Skip to main content

Hyfforddwyr Cymru yn Tokyo 2020

Nid Jake Heyward a Joe Brier oedd yr unig Gymry a oedd yn gobeithio cael effaith pan ddechreuodd y rhaglen athletau yng Ngemau Olympaidd Tokyo heddiw (dydd Gwener 30ain Gorffennaf).

Mae Brier, un o Harriers Abertawe, yn rhan o garfan 4x400 Prydain Fawr yn Japan, a bydd Heyward o Gaerdydd ar linell gychwyn y 1500m.

Ond mae criw mwy fyth o Gymru yn chwarae eu rhan oddi ar y trac yn y Dwyrain Pell drwy ffurfio hanner y 12 o hyfforddwyr arweiniol sy’n cefnogi tîm athletau Prydain Fawr.

Dywed Prif Swyddog Gweithredol Athletau Cymru, James Williams, ei fod yn destun balchder gweld talent hyfforddi Cymru ar bob lefel yn cael ei chynrychioli ar y llwyfan mwyaf un gan rai fel Christian Malcolm - prif hyfforddwr rhaglen Olympaidd Prydain Fawr.

"O safbwynt Athletau Cymru, os gwnaethon ni gyfrannu'n uniongyrchol at sicrhau eu lle yno ai peidio, rydyn ni'n hynod falch ohonyn nhw," meddai Williams.

"Rydw i'n credu mai cyrraedd y Gemau yw pinacl gyrfa pob athletwr Olympaidd, ond mae'n rhaid iddo fod yn binacl gyrfa pob hyfforddwr hefyd - cael eich dewis i arwain eich priod faes yn y Gemau Olympaidd.

"Felly ydi, mae'n wych i ni gael y cyswllt hwnnw. Ac rydyn ni'n dathlu hynny yn union fel gyda'r athletwyr sydd wedi cael eu dewis."

Mae Malcolm, cyn seren sbrintio rhyngwladol Cymru a Phrydain Fawr, yn arwain carfan hyfforddi Cymru yn Tokyo, ac mae prif hyfforddwr Athletau Cymru, Chris Jones, ar secondiad gydag Athletau Prydain ar hyn o bryd a bydd yn arwain y tîm hyfforddi sy’n helpu'r athletwyr dygnedd.

Yn ymuno ag ef bydd cyn athletwr rhyngwladol arall dros Gymru a Phrydain Fawr ac uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar hyn o bryd, James Thie, a fydd yn rhoi sylw arbennig i gynnydd ei gyn-athletwr Heyward yn y 1500m.

Mae cyn-hyfforddwr cenedlaethol a neidiwr â pholyn rhyngwladol Cymru, Scott Simpson, yn rhan o’r tîm sy’n gweithio gyda’r athletwyr neidiau hefyd, tra bydd taflwyr Prydain yn elwa o flynyddoedd lawer o brofiad Shaun Pickering, aelod o Oriel Anfarwolion Athletau Cymru, a’r unigolyn sy’n dal record Cymru yn y taflu maen o hyd.   

A bydd y sgwadiau sbrintio a ras gyfnewid, gan gynnwys Brier, o dan oruchwyliaeth cyn-seren un lap Cymru a Phrydain Fawr, Tim Benjamin, sydd wedi dychwelyd i’r byd athletau ar ôl sefydlu ei gadwyn ei hun o gampfeydd yn dilyn ei ymddeoliad o gystadlu.

Pen ac ysgwydd o Scott Simpson

 

Yn y cyfamser, mae seren sbrintio Lloegr a Phrydain Fawr, Darren Campbell, sydd â chysylltiadau cryf â Chymru, hefyd yn rhan o'r tîm sy'n gofalu am sbrintio byr a rasys cyfnewid.

Er gwaethaf dyfnder y dalent hyfforddi yng Nghymru ar bob lefel, mae Williams yn benderfynol na fydd y genedl yn gorffwys ar ei rhwyfau.

