Os bydd Jeremiah Azu yn sicrhau lle yng ngharfan athletau Prydain Fawr ar gyfer Paris, bydd yn siŵr o ddod o hyd i dawelwch mewnol i setlo unrhyw nerfau.
Mae’r sbrintiwr – a ddaeth yn ddiweddar yr athletwr cyntaf erioed o Gymru i redeg 100m mewn llai na 10 eiliad – yn mynnu bod ei ffydd grefyddol, ei fagwraeth deuluol a’i ymdeimlad cadarn o gymuned i gyd yn rhoi sylfaen wych iddo sydd mor gadarn ag unrhyw set o flociau dechrau.
Mae Jeremiah yn athletwr modern iawn gyda dylanwadau byd-eang. Wedi'i eni yn yr Iseldiroedd i rieni o Ghana, symudodd i Gaerdydd pan oedd yn dair oed, ond ar hyn o bryd mae'n byw yn yr Eidal fel rhan o grŵp hyfforddi sbrintio Prydeinig o bedwar.
Aeth yr athletwr 23 oed i Ysgol Uwchradd Llanisien yn y brifddinas lle roedd pêl droed ac athletau yn cystadlu am ei sylw.
Fel gyda chymaint o ddoniau chwaraeon Cymru, cafodd ei allu ei ganfod a'i annog gan athro cefnogol - yn ei achos ef, yr athro Addysg Gorfforol David Griffin.
“Roedd Mr Griffin bob amser yn fy annog i ac rydyn ni’n dal i gadw mewn cysylltiad yn rheolaidd, hyd yn oed nawr,” meddai Jeremiah.
“Roedd yn arfer dweud wrtha’ i bod angen i mi fod ar y trac yn rheolaidd oherwydd bod gen i lawer o dalent ac y gallwn i fod yn sbrintiwr gwych pe bawn i'n gweithio'n galed.”
Roedd yr ysgol yn darparu amgylchedd llawn anogaeth ar gyfer y rhai oedd yn awyddus i wneud cynnydd a datblygu eu medrau. Yn yr un grŵp blwyddyn â Jeremiah roedd Rabbi Matondo, pêl droediwr gyda Rangers a Chymru ar hyn o bryd.
“Rydw i’n edrych yn ôl ar yr amser hwnnw a dyna pryd wnes i ddatblygu hoffter o’r trac a’r maes,” meddai Jeremiah.
“Roedd yn ymwneud â chael hwyl, profi eich hun, a bod yng nghwmni ffrindiau. Mae rhai o fy atgofion gorau i o'r ysgol yn cynnwys eistedd ar y bws ar ein ffordd i Stadiwm Lecwydd.
“Fe fyddech chi'n cael amser da gyda ffrindiau, yn mynd yn nerfus pan oedd eich tro chi i gystadlu yn cyrraedd, ac wedyn yn dysgu'n araf sut i ddelio â'r holl emosiynau hynny. Roedd yn werthfawr iawn.”
Adeiladodd ei hyfforddwr cyntaf, Helen James o Glwb Athletau Caerdydd, ar y sylfeini hynny.
“Fe sefydlodd hi fy mywyd cyfan i drwy roi’r hyfforddiant yn ei le. Roeddwn i gyda hi am bum mlynedd ac fe aeth hi â mi i le nad oeddwn i erioed wedi dychmygu fyddai'n bosibl. Fe newidiodd hi fy mywyd i yn fawr.”