Mae Issy Morris wedi bod wrth ei bodd â chwaraeon erioed – unrhyw gamp – ac mae'r triathletwr o Gymru yn credu y gall yr angerdd hwnnw gyfoethogi bywyd pawb.
Bydd Morris, o Grughywel ym Mhowys, yn cystadlu dros Dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham, sy'n dechrau ar 28 Gorffennaf.
Ond rhoddodd y ferch 22 oed gynnig ar amrywiaeth eang o chwaraeon yn ifanc ac mae'n teimlo mai ehangder y profiad a roddodd sylfaen iddi adeiladu arni.
Mae triathlon yn gofyn am ystod eang o sgiliau, ond gellir eu mwynhau fel elfennau unigol o chwaraeon - athletau, nofio a beicio ar draws pob oedran.
Mae dod â nhw at ei gilydd nid yn unig yn ehangu'r ystod honno o alluoedd, mae hefyd yn helpu i ddatblygu rhinweddau fel hunanddisgyblaeth, gwytnwch a phenderfyniad.
Dywed Issy ei bod hi'n awyddus i fwynhau chwaraeon, ond mae'n bendant bod dull cymysg a chytbwys wedi rhoi sylfaen gadarn iddi.
"Pe bawn i wedi penderfynu gwneud triathlon yn unig o oedran cynnar, byddai wedi bod yn ormod ac yn rhy ddwys," meddai.
"Rydw i'n credu'n gryf mewn peidio ag arbenigo pan rydych chi'n rhy ifanc. Rydw i'n credu bod pob camp wedi fy helpu i mewn gwahanol ffyrdd, maen nhw i gyd yn dysgu gymaint i chi ac roeddwn i'n gallu defnyddio'r hyn roeddwn i wedi'i ddysgu ar draws gwahanol chwaraeon.
"Rydych chi'n dysgu cymaint am fywyd hefyd. Rydw i wedi cwrdd â chymaint o wahanol bobl o wahanol gefndiroedd sydd hefyd wedi bod yn anhygoel!”
O’r blaen, os oeddech chi’n driathletetwr byddech chi'n dechrau fel nofiwr neu redwr ac yn dysgu sgiliau beicio.
Ond i Morris, fe wnaeth hi gyfuno nofio a rhedeg yn ifanc a gwrthsefyll pwysau i arbenigo mewn un neu'r llall yn rhy fuan.
Mae'n cofio: "Yn naw oed, roedd fy hyfforddwr nofio i’n dweud bod angen i mi stopio gwneud chwaraeon eraill os oeddwn i am fod yn nofiwr.
"Rydw i’n bendant yn falch na wnes i wrando ar y cyngor hwnnw oherwydd ar y pryd mae'n debyg fy mod i'n gwneud pob camp y gallwn i ac mae hynny'n bendant wedi fy ngwneud i'r athletwr ydw i heddiw.”
Roedd gan Morris rieni cefnogol a oedd yn rhan o'i datblygiad, cyn belled ag yr oedd hynny'n ymarferol bosibl.
"Fe ddechreuais i fel nofiwr a rhedwr, ac wedyn fe ddechreuais i wneud biathlonau, ac wedyn dilyn y llwybr pentathlon.
“Doedd fy nhad ddim yn hapus iawn! Roedd o'n edrych ar gostau pump camp wahanol a cheffyl!
"Fe wnaethon ni fargeinio ychydig bach, ac fe wnes i roi cynnig ar driathlon.”
Nid bod popeth wedi mynd yn llyfn iddi yn y byd triathlon yn ystod y dyddiau cynnar hynny.
"Fe wnaethon ni gyrraedd y tro cyntaf gyda beic mynydd, nad oedd hyd yn oed yn ffitio ar y raciau, ac roedd hynny'n eithaf doniol. Wnes i ddim cystadlu hyd yn oed - dim ond gwylio gan fy mod i mor nerfus a ddim yn gwybod beth roeddwn i'n ei wneud.
"Roedd gen i siwt wlyb syrffiwr, a fyddai'n cymryd 10 munud i'w thynnu, felly rydw i'n cofio gwylio a meddwl faint roeddwn i eisiau cymryd rhan. ’Chymerodd hi ddim llawer o amser ar ôl hynny i mi roi cynnig ar fy nhriathlon cyntaf ac roeddwn i wrth fy modd.”