Mae corff rheoli’r gamp wedi lansio nifer o raglenni datblygu hyfforddwyr, gan gynnwys menter hyfforddi merched a llwybr Athletwyr i Hyfforddwyr er mwyn i gnwd cyfredol Cymru o athletwyr cystadleuol ddatblygu’n genhedlaeth nesaf o hyfforddwyr.

“Rydw i’n ysu am gyrraedd pwynt lle mae athletwyr, pan fyddan nhw’n ymddeol o gystadlu, yn teimlo y bydd y sefydliad yn gofalu amdanyn nhw neu’n eu cadw’n ymwneud â’r gamp,” meddai Williams.

“Rydyn ni newydd lansio rhaglen Athletwyr i Hyfforddwyr, mae hynny'n rhywbeth rydw i wedi bod eisiau ei wneud ers amser hir.

"Mae gennych chi Christian a Tim Benjamin allan yn y Gemau Olympaidd yn gweithio gydag athletau Prydain, ond gadewch i ni fod yn onest hefyd, fe gawson nhw gyfle i symud iddi wrth y gamp yng Nghymru ac maen nhw wedi ailymuno drwy bwynt gwahanol – ni ddylai hynny ddigwydd byth.

"Yn y dyfodol, rydw i'n mawr obeithio y bydd ein rhaglenni ni’n sicrhau y bydd ein cnwd presennol ni o athletwyr o'r safon uchaf yn dechrau hyfforddi, yn dod yn rheolwyr, yn mynd i mewn i ochr y gamp heb ymwneud â chyfranogiad ac yn cyrraedd y pinacl, ac yn gwneud hynny oherwydd ein bod ni wedi eu helpu nhw, wedi eu cefnogi.

"Mae'r holl egwyddor o 'ymddeol a chadw' yn rhywbeth yr ydw i’n ysu am ei wreiddio yn y sefydliad. Rydw i eisiau i bawb deimlo'n rhan o deulu Athletau Cymru, nid dim ond fel athletwyr i ni geisio godro cymaint ag y gallwn ni ohonyn nhw pan maen nhw ar y brig.

"Mae ganddyn nhw angerdd, mae ganddyn nhw brofiad, mae ganddyn nhw wybodaeth enfawr am y gamp. Sut allwn ni gadw hynny yn y gamp a'i ddefnyddio i ddatblygu athletwyr ar gyfer y dyfodol?

"Mae'n mynd i fod yn rhywbeth rydw i'n ysu am ei wneud. Nid dim ond unwaith mae’n mynd i ddigwydd. Rydw i eisiau iddo fod yn rhan greiddiol o ddiwylliant y gamp wrth symud ymlaen."

Mae nifer o athletwyr rhyngwladol cyfredol a blaenorol o Gymru eisoes yn cymryd rhan yn y fenter Athletwyr i Hyfforddwyr.

Maent yn cynnwys y rhedwr marathon ym Mhencampwriaethau Athletau’r Byd a Gemau’r Gymanwlad, Josh Griffiths, a thaflwr morthwyl yng Ngemau’r Gymanwlad, Carys Parry, sydd eisoes wedi cael llwyddiant yn hyfforddi deiliad record morthwyl Cymru, Osian Jones.

Darren Campbell gyda'r Ddraig Goch
Mae seren sbrintio Lloegr a Phrydain Fawr, Darren Campbell

 

"Mae tua dwsin yn y criw cyntaf," meddai Williams. "Mae Zoe Brown, ein rheolwr datblygu hyfforddwyr, wedi gwneud gwaith gwych yn rhoi hynny at ei gilydd.

"Rydw i'n credu, o dop fy mhen, bod gennym ni Josh Griffiths yn y garfan honno, Matthew Richards y taflwr morthwyl a aeth i Gemau'r Gymanwlad yn Delhi a Glasgow ... Carys Parry.

"Rydw i hefyd wrth fy modd yn gweld rhywun fel Rachel King yn cymryd rhan - un o neidwyr clwydi sbrint benywaidd gorau Cymru erioed. Mae'n gwbl siomedig nad ydi hi erioed wedi bod yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gamp."

Mae Williams yn awyddus i sicrhau bod system hyfforddi Cymru ar bob lefel mor amrywiol â phosibl.

"Er ein bod ni wir eisiau i gyn-athletwyr barhau i gymryd rhan yn y gamp, mae angen modelau rôl benywaidd a hyfforddwyr benywaidd, pobl fel Rachel King, Ffion Price a Carys Parry, mae angen i ni gadw eu gwybodaeth nhw a'u cyfres o sgiliau i ysbrydoli athletwyr benywaidd i aros mewn chwaraeon.

"Ochr yn ochr â'r rhaglen Athletwyr i Hyfforddwyr, mae rhaglen i ferched hefyd. Ac mae gennym ni bedwar neu bump o fentoriaid benywaidd, fel Kelly Sotherton, yn rhan o hynny.

"Ac eto, mae hynny'n rhywbeth rydyn ni eisiau parhau ag ef. Dim rhywbeth untro ydi hyn, dim dros dro. Mae'n rhywbeth rydyn ni wir eisiau ei wneud ac yn edrych arno.

"Fe ddywedais i pan lansiwyd y strategaeth gennym ein bod eisiau symud oddi wrth dwf er mwyn twf yn unig, nid cael mwy o bobl yw’r nod. Mae'n ymwneud â chreu twf wedi'i dargedu.

"Felly gallem gael 1,000 o hyfforddwyr ychwanegol dros y chwe blynedd nesaf, ond mae'n debyg y byddan nhw'n 1,000 o hyfforddwyr gwrywaidd os ydyn ni'n parhau i ganolbwyntio ar y cyfanswm yn unig.

"Rydyn ni eisiau pobl o wahanol gefndiroedd. Dyna beth rydyn ni eisiau ei wneud. Rydyn ni angen mwy o hyfforddwyr benywaidd, mwy o hyfforddwyr DLlE, rydyn ni angen i bobl o wahanol rannau o Gymru fod yn rhan o'r gamp.

"A dyna beth rydyn ni'n mynd i'w wneud, rydyn ni'n mynd i gynnal rhai ymgyrchoedd wedi'u targedu, ac rydyn ni'n mynd i lapio rhywfaint o gefnogaeth o amgylch yr hyfforddwyr yma a gobeithio y byddwn ni'n dechrau gweld ychydig o newid yn y duedd. "

Mae Williams eisiau parhau â llinell gynhyrchu Cymru o hyfforddwyr o Gymru ar bob lefel, nid dim ond ar y lefel perfformiad elitaidd

"Nid yw'r ffaith ein bod ni’n rhoi'r bobl yma ar y rhaglenni hyn o reidrwydd yn golygu y byddan nhw eisiau mynd, neu y byddwn yn eu gwthio, i lawr y llwybr perfformio.

"Rydw i'n siŵr y bydd llawer o'r hyfforddwyr hynny ar y rhaglen hyfforddi athletwyr a hyfforddi merched eisiau bod yn hyfforddi ar lawr gwlad y gamp. Efallai y bydd rhai ohonyn nhw eisiau aros ar lawr gwlad ac mae hynny'n hollol iawn.

"Mae'n rhaid i ni symud oddi wrth fod â dull un maint i ffitio pawb o weithredu lle mae pawb yn mynd drwy'r llwybr hyfforddi, y llwybr swyddogion, y llwybr athletwyr - mae gwahanol bobl eisiau ymuno a gorffen ar wahanol bwyntiau. Ac, unwaith eto, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y gamp yn barod i wneud hynny.

"Ac nid dim ond rhywbeth i Athletau Cymru ei wneud ydi hynny, rydw i'n credu bod hynny'n rhywbeth i'n clybiau ni ei wneud, ein rhanbarthau, ond gobeithio, po fwyaf y byddwn ni'n dechrau siarad amdano, y mwyaf y byddwn ni'n dechrau gweld lle mae arnom ni angen twf, mewn gwahanol rannau o Gymru, neu lle mae heriau. "

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymwneud â hyfforddi athletau gael gwybod mwy am y gwahanol fentrau sydd ar gael ar wefan Athletau Cymru.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy