgylch digwyddiadau a chystadlaethau sy'n gysylltiedig ag uwchraddio eu canolfan academi genedlaethol ym Mhlas Heli ym Mhwllheli.
Y gobaith yw y gallai cyfleusterau gwell leihau ymhellach yr angen am i forwyr elitaidd orfod teithio mor aml i Southampton.
“Mae’r ffaith bod arian cyfalaf yn dal i fod yno i ni wneud cais amdano wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni fel sefydliad,” meddai Chris.
“Mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith â’n strategaeth gynaliadwyedd tymor hwy ni ar gyfer y gamp. Mae gennym ni amcan ‘llwybr at sero’ ac mae’r math yma o weithredu o ran trafnidiaeth yn golygu ein bod ni wedi cymryd un cam tuag at hynny.
“Mae’n ymwneud â gwneud y newidiadau bach yma a fydd, gobeithio, yn ychwanegu at effaith lawer ehangach yn y tymor hir.”
Newyddion Diweddaraf
97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni
Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…
£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru
Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…
Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024
Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…