Yn fwy diweddar, mae bod yn chwaraewr sboncen elitaidd mewn pandemig byd-eang yn golygu eistedd ar eich pen eich hun mewn ystafelloedd gwesty, cael eich prydau bwyd yn eich ystafell ar hambwrdd y tu allan i'r drws, a meddwl tybed a fydd eich anallu i ymarfer yn costio'n ddrud i chi pan fyddwch yn cael camu’n ôl ar y cwrt.
Efallai bod dieithrwch yr amgylchiadau yn 2020 wedi helpu Makin i fod hyd yn oed yn fwy penderfynol o sicrhau lle ar frig y gêm fyd-eang.
Yn gynharach eleni symudodd o Rif 12 yn safleoedd y byd i Rif 10 – y Cymro cyntaf i dorri i mewn i'r cwmni elitaidd yma ers i David Evans lwyddo i wneud hynny nôl yn 2002.
Roedd yn adlewyrchu llwyddiant nodedig prif chwaraewraig fenywaidd Cymru, Tesni Evans, ddwy flynedd yn ôl, cyn i Makin fynd i fyny safle i Rif 9, ac wedyn gostwng yn ôl i 10.
Cafwyd cadarnhad o'i statws cynyddol am y tro cyntaf yn 2018, flwyddyn yn unig ar ôl iddo dorri i mewn i'r 50 uchaf, pan gurodd Rif 1 y byd, Mohamed Elshorbagy, mewn digwyddiad taith yn Lloegr.
Yn fwy diweddar, mae wedi trechu Paul Coll a Tarek Momen – y ddau ym mhump uchaf y byd – cyn colli i Momen ar ôl cyrraedd rowndiau gogynderfynol Gornest Glasurol Qatar ym mis Hydref yn Doha.
Hefyd cyrhaeddodd rownd gynderfynol Taith y Byd yn yr Aifft cyn colli i Karim Abdel Gawad, Rhif 4 y byd.
Cyrraedd rowndiau gogynderfynol y twrnameintiau gorau yn rheolaidd a mynd ymhellach yw'r nod nesaf ar restr Makin erbyn hyn – yn bennaf gan y byddai'n rhoi gemau symlach iddo yn y rowndiau agoriadol.
"Rydw i'n dal i addasu i'r lefel uchaf un, oherwydd dydw i ddim wedi bod yma cyn hired â’r rhan fwyaf o'r bois," meddai Makin.
"Roedd llawer ohonyn nhw'n ennill Cystadlaethau Agored Iau y Byd a Phrydain, ond doeddwn i ddim yn agos at y lefel honno pan oeddwn i'n 18, 19, 20 oed.
"Dim ond Rhif 100 oeddwn i o hyd yn y byd bedair blynedd yn ôl ac felly mae wedi cymryd amser hir i mi roi popeth at ei gilydd. Roedd rhai o'r bois sydd yn y 10 uchaf nawr yn chwaraewyr anhygoel pan oedden nhw’n 13 oed.
"Fe wnes i ddechrau chwarae sboncen yn tua 12 oed – llawer hwyrach na'r rhan fwyaf o'r bois yn y 10 uchaf nawr - ond wnes i ddim cyrraedd lefel nodedig nes oeddwn i tua 16 oed.
"Fel plentyn, roeddwn i bob amser yn y gampfa, bob amser yn rhedeg ac yn gwneud chwaraeon eraill, ond nid sboncen oedd fy ffocws i mewn gwirionedd. Fe ddechreuodd llawer o fois yr Aifft chwarae’n blant bach ac erbyn bod yn 16 oed, eu ffocws nhw oedd bod y gorau yn y byd.
"Doeddwn i ddim ar yr un llwybr. Roeddwn i'n mwynhau fy sboncen, ond roeddwn i'n edrych ymlaen at fynd i'r brifysgol. Yn tyfu i fyny yn Aberdâr, doeddech chi ddim yng nghwmni pobl oedd yn meddwl y gallech chi fod yn chwaraewr sboncen lefel elitaidd o'r safon uchaf."
Mae’n fwy nodedig fyth, felly, bod Makin – fel Evans – bellach yn cymysgu gyda’r Eifftiaid medrus yma sy’n hanu o ddiwylliant yn Cairo sydd wedi gwirioni ar sboncen, lle mae degau ar filoedd o blant yn chwarae ac yn hyfforddi ym mhoblogaeth y ddinas o fwy nag 20 miliwn.
"Rydw i wedi chwarae sboncen cynghrair yn Cairo ac mae'n anhygoel," ychwanegodd Makin.
"Rydych chi'n gweld pob cwrt yn llawn tan 9pm gyda channoedd o blant mewn un clwb, yn rhedeg o gwmpas, yn taro'r bêl yn galed iawn ac yn cael hyfforddiant un i un. Mae'n anhygoel.
"Yn y DU, dydyn ni ddim yn dod o'r system honno. Dydi’r dyfnder ddim yn bodoli. Dydw i ddim yn dweud na allwch chi gystadlu â nhw os ydych chi'n dod o'r DU – fe allwch chi – ond mae'n cymryd mwy o amser ac mae'n cymryd llawer o waith.
"Mae'n ymddangos bod llawer ohonon ni’n gwella wrth i ni fynd yn hŷn, felly mae gobaith y gallwn ni bontio'r bwlch."
Arwyr sboncen Makin ei hun fel person ifanc oedd Peter Nicol, cyn rif un y byd a anwyd yn yr Alban, a David Palmer o Awstralia.
"Roeddwn i’n mwynhau eu ffitrwydd nhw a'u corffolaeth – yn cael y gorau ar eu gwrthwynebwyr yn araf bach. Dyna wnaeth fy nenu i at y gamp i ddechrau.
"Dydyn ni i gyd ddim wedi cael ein bendithio ag ergydion anhygoel, na chorffolaeth enfawr a gallu i ymestyn ymhell, felly mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd wahanol.
"Dyna ’ngêm i, er ’mod i'n gwybod bod gen i lawer i weithio arno o hyd."
Y tro nesaf y bydd Makin yn camu ar gwrt fydd ar drip i'r Aifft a Chystadleuaeth Agored Black Ball sy'n dechrau yn Cairo ar Ragfyr13.