Skip to main content

Laura yn symud i hyfforddi

Mae Laura Halford yn mynnu mai symud i hyfforddi yw un o'r penderfyniadau gorau y mae wedi'i wneud erioed – ond mae'n cyfaddef bod hyd yn oed y pethau hawdd yn anodd.

Newidiodd pencampwr Prydain bum gwaith a’r athletwr sydd wedi ennill medal arian yng Ngemau'r Gymanwlad o fod yn gymnastwr i fod yn hyfforddwr 18 mis yn ôl, proses o newid y mae'r rhan fwyaf o athletwyr o'r radd flaenaf ym mhob camp yn ei hystyried rywbryd.

Er hynny, does dim modd sicrhau llwyddiant ac mae'n dibynnu cymaint ar ansawdd y llwybr hyfforddi ag y mae ar allu'r unigolyn i ddysgu sgiliau newydd.

I Laura, daeth y symudiad o berfformiwr elitaidd – a'r gymnastwr rhythmig gorau yn y DU heb os - i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, ar ôl hedfan yn ôl o Fwlgaria lle'r oedd newydd gystadlu ym mhencampwriaethau'r byd ar ddiwedd 2018.

Llun: Gemau Cymanwlad Cymru

 

Roedd hi'n eistedd wrth ymyl Jo Coombs, pennaeth perfformio Gymnasteg Cymru, pan glywodd Laura fod swydd hyfforddi wag i weithio gyda'r garfan ddatblygu a chafodd ei hannog i wneud cais.

Roedd enillydd pedair medal mewn gymnasteg rythmig mewn dwy wahanol Gemau’r Gymanwlad (2014 a 2018) eisoes wedi penderfynu ei bod yn mynd i roi'r gorau i gystadlu y flwyddyn honno a phenderfynodd fod hwn yn gyfle y dylai fanteisio arno.

“Graddiais mewn gwyddor chwaraeon ac roeddwn eisiau aros mewn chwaraeon rhywsut, gan mai dyna oeddwn i wedi'i fwynhau erioed," meddai Laura, sydd bellach yn 24.

"Penderfynais roi cynnig arni ac erbyn hyn rwyf wrth fy modd. Allwn i ddim dychmygu gwneud dim byd arall ar hyn o bryd.”

Roedd y llwybr o berfformiwr i hyfforddwr yn cynnwys dilyn cwrs hyfforddi lefel un ac erbyn hyn mae Laura yn gweithio tuag at gwblhau’r cwrs lefel dau.

Mae dadansoddi sgiliau unrhyw gamp i'r elfennau sylfaenol ar gyfer plant saith i 10 oed sy'n dechrau arni'n swnio'n ddigon syml, ond mae'n haws dweud na gwneud – yn enwedig i berfformwyr a oedd wedi meistroli'r pethau sylfaenol hynny amser maith yn ôl.

"Rwy'n hyfforddi carfan ddatblygu sy'n eithaf ifanc ac maen nhw'n dal i ddysgu'r holl elfennau sylfaenol," meddai Laura. "Y peth anoddaf i mi yw dadansoddi'r sgiliau hynny i'w dangos iddynt, oherwydd i mi maen nhw'n dod mor hawdd gan fy mod wedi bod yn eu gwneud ers blynyddoedd.

"Mae esbonio rhywbeth sy'n ymddangos yn eithaf syml yn anodd. Ond diolch byth, rwy'n cael cefnogaeth dda gan hyfforddwyr eraill o'm cwmpas – gan gynnwys fy hen hyfforddwr Nia Evans - felly os nad ydw i'n siŵr o rywbeth rwy'n gallu holi. Maen nhw wedi bod yn gwneud hyn am lawer mwy o amser na fi.”

Mae addasu i fod yn hyfforddwr newydd yn ddigon anodd, ond daw newid Laura ar adeg pan mae ei champ wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau yn yr wythnosau diwethaf, gyda honiadau o fwlio ac ymddygiad camdriniol tuag at gymnastwyr ifanc mewn rhai rhannau o'r DU.

Mae British Gymnastics wedi ymrwymo i adolygiad annibynnol wedi'i gomisiynu gan UK Sport a Sport England, ac mae Laura'n cyfaddef fod ei ddarllen wedi gwneud iddi deimlo'n anghyfforddus.

"Mae wedi bod yn anodd darllen am gynifer o gymnastwyr sydd, mae’n debyg, wedi cael profiad negyddol o gymnasteg," meddai.

Llun: Gemau Gymanwlad Cymru

 

“Dim ond pethau da sydd gen i i'w dweud am fy mhrofiadau fy hun o ddysgu gyda Nia, ond mae'n gwneud i chi feddwl yn galed am y ffordd gywir o siarad â phlant yn y gamp, a sut i’w trin.

“Mae'n drist bod rhai pobl yn teimlo nad ydynt wedi cael y profiad iawn o gymnasteg, ond y cyfan dwi eisiau i'r plant dwi'n eu hyfforddi ei deimlo yw eu bod nhw'n cael hwyl.

"Efallai y bydd rhai ohonynt yn gadael y gamp yn eithaf cyflym a dim ond ychydig iawn fydd yn mynd ymlaen i fod ymhlith y gorau yn y wlad, felly'r peth pwysicaf i mi yw eu bod yn edrych yn ôl ac yn teimlo eu bod wedi mwynhau'r profiad.

"Mae gymnasteg yn wahanol i lawer o gampau eraill, oherwydd gall y bobl sy'n cymryd rhan fod yn cyrraedd y gorau y gallant fod pan fyddan nhw'n 16 oed. Gall hyfforddwyr fod yn angerddol iawn am blant talentog, ond y peth pwysicaf i unrhyw hyfforddwr o bell ffordd yw nid eu bod yn cynhyrchu pencampwyr Prydain, ond bod yr holl blant yn eu grŵp wedi cael hwyl ar hyd y ffordd.”

Diolch byth, nid oes yr un o'r penawdau cythryblus wedi gwneud i Laura gwestiynu’r llwybr o'i dewis ac mae'n benderfynol o greu rôl sy'n ei gwneud hyd yn oed yn fwy gwerthfawr i'w chwaraeon yng Nghymru nag yr oedd fel perfformiwr.

Mae disgwyl iddi gwblhau ei chwrs hyfforddi lefel dau – sydd wedi'i ohirio gan y pandemig coronafeirws – yn ddiweddarach eleni a bydd yr athletwr o Swindon wedyn yn ceisio parhau i ddringo'r ysgol hyfforddi.

“Un o'r pethau sy'n fy helpu yw pan oeddwn yn 18 oed, dechreuais gael fy hyfforddi gan Nia, ond dim hi oedd yn rheoli’r berthynas yn gyfan gwbl.

“Ro'n i'n cael digon o gyfleoedd i ddweud fy nweud. Roedd hi bob amser yn gefnogol iawn ac rwy'n ddiolchgar iawn iddi am ddangos i mi mai dyna sut y dylai’r broses hyfforddi fod.”

Ar gyfer gymnastwyr elitaidd, mae'r ymrwymiad amser yn golygu bod yn rhaid i'r berthynas rhwng yr hyfforddwr a’r perfformiwr fod yn seiliedig ar y math hwnnw o ymddiriedaeth a dealltwriaeth ar y cyd.

Pan oedd hi ar ei gorau, roedd Laura yn arfer codi am 6am y rhan fwyaf o foreau, hyfforddi rhwng 7am a 9am, gwneud diwrnod o astudio yn y brifysgol, ac yna hyfforddi eto rhwng 4pm ac 8pm.

"Roedd hynny'n ymrwymiad mawr ac fel hyfforddwr bellach rwy'n deall hynny oherwydd dyna o'n i'n ei wneud fel gymnastwr. 

“Ond mae gen i gymaint o bethau eraill i'w dysgu o hyd – y ffyrdd gorau o gyfathrebu, y gwahanol fathau o bersonoliaeth, yn ogystal ag addysgu'r holl sgiliau i’w perfformio.

"Rwy'n gallu dweud pethau o'm safbwynt i – beth sy'n gweithio a beth nad yw'n gweithio – ac mae hynny'n teimlo'n ddefnyddiol.

“Felly, rwy'n mwynhau hyfforddi'n fawr, byddwn yn ei argymell fel cam i unrhyw un mewn chwaraeon ei ystyried, fel ffordd o roi rhywbeth yn ôl i'r gamp, ond hefyd ar gyfer datblygu sgiliau ac uchelgeisiau newydd eu hunain."

Stori gan Dai Sport (@Dai_Sport_)

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy