Skip to main content

If in doubt, sit them out! Cyhoeddi Canllawiau Cyfergyd mewn Chwaraeon ar Lawr Gwlad y DU

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. If in doubt, sit them out! Cyhoeddi Canllawiau Cyfergyd mewn Chwaraeon ar Lawr Gwlad y DU

Mae heddiw’n nodi cyhoeddi’r Canllawiau Cyfergyd mewn Chwaraeon yn swyddogol ledled y DU.

Gan ddefnyddio'r galw am weithredu: If in doubt, sit them out, bydd y canllawiau yn helpu pobl i adnabod, rheoli ac atal cyfergyd sy’n effeithio ar chwaraewyr mewn chwaraeon ar lawr gwlad.

Mae’r canllawiau, sydd wedi'u datblygu gan banel arbenigol o glinigwyr domestig a rhyngwladol ac academyddion ym maes niwroleg a meddygaeth chwaraeon, yn golygu y gall pob camp ar lawr gwlad yng Nghymru a ledled y DU ddilyn un cyfres o ganllawiau i sicrhau cysondeb ar gyfer chwaraewyr, hyfforddwyr, rhieni, ysgolion, Cyrff Rheoli Cenedlaethol a gweinyddwyr chwaraeon, mewn sefyllfaoedd lle mae gweithwyr meddygol proffesiynol cymwys yn llai tebygol o fod yn bresennol fel mater o drefn.

Dywedodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Brian Davies:

“Rydyn ni’n croesawu cyhoeddi’r canllawiau hyn. Dylai sicrhau diogelwch y rhai sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon ar unrhyw lefel fod yn flaenllaw yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n trefnu neu’n cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad i ymgyfarwyddo â’r canllawiau.”

Mae posib gweld y canllawiau yma.

Newyddion Diweddaraf

Y 37 prosiect chwaraeon fydd yn rhannu £3.5m o gyllid Llywodraeth Cymru

Dyma restr lawn o’r prosiectau sydd wedi’u cefnogi gan £3.5m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Darllen Mwy

Prosiectau chwaraeon cyffrous wedi'u cefnogi gan £3.5m o gyllid

Wedi’i neilltuo gan Chwaraeon Cymru, bydd y cyllid yn ehangu mynediad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol…

Darllen Mwy

Helpwch ni i wella gwefan Chwaraeon Cymru

Gallech hefyd ennill gwobr o £50

Darllen Mwy