Dywedodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell, a gyflwynodd y wobr: "I nodi degfed pen blwydd y cynllun, cafodd y wobr gwaddol newydd ei chreu i dynnu sylw at sut mae cyn Lysgenhadon Ifanc yn dal i gael effaith bositif yn eu cymunedau ar ôl symud ymlaen i benodau nesaf eu bywydau.
"Llongyfarchiadau enfawr i Sion ar ei wobr. Mae cymaint o gynaelodau'r Llysgenhadon Ifanc yn gwneud pethau rhagorol, felly roedd yn eithriadol anodd dewis un enillydd!"
Yn ogystal â Sion yn cipio'r wobr gwaddol, cyflwynwyd tair gwobr arall hefyd yn y gynhadledd. Roedd Tiffany Brannan yn enillydd teilwng iawn o'r Wobr Swyddog am ei hymdrechion i gynyddu cyfleoedd i Lysgenhadon Ifanc yng Nghonwy, ac enillodd yr hyfforddwr pêl fasged cadair olwyn, Nathan Jones o Geredigion, y Wobr Ysbrydoli.
Enillydd y wobr olaf oedd y Llysgennad Efydd Millie Arnott, sy'n cael effaith enfawr yn ei hysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin, Ysgol Drefach. Mae hi wir yn ysbrydoli disgyblion eraill ei dosbarth i fod yn fwy actif ac mae wedi rhoi cyflwyniadau i'r ysgol gyfan am gynllun y Llysgenhadon Ifanc.
Gyda chefnogaeth yr Youth Sport Trust, ac yn cael cyllid gan Chwaraeon Cymru, cyflwynwyd rhaglen y Llysgenhadon Ifanc i ddechrau yng Nghymru yn 2010 fel gwaddol i'r cais llwyddiannus am gynnal Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.
Ers hynny, mae'r cynllun wedi grymuso amcangyfrif o 19,000 o Lysgenhadon Ifanc fel modelau rôl sy'n annog eraill i rannu eu hoffter o chwaraeon. Mae posib gweld y Llysgenhadon Ifanc bob wythnos yn arwain sesiynau chwaraeon, yn hyfforddi disgyblion iau, yn gwirfoddoli mewn digwyddiadau ac yn dyfarnu gemau mewn ysgolion, colegau, prifysgolion a chymunedau ledled Cymru.