Mae Chwaraeon Cymru wedi ymuno â Crowdfunder i gynnig ffordd newydd gyffrous i glybiau chwaraeon yng Nghymru gyllido gwelliannau i gyfleusterau.
Er mwyn helpu pobl ledled y wlad i fod yn fwy actif, mae Chwaraeon Cymru yn cynnig hyd at £15,000 o gyllid cyfatebol ‘Lle i Chwaraeon’ i gefnogi ymdrechion codi arian cymunedol clybiau eu hunain ar wefan Crowdfunder.
Mae enghreifftiau o'r mathau o brosiectau cyfleusterau a allai dderbyn cefnogaeth yn cynnwys gwelliannau i ystafelloedd newid, adnewyddu clybiau, uwchraddio cyfleusterau cegin i ddarparu cyfrwng i gynhyrchu incwm, lifftiau a rampiau ar gyfer gwell mynediad i bobl ag anableddau, a hefyd gosod paneli solar, generaduron neu foeleri yn eu lle.
Dywedodd Brian Davies, Cyfarwyddwr y System Chwaraeon yn Chwaraeon Cymru: “Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd lle i chwaraeon yn ein cymunedau ni i ddod â phobl at ei gilydd a gwella eu bywydau.
“Ers i’r pandemig ddechrau, rydyn ni wedi buddsoddi mwy na £5.2m drwy ein Cronfa Cymru Actif i helpu clybiau i oroesi’r argyfwng, gwneud eu gweithgareddau’n ddiogel o ran Covid, a chefnogi cynlluniau ar gyfer denu aelodau newydd.
“Mae Lle i Chwaraeonyn gynllun peilot sy’n weithredol tan fis Ebrill 2022 a fydd yn ehangu ar Gronfa Cymru Actif drwy ganolbwyntio ar welliannau i gyfleusterau ‘oddi ar y cae’. Drwy greu'r gronfa hon gallwn helpu i wella'r profiad cyffredinol i gyfranogwyr, gwneud clybiau'n fwy ecogyfeillgar, ac yn fwy hyfyw yn ariannol ar gyfer y dyfodol.
“Gan ein bod eisiau sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle i fod yn actif drwy chwaraeon, byddwn yn blaenoriaethu prosiectau mewn cymunedau difreintiedig. Rydyn ni wir eisiau i'r gronfa hon wneud y gwahaniaeth mwyaf i'r rhai sydd ei hangen fwyaf.
“Rydyn ni’n credu bod hwn yn amser am arloesi ac adeiladu’n ôl yn wahanol. Mae'r defnydd o gyllido torfol yn gyffrous oherwydd bydd yn ei gwneud yn ofynnol i glybiau ymgysylltu â'u cymunedau lleol yn fwy nag erioed. Bydd y gefnogaeth helaeth a ddarperir gan Crowdfunder hefyd yn rhoi i'r gwirfoddolwyr sy'n rhedeg clybiau chwaraeon yr hyder sy'n ofynnol i helpu gyda'u codi arian yn y dyfodol. Mae wnelo hyn gymaint â chefnogi clybiau a gwirfoddolwyr i ddatblygu eu sgiliau ag â’r buddsoddiad ariannol.”