Skip to main content

30 o ffyrdd y mae’r Loteri Genedlaethol wedi cael effaith ar chwaraeon yng Nghymru dros 30 mlynedd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. 30 o ffyrdd y mae’r Loteri Genedlaethol wedi cael effaith ar chwaraeon yng Nghymru dros 30 mlynedd

Rhyddhawyd peli’r Loteri Genedlaethol am y tro cyntaf erioed ar 19 Tachwedd 1994. Ac ers hynny, mae wedi bod yn gefnogwr mwyaf erioed i chwaraeon yng Nghymru.

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn helpu i godi mwy na £30m yr wythnos at achosion da ledled y DU. I chwaraeon yng Nghymru, mae wedi newid y gêm yn llwyr gyda buddsoddiad ar bob lefel – o glybiau a phrosiectau cymunedol i’n Olympiaid a’n Paralympiaid ni sy’n chwifio baner Cymru ar lwyfan y byd.

Mae wedi dod yn drysor cenedlaethol gwirioneddol, gan effeithio ar bob cornel o Gymru. Wrth i ni ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed, rydyn ni’n edrych ar 30 o ffyrdd y mae'r Loteri Genedlaethol wedi mynd â chwaraeon yng Nghymru i lefel arall.

1. Helpu arwr lleol i roi hwb i gymuned aml-ethnig hynaf Cymru

Roedd Wasem Said yn 15 oed pan ddechreuodd ymwneud â throseddau gangiau. Ond pan fu farw ei dad, roedd yn gwybod bod rhaid iddo helpu i ddarparu ar gyfer ei deulu. Gan drawsnewid ei fywyd drwy sianelu ei egni i mewn i chwaraeon, mae bellach yn helpu eraill i wneud yr un peth yn ardal Trebute o Gaerdydd drwy Glwb Bocsio Tiger Bay.

Gyda’r Loteri Genedlaethol yn gefn iddo, mae wedi trawsnewid bywydau mwy na 300 o bobl ifanc. Drwy rym chwaraeon, mae Wasem wedi helpu ieuenctid Trebute i gadw draw oddi wrth droseddau cyffuriau a chyllyll drwy adeiladu'r clwb bocsio i fod y ganolfan ffyniannus ydyw heddiw.

Mae Wasem hefyd yn gweithio gyda'r heddlu a chlwb bocsio arall yn Llanrhymni i atal rhyfeloedd cod post. Yn 2020, cafodd ei ddyfarnu yn Lockdown Legend a chafodd ei enwi’n enillydd y DU gyfan yn y categori chwaraeon yng ngwobrau’r Loteri Genedlaethol.

Gwyliwch y foment pan wnaeth y seren David Haye gyflwyno’r wobr i Wasem.

2. Grymuso Emma Finucane drwy gydol ei gyrfa

Yr haf yma, merch euraidd ddiweddaraf Cymru, Emma Finucane, oedd y fenyw gyntaf o Brydain i ennill tair medal mewn un Gemau Olympaidd ers 1928.

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi chwarae rhan allweddol drwy gydol ei gyrfa. Dechreuodd ei siwrnai at enwogrwydd yn y byd beicio gyda Beicwyr Tywi – clwb sydd wedi derbyn £34,647 o arian y loteri dros y blynyddoedd – a chafodd eu canolfan, Felodrom Caerfyrddin, £296,000 i’w hadfywio. Wrth i ddoniau Emma dynnu sylw pobl, daeth yn athletwraig oedd yn cael ei chyllido gan y loteri ei hun a hyfforddodd hefyd yn Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd, sydd wedi’i gyllido gan y loteri.

Dywedodd Emma: “Fe gafodd y felodrom yng Nghasnewydd ei adeiladu yn 2003 i gael pobl i gymryd rhan yn y gamp. Pe na bai yma, dydw i ddim yn siŵr a fyddwn i’n feicwraig trac i fod yn onest.”

3. Codi'r to yn Stadiwm Principality

Wedi’i gynllunio a’i adeiladu i lwyfannu Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999, mae Stadiwm Principality yn ddi-os yn un o’r lleoliadau chwaraeon mwyaf eiconig yng Nghymru. Gyda £46.3 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol, mae wedi hawlio lle amlwg ar orwel Caerdydd ac agorodd yn 1999.

