Ar ôl mwy na degawd heb glwb pêl fasged ym Merthyr Tudful, mae’r dref bellach yn gartref i’r Merthyr Mustangs!
Gydag adran iau yn darparu ar gyfer plant 7 i 16 oed yn ogystal â thîm hŷn, mae'r Mustangs wedi cael eu sefydlu i fodloni'r galw lleol cynyddol am bêl fasged.
Mae Chwaraeon Cymru wedi cefnogi datblygiad y clwb hyd yma drwy ddyfarnu grant Cymru Actif o £13,482 – sy’n defnyddio cyllid gan y Loteri Genedlaethol – i dalu am gylchoedd newydd sy’n cael eu defnyddio gan dîm hŷn y Mustangs.
Y gwirfoddolwr Simon Thornley – oedd yn arfer chwarae i Glwb Pêl Fasged Merthyr cyn iddo ddod i ben tua 14 mlynedd yn ôl – ydi’r egni y tu ôl i’r clwb newydd sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Chwaraeon Cymru a Merthyr Tudful Actif.
Dywedodd Simon: “Fe roddodd pêl fasged lawer o brofiadau gwych i mi wrth dyfu i fyny, felly roeddwn i wir eisiau darparu cyfleoedd tebyg i bobl ifanc heddiw yn ogystal â rhoi cyfle i oedolion chwarae’r gamp yn gystadleuol ym Merthyr eto.
“Mae’r ymateb hyd yma gan y plant a’r oedolion wedi dangos pa mor bwysig yw cael pêl fasged yn ôl yn y dref. Mae cael adran iau a thîm oedolion yn bwysig iawn gan ei fod yn golygu bod llwybr i chwaraewyr ifanc barhau yn y gamp wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.
“Rydyn ni hefyd yn gweithio ar y cyd â Choleg Merthyr i hyfforddi myfyrwyr i ddod yn hyfforddwyr, dyfarnwyr a swyddogion. Fel hyn, gall y clwb ddod yn fwy cynaliadwy, darparu llawer o gyfleoedd ar y cwrt ac oddi arno, a helpu mwy o aelodau'r gymuned leol i gael y cyfle i syrthio mewn cariad â phêl fasged. Rydyn ni hefyd yn bwriadu cyflwyno tîm merched eleni.”