Mae Kieran Jones yn cyfaddef ei fod ar ben ei ddigon yn cael bod yn ôl yn cystadlu fel taflwr maen elitaidd – ac mae ei gymdogion wrth eu bodd hefyd.
Mae gan y para athletwr 19 oed haf o gystadlaethau athletaidd i edrych ymlaen atynt eto, ac nid oes rhaid i’r bobl sy’n byw wrth ei gartref ar Ynys Môn boeni mwyach am gyflwr ffens ei ardd.
Treuliodd Kieran – sydd wedi cynrychioli Cymru mewn pêl fasged cadair olwyn hefyd – lawer o’r cyfyngiadau symud yn hyfforddi yn ei ardd gefn, gan daflu pêl haearn i bwll tywod o fath a adeiladwyd ger y ffens.
“Roedd yn iawn, ond roedd ambell broblem hefyd,” meddai’r myfyriwr hyfforddiant chwaraeon yng Ngholeg Menai ym Mangor.
“Fe ddechreuodd y slabiau concrid gracio wrth i’r maen lanio, hyd yn oed ar ôl i ni osod matiau gymnasteg yn eu lle i’w gwarchod nhw.
“Wedyn, roedd y tywod wnaethon ni ei osod yn gweithio’n well, ond yn y diwedd, pan oeddwn i’n taro’r marcwyr, roedd y tywod yn dechrau gwthio yn erbyn y ffens a dechreuodd wthio allan i’r lôn y tu ôl.”
Roedd yn rhyddhad i’r gwylwyr pryderus pan oedd posib i Kieran ailddechrau hyfforddi eto yn ôl yn y gampfa ac ar y trac wrth i’r cyfyngiadau ar athletwyr ddechrau cael eu codi.
Roedd yr athletwr dosbarth F34 yn mwynhau cynnydd hynod gyflym fel un o bara athletwyr mwyaf addawol ac amldalentog y wlad pan darodd y cyfyngiadau symud yng ngwanwyn y llynedd.
Roedd Keiran wedi’i goroni’n bencampwr Prydain eisoes ym Mhencampwriaethau Athletau Iau Cenedlaethol yr Activity Alliance yn 2019 ac roedd i fod i fynychu gwersyll hyfforddi tywydd cynnes ym Mhortiwgal gyda Chwaraeon Anabledd Cymru.
“Roeddwn i wedi cyffroi cymaint am fynd ac felly roedd y cyfyngiadau symud yn anodd. Roedd yn gyfle gwych i mi fel person ac fel athletwr ac felly fe wnaeth fy nharo i’n galed.
“Roedd ceisio cynnal ffocws yn anodd iawn, ond wedyn fe ddaeth y byd i gyd i stop ac fe wnaeth fy nharo’n galetach fyth. Mae cael blwyddyn o fethu gwneud dim wedi bod yn anodd iawn, iawn.
“Mae’n debyg mai hwn ydi’r cyfnod gwaethaf i mi ers i mi fynd o allu cerdded i fod mewn cadair olwyn.
“Roedd methu gwneud y pethau roeddwn i’n eu caru’n ddifrifol. Mae fy ffrindiau agosaf i yn y byd chwaraeon hefyd, ac felly roedd methu eu gweld nhw’n anodd hefyd.
“Ond rydw i’n lwcus o’r teulu sydd gen i o fy nghwmpas. Fe welson nhw fi’n mynd yn isel, ond roedden nhw bob amser yn codi fy nghalon i.’