Fel rhan o gyfri i lawr a dathlu Gemau Paralympaidd Paris 2024 a Gemau Olympaidd Byddardod Tokyo 2025, mae Chwaraeon Anabledd Cymru a Chwaraeon Cymru yn lansio cyrsiau Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd y DU i Hyfforddwyr a Gwirfoddolwyr ac Addysg Lefel 1 am ddim!
Mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn gallu darparu Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd Lefel 1 am ddim i’r holl hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, athrawon a staff addysg tan fis Ebrill 2025!
Mae'r cynnwys yn cwmpasu:
- Cyfathrebu effeithiol
- Model Cynhwysiant Gweithgareddau
- Creu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Model Gweithredol o Anabledd
- Fframwaith STEP
Cofrestrwch heddiw a chwblhewch 60 munud o ddysgu am ddim i ddeall yn well sut i wneud eich sesiynau yn fwy cynhwysol i bobl anabl.