Ers hynny, mae wedi bod yn gefndir i lawer o eiliadau hudolus – pedair Camp Lawn i Gymru, pêl droed dynion a merched Olympaidd yn 2012, chwe rownd derfynol Cwpan yr FA, gemau Cwpan Rygbi’r Gynghrair y Byd, reslo proffesiynol, a buddugoliaethau bocsio cofiadwy i Joe Calzaghe. 

Rydyn ni bob amser yn teimlo llawer o hwyl (a chroen gŵydd) cyn gynted ag y byddwn ni’n camu i mewn.

Golygfa o'r awyr o Stadiwm y Principality
Stadiwm y Principality

4. Helpu i ddatblygu rygbi merched yng Nghymru

Mae Clwb Rygbi Ceirw Nant yn Llanrwst yn un enghraifft yn unig o sut mae rygbi merched wedi tyfu yng Nghymru ers 1994. Mae wedi tyfu o ddim ond llond llaw o chwaraewyr benywaidd i glwb sydd â sawl carfan erbyn heddiw.

Fe ddechreuodd Nel Metcalfe chwarae yma. A nawr hi yw un o dalentau mwyaf cyffrous y byd rygbi yng Nghymru:

“Rydw i’n cofio pan oeddwn i’n tyfu i fyny, rygbi oedd y peth oeddwn i wastad yn gwybod fy mod i eisiau ei wneud. Ac mae arian y Loteri Genedlaethol yng Nghymru yn helpu pobl i gyflawni eu nodau a gwireddu eu breuddwydion.”

5. Goresgyn rhwystrau i chwaraeon drwy ddatblygu hyfforddwyr cymunedol cynhwysol

Ers dros 40 mlynedd, mae Roy Court MBE wedi croesawu plant a phobl ifanc ag anableddau ac anawsterau dysgu i'w glwb jiwdo yng Nghaerdydd.

A nawr, mae cenhedlaeth newydd sbon o hyfforddwyr yn cael eu hyfforddi fel bod y clwb yn gallu parhau i groesawu plant o bob gallu am flynyddoedd i ddod. Ac mae’r cyfan diolch i’r Loteri Genedlaethol.

Fe ddechreuodd y cyfan yn gynnar yn yr 1980au pan oedd merch ifanc â Syndrom Down yn ysu am ddysgu jiwdo. Ac fe feddyliodd Roy, “wel, pam lai?”.

Mae un fam yn cofio ei mab yn cael ei droi i ffwrdd o glybiau eraill cyn iddi ddod o hyd i Roy, “Mae e wedi creu amgylchedd cynhwysol yma lle gallwch chi fod yn pwy ydych chi eisiau bod.”

6. Ysgogi un o gewri mwyaf y byd chwaraeon yng Nghymru Tanni Grey-Thompson

Arloeswraig, eicon, Barwnes… ac athletwraig a gefnogwyd gan y Loteri Genedlaethol i'w helpu i ddod yn un o sêr chwaraeon mwyaf llwyddiannus Prydain Fawr.

Roedd Tanni Grey-Thompson eisoes yn enw cyfarwydd ac ar frig ei gyrfa pan gyflwynwyd arian y loteri yn rhan o chwaraeon elitaidd yn 1997. Bryd hynny, roedd hi wedi cystadlu yn y Gemau Paralympaidd deirgwaith, gan ennill 10 medal – pump ohonyn nhw’n aur. Erbyn i Tanni ymddeol o gystadlu yn 2007, roedd cefnogaeth y loteri wedi ei helpu i ennill chwe medal aur Paralympaidd arall. Roedd hi hefyd wedi dal mwy na 30 o recordiau byd ac wedi ennill Marathon Llundain chwe gwaith!

Y dyddiau yma, mae hi’n parhau i fod yn fodel rôl ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – mae hi’n llysgennad i UNICEF ac yn Gadeirydd Chwaraeon Cymru. Darllenwch fwy am feddyliau Tanni am y Loteri Genedlaethol.

Tanni Grey-Thompson yn dyrnu'r awyr wrth iddi groesi'r llinell i ennill.
Tanni Grey-Thompson yn ennill Aur yn Gemau Athens 2004.

7. Creu gofod diogel i'r gymuned LGBTQIA+ fwynhau chwaraeon

Dylai chwaraeon fod i bawb, ac mae miloedd o enghreifftiau o glybiau cymunedol yn defnyddio arian y loteri, sydd wedi’i ddyfarnu drwy Chwaraeon Cymru, i wneud chwaraeon yn fwy cynhwysol dros y tri degawd diwethaf. 

Er enghraifft, helpodd bron i £1000 o arian y Loteri Genedlaethol i sefydlu Clwb Pêl Droed Galaxy Abertawe fel bod y chwaraewyr – dim ots beth yw eu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol neu gefndir – yn gallu mwynhau’r gêm hardd.

Dywedodd y clwb:

"Yn Abertawe ac yn y rhan fwyaf o Gymru, mae diffyg llefydd diogel i aelodau LHDT+ fynd, i deimlo'n ddiogel a chwrdd â phobl debyg iddyn nhw. Mae creu'r clwb yma wedi bod yn gyfle i ni greu gofod i bobl fwynhau pêl droed, cwrdd â phobl a helpu gyda’u hiechyd a’u ffitrwydd.”

8. Helpu athletwyr Cymru i ddod allan o'r blociau

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi helpu athletwyr trac a chae Cymru i gyflawni mawredd hefyd.

Adeiladwyd y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol yng Nghaerdydd, sy’n cael ei hadnabod fel NIAC, gyda £5.6m o arian y Loteri Genedlaethol cyn iddi agor ei drysau yn 2000. Daeth y cyfleuster yn fuan iawn yn bencadlys i athletwyr Cymru fel Colin Jackson, Jamie Baulch a Christian Malcolm.

Heddiw, fe welwch chi unigolion fel Aled Sion Davies, Hannah Brier, Jeremiah Azu a Harrison Walsh yno yn hogi eu sgiliau. Ond fe welwch chi hefyd chwaraeon cymunedol yn cael eu cynnal yno gan fod y ganolfan hefyd wedi cael ei chynllunio ar gyfer pêl rwyd, pêl fasged, pêl foli a mwy.

9. Sicrhau bod pobl anabl yn gallu mwynhau gweithgawch corfforol am oes

Ers 20 mlynedd, mae'r Loteri Genedlaethol wedi bod yn pwmpio buddsoddiad i Chwaraeon Anabledd Cymru. Mae wedi golygu bod y sefydliad wedi gallu gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i ddarparu cyfleoedd a chreu amgylcheddau chwaraeon cynhwysol.

Mae’r cyfleoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o chwaraeon wedi cynyddu, gan wella iechyd a lles, ac – mewn rhai achosion – darparu man lansio ar gyfer ein Paralympiaid ni.

Dywedodd Fiona Reid o Chwaraeon Anabledd Cymru:

“Mae gwaith i’w wneud o hyd cyn i ni ddod at ddarlun lle mae dewis eang a lleol i bob person anabl yng Nghymru, ond gyda chefnogaeth barhaus gan y Loteri Genedlaethol a’n partneriaid ni, byddwn yn parhau i newid y tirlun gyda’n gilydd.

“Pen-blwydd hapus iawn i’r Loteri Genedlaethol, diolch i chi am eich cefnogaeth”

Merch mewn cadair olwyn yn rasio o amgylch trac
Gwyl InSport Chwaraeon Anabledd Cymru

10. Cefnogi syniadau creadigol clybiau i gynyddu cyfleoedd chwaraeon

Yn 2019, sefydlodd John Heycock Margam Stags YC wrth iddo ddechrau ar genhadaeth i ddarparu cyfleoedd i blant ac oedolion ifanc sydd ag anableddau, y rhai â lefel isel o hunan-barch yn ogystal â merched a genethod. 

Gyda’r Loteri Genedlaethol yn rhoi help llaw, daeth y Stags y clwb cyntaf yng Nghymru i gynnig pêl droed ffrâm pan brynodd chwe ffrâm, gan ei gwneud yn bosibl i blant sydd â chyflyrau fel parlys yr ymennydd gymryd rhan.

Bob tro rydych chi’n chwarae’r Loteri Genedlaethol, cofiwch eich bod chi’n helpu plant ag anableddau i fwynhau’r pleser o chwarae chwaraeon gyda’i gilydd.

11. Taflu eu pwysau tu ôl i’r arwr Paralympaidd Aled Siôn Davies

Cafodd Aled Siôn Davies ei eni yn 1991, ychydig flynyddoedd yn unig cyn rhyddhau peli’r Loteri Genedlaethol am y tro cyntaf erioed. Mae bellach yn un o Baralympiaid mwyaf llwyddiannus Prydain Fawr erioed.

“Heb gefnogaeth y Loteri Genedlaethol, ’fyddwn i ddim wedi gallu cyflawni’r hyn rydw i wedi’i gyflawni. Mae hyn oherwydd cefnogaeth anhygoel y Loteri Genedlaethol a’r holl chwaraewyr anhygoel sydd allan yna.”

Mae wedi ysbrydoli llawer o blant ifanc sydd ag anableddau i gymryd rhan mewn chwaraeon, sydd, yn ein barn ni, yn ei wneud yn fuddsoddiad da iawn!

12. Meithrin ein hyfforddwyr o safon byd

Mae athletwyr elitaidd Cymru yn derbyn cyllid gan y Loteri Genedlaethol fel eu bod yn gallu hyfforddi’n llawn amser ond mae hefyd yn golygu eu bod yn cael mynediad at hyfforddwyr o safon byd sy’n cael eu cyllido gan y loteri hefyd.

Rydyn ni’n ffodus bod gennym ni lawer o hyfforddwyr gwych yng Nghymru, fel Ryan Spencer-Jones, Cydlynydd Taflu Cenedlaethol Athletau Cymru. Edrychwch ar y nifer o daflwyr o Gymru sy’n rhagori ar hyn o bryd. Yn y Gemau Paralympaidd yr haf yma, fe fu pum taflwr yn cynrychioli Prydain Fawr: Aled Siôn Davies, Sabrina Fortune, Harrison Walsh, Hollie Arnold a Funmi Oduwaiye.

Enillodd Sabrina fedal aur, cipiodd Aled fedal arian a chafodd Hollie fedal efydd. Mae eu doniau, a’u hyfforddwyr talentog, i gyd yn cael eu meithrin gan y Loteri Genedlaethol.

Ryan Spencer-Jones yn hyfforddi Aled Siôn Davies
Ryan Spencer-Jones & Aled Siôn Davies

13. Galluogi plant i fwynhau chwaraeon a'r awyr agored gan ddefnyddio'r Gymraeg

Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, yn 1922. Gyda help y Loteri Genedlaethol, mae’n trefnu 250 o glybiau chwaraeon wythnosol gyda 3,500 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon.

Hefyd, mae bron i 200 o gystadlaethau’n cael eu cynnal ar gyfer 44,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn tra bo 103,000 o ymwelwyr a mwy na 850 o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru yn mynychu canolfannau preswyl yr Urdd.

“Mae cefnogaeth y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru dros y blynyddoedd wedi galluogi’r Urdd i gynnig cyfleoedd cyfartal i ieuenctid ledled y wlad,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru. “Mae cyllid gan y Loteri Genedlaethol hefyd wedi helpu i foderneiddio’r cyfleusterau yn ein canolfannau preswyl poblogaidd ni yn Llangrannog a Glan-llyn yn ddiweddar.

“Ar ran yr Urdd hoffwn ddiolch i’r Loteri Genedlaethol am gefnogi ein gweledigaeth ni ac, wrth wneud hynny, ein helpu ni i ddal ati i gynnig profiadau amhrisiadwy drwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc ledled Cymru.”

14. Creu sêr nofio ym Mhwll Cenedlaethol Cymru

Adeiladwyd Pwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe gyda mwy nag £8m o arian y Loteri Genedlaethol. Agorodd y pwll 50m, wyth lôn o safon ryngwladol ei ddrysau am y tro cyntaf yn 2003 ac mae nofio yng Nghymru yn sicr wedi mwynhau rhai eiliadau hudolus ers hynny.

Pwy all anghofio bloeddio eu cymeradwyaeth i David Davies, Jazz Carlin, David Roberts, Georgia Davies, Liz Johnson ac Ellie Simmonds. Ac yn fwy diweddar Medi Harris a Dan Jervis. Yr holl dalentau Olympaidd a Pharalympaidd sydd wedi ymarfer yn ddygn yn Abertawe ar eu llwybr at gyflawni mawredd.

15. Gwella iechyd meddwl dynion drwy Therapi Syrffio

Mae’r Loteri Genedlaethol hefyd yn helpu dynion yng Nghymru i reidio’r tonnau – a siarad am eu hiechyd meddwl.

Mae Therapi Syrffio yn brosiect iechyd meddwl sydd wedi’i anelu at ddynion dros 45 oed, gyda llawer ohonyn nhw’n gyn-filwyr sy’n defnyddio’r sesiynau syrffio fel therapi ar gyfer problemau iechyd meddwl fel PTSD. Anghofiwch am 10 Perffaith, mae Therapi Syrffio yn ymwneud â lleihau ynysu a gwella lles y meddwl.

Mae £14,000 gan y Loteri Genedlaethol yn dileu'r angen am gyllido eich offer eich hun, fel siwtiau gwlyb a byrddau padlo, ac yn golygu bod posib cynnal y sesiynau am ddim.

Aelodau gwrywaidd o Therapi Syrffio ar y traeth gyda byrddau syrffio a phadlo.
Aelodau Therapi Syrffio

16. Galluogi ein hathletwyr ni i gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad

Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi bod yn gefnogwr mwyaf i’n sêr ni sy’n cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.

Pan sefydlwyd y Loteri Genedlaethol i ddechrau yn 1994, roedd yn golygu bod athletwyr fel Iwan Thomas a Kelly Morgan, dau a enillodd fedal aur yng Ngemau 1998 yn Kuala Lumpur, yn gallu hyfforddi'n llawn amser.

Mae Tîm Cymru hefyd yn rhoi cyfle unigryw i athletwyr chwifio baner Cymru ar lwyfan y byd. Ac i rai athletwyr sy'n colli’r cyfle i gystadlu dros Team GB neu ParaGB, dyma eu cyfle i gystadlu ar y lefel uchaf.

Gyda dinas Glasgow wedi’i chyhoeddi fel y lleoliad ar gyfer 2026, rydyn ni’n edrych ymlaen unwaith eto at weld ein hathletwyr ni’n gwisgo’r fest goch ac yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd sbon yng Nghymru i fod yn actif.

17. Dod â chwaraeon at bobl ifanc mewn cymunedau sydd ddim yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol

Oeddech chi’n gwybod, bob tro y byddwch chi’n prynu tocyn loteri, eich bod yn helpu StreetGames i gyflwyno chwaraeon i blant sy’n byw mewn cymunedau yng Nghymru sydd ddim yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol?

Mae’r cyllid yn golygu y gall StreetGames newid bywydau pobl ifanc drwy ei ddull Chwaraeon Carreg y Drws o weithredu a rhaglenni wedi’u targedu sy’n cynnwys Us Girls a Fit & Fed, a digwyddiadau fel Gŵyl Chwaraeon Gareth Bale.

Claire Lane yw Cyfarwyddwr Cenedlaethol StreetGames ar gyfer Cymru:

“Mae arian y Loteri Genedlaethol yn gwbl amhrisiadwy ar gyfer ein gwaith ni yng Nghymru. O gefnogaeth un i un i sefydliadau cymunedol i brosiectau a digwyddiadau cenedlaethol, mae arian y Loteri Genedlaethol yn sail i’n gwaith ni ledled y wlad ac yn sicrhau ein bod ni’n gallu cael yr effaith orau bosibl gyda Chwaraeon Carreg y Drws – gan gefnogi pobl ifanc i fod yn iachach, yn fwy diogel ac yn fwy llwyddiannus.”

18. Cefnogi’r seren taekwondo Jade Jones

Fe ffrwydrodd Jade Jones o Sir y Fflint ar y llwyfan rhyngwladol yn Llundain 2012 – pan enillodd fedal aur – ac amddiffyn ei theitl Olympaidd yn llwyddiannus bedair blynedd yn ddiweddarach yn Rio.

Gyda'r llysenw The Headhunter, mae Jade yn un o fwy na 1,000 o athletwyr elitaidd ar Raglen Safon Byd UK Sport sy’n cael ei chyