Wrth agor cylchgrawn rai dyddiau’n ôl, roedd ei gynnwys yn drawiadol; tudalennau o fodelau ifanc, main ac erthyglau am iechyd. Fel rhywun sydd ag anabledd, rwy’n ei gweld yn anodd iawn uniaethu â phobl sydd â’r math o gorff y gallwn ond breuddwydio amdano, ac nid oedd yr erthyglau ar ffitrwydd a bwyta’n iach yn helpu llawer. Meddyliais i mi fy hun: does dim ots beth rwy’n ei fwyta, alla’ i ddim gwneud yr ymarferion sydd yn yr erthyglau, ac ni fydda’ i fyth yn edrych fel un o’r modelau hyn.
Roeddwn i’n meddwl ei fod braidd yn drist fy mod i’n teimlo fel yna, oherwydd mae bod yn iach ac yn heini yn rhywbeth unigol, ac ni ddylwn i fod yn cymharu fy hun â phobl eraill mewn ffordd negyddol. Penderfynais yn y fan a’r lle y byddwn i’n rhannu fy mhrofiad a’m myfyrdodau â chi, oherwydd rwy’n siŵr fod yna bobl eraill sy’n teimlo’n debyg i fi.
Dychmygwch mai fi ydych chi. Rydw i’n bwyta’n weddol iach, yn fy marn i. Peidiwch â chamddeall, rydw i’n hoffi pitsa neu bryd parod ar nos Sadwrn, a fyddwn i ddim yn gwrthod gwydraid o win. Ond rydw i’n fath o berson sy’n cael grawnfwyd i frecwast, cinio ysgafn a llawer o lysiau gyda swper. Felly, gadewch i ni ddweud fy mod i eisiau colli pwysau. Sut ydw i’n mynd i wneud hynny os nad ydw i eisiau dilyn diet neu’n meddwl na fydd diet yn gwneud llawer o wahaniaeth? Gallwn i roi’r gorau i gael prydau parod, am wn i, ond dim ond hanner y pos yw beth rydych chi’n ei fwyta. Mae’r hanner arall yn ymwneud â pha mor egnïol rydych chi.