Skip to main content

Cyflwynydd teledu, JJ Chalmers, yn lansio'r ymgyrch am Newidiwyr Gêm Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cyflwynydd teledu, JJ Chalmers, yn lansio'r ymgyrch am Newidiwyr Gêm Cymru

Fel rhan o ddathliad pen-blwydd 30 mlynedd y Loteri Genedlaethol, mae cyn Comander y Môr-filwyr Brenhinol a’r darlledwr, JJ Chalmers, wedi lansio’r ymgyrch i ganfod 30 o bobl sydd wedi gwneud pethau anhygoel dros y 30 mlynedd diwethaf gyda help y Loteri Genedlaethol.

Ledled y DU, mae miloedd o bobl sydd wedi defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i gyflwyno newid, ysbrydoliaeth a llawenydd dwfn i filoedd. 

Ers tynnu’r Loteri Genedlaethol am y tro cyntaf ar 19 Tachwedd 1994, mae dros £2.3 biliwn wedi cael ei ddosbarthu ar gyfer achosion da yng Nghymru trwy 71,733 o grantiau unigol, gan wneud gwahaniaeth enfawr i sefydliadau a phrosiectau celfyddydol, treftadaeth, chwaraeon a chymunedol yn yr ardal. 

Mae clybiau a phrosiectau chwaraeon ledled Cymru wedi cael £377m dros 29 mlynedd, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Dyfarnwyd £6,177,013 o'r cyfanswm hwnnw gan Chwaraeon Cymru drwy Gronfa Cymru Actif rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024.

Mae Chalmers yn annog y cyhoedd i ddathlu cyflawniadau anhygoel gan unigolion ysbrydoledig ar draws Cymru trwy eu henwebu fel Newidiwr Gêm y Loteri Genedlaethol.  

Mae’r gŵr 37 mlwydd oed yn deall pwysigrwydd dathlu arwyr sydd heb gael eu cydnabod mwy na llawer. Fel cyn Comander y Môr-filwyr Brenhinol, dioddefodd anafiadau erchyll a newidiodd ei fywyd tra’n gwasanaethu ac mae ganddo stori neilltuol i’w hadrodd. Fel cyn is-gorpral gyda Commando 42 yn y Môr-filwyr Brenhinol, cafodd JJ ei anafu mewn ffrwydrad IED yn Afghanistan yn 2011 gan ddioddef anafiadau erchyll yn y ffrwydrad a laddodd dau o’i gydweithwyr. Gan bron â cholli ei ddwy fraich trwy drychiad, collodd dau fys, dioddefodd anafiadau i’w wyneb a’i goes, ac roedd ei ben-elin dde wedi’i malurio’n llwyr. 

Mae wedi wynebu brwydr lem i wella, ond yn groes i’r rhagolygon, llwyddodd i oresgyn adfyd a thrallod i ennill medal aur yn y Gemau Invictus yn 2014 ac mae wedi meithrin gyrfa lwyddiannus mewn darlledu, gan fod y cyflwynydd anabl cyntaf i gyflwyno’r Gemau Olympaidd. Ef yw Noddwr yr elusen Help for Heroes, yn Llysgennad ar gyfer y Gemau Invictus, ac mae’n teithio’r wlad yn rhoi sgyrsiau ysbrydoledig a gweithdai cymhellgar i ysgolion a busnesau. 

Mae JJ Chalmers yn dal gwobr newidiwr gêm y Loteri Genedlaethol
Rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn dathlu’r unigolion ysbrydoledig hyn ac yn diolch iddynt am y cyfan a wnant.
JJ Chalmers

Gan annog pobl i gyflwyno eu henwebiadau Newidiwr Gêm y Loteri Genedlaethol, dywedodd JJ: “Yn ystod fy nhaith tuag at adferiad ac wrth gymryd rhan yn y Gemau Invictus, rwyf wedi dod ar draws arwyr dirifedi heb gael eu cydnabod sy’n gweithio’n ddiflino i wella bywydau pobl o’u hamgylch. 

Rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn dathlu’r unigolion ysbrydoledig hyn ac yn diolch iddynt am y cyfan a wnant. Os ydych yn gwybod am rywun sydd wedi gwneud rhywbeth anhygoel gydag arian y Loteri Genedlaethol dros y 30 mlynedd diwethaf, yna rhowch o’ch amser i’w henwebu hwy fel Newidiwr Gêm y Loteri Genedlaethol.” 

Ychwanegodd Jonathan Tuchner, o’r Loteri Genedlaethol: “Ers ei sefydlu 30 mlynedd yn ôl, mae’r Loteri Genedlaethol wedi gallu atgyfnerthu cymunedau lleol, grymuso timau chwaraeon, diogelu a dathlu ein treftadaeth, cefnogi prosiectau amgylcheddol, rhyddhau doniau creadigol, grymuso’r henoed, a datgloi potensial pobl ifanc. Mae hynny oll diolch i’r chwaraewyr.  

“Fel rhan o’n dathliadau Pen-blwydd 30 mlynedd, rydym eisiau anrhydeddu’r sawl sydd wedi mynd y tu hwnt i’r galw i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau gyda help arian y Loteri Genedlaethol”. 

Bydd Newidwyr Gêm y Loteri Genedlaethol yn cydnabod pobl neilltuol o fewn y categorïau canlynol: 

  • Celfyddydau
  • Cymuned
  • Treftadaeth
  • Chwaraeon `


Bydd 30 o unigolion ysbrydoledig yn cael eu dathlu yn yr hydref gyda moment ysblennydd o gydnabyddiaeth genedlaethol i nodi eu hymdrechion anhygoel. Mae unrhyw un sydd wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol neu sy’n rhan o brosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn gymwys am enwebiad. 

Bydd yr enillwyr unigol yn cael eu dewis gan banel beirniadu sy’n cynnwys aelodau o deulu’r Loteri Genedlaethol a byddant yn ennill tlws Newidiwr Gêm eiconig y Loteri Genedlaethol. 

A oes unigolyn ysbrydoledig yn eich clwb chwaraeon chi ddylai gael ei gydnabod? Enwebwch nhw fel Newidiwr Gêm y Loteri Genedlaethol a dilyn sianeli cymdeithasol Achosion Da’r Loteri Genedlaethol am fwy o wybodaeth.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy