Ar un adeg, roedd Jacob Draper ar y llwybr i fod yn bêl droediwr proffesiynol, ond nid yw'n difaru newid i hoci.
Roedd seren ryngwladol Cymru a Phrydain Fawr yn ddigon da gyda’r bêl gron fwy i fod yn rhan o raglen academi Dinas Caerdydd pan oedd yn saith oed.
Chwaraeodd chwe blynedd ochr yn ochr â llond dwrn a gyrhaeddodd y rhengoedd proffesiynol yn y pen draw, ond ni fyddai'n newid dim wrth iddo baratoi ar gyfer ei ail Gemau'r Gymanwlad.
Daeth y newid mewn campau pan oedd Draper yn 13 oed a phan ddywedodd hyfforddwyr Caerdydd wrtho bod ei ddiddordeb cynyddol mewn hoci yn ei osod ar groesffordd.
“Fe wnaethon nhw ddarganfod fy mod i’n chwarae hoci a doedden nhw ddim yn rhy hapus gyda hynny,” meddai Jacob, oedd yn rhan o garfan Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Tokyo y llynedd.
“Hyd yn oed yn 13 oed, mewn pêl droed rydych chi ar gontract ac ’allwch chi ddim gwneud pethau eraill rhag ofn y cewch eich anafu. Mae rhai risgiau ynghlwm wrth chwarae hoci a doedden nhw ddim yn hapus.
“Fe wnaethon nhw awgrymu yn y bôn fy mod i’n dewis rhwng y campau ac fe wnes i ddewis hoci.”
Roedd yn ddewis a synnodd y clwb pêl droed a’i swyddogion o bosibl.
Cafodd Draper ei fagu yng Nghwmbrân, roedd wedi mynychu ysgol y wladwriaeth, ac nid oedd ganddo gefndir teuluol mewn hoci.
Ond fe fwynhaodd y gamp pan gafodd ei gyflwyno iddi yn yr ysgol gan athro brwdfrydig - ar ôl i ffrind ddweud bod y tîm hoci’n brin o chwaraewyr - ac yn fuan iawn roedd yn gwella'n gyflym yng Nghlwb Hoci Gwent.
Ar y dechrau, mae’n cyfaddef iddo roi cynnig ar y gamp oherwydd ei bod yn “edrych fel pêl droed gyda ffon” ac meddai: “Roeddwn i’n chwarae hoci fel pe bawn i’n chwarae pêl droed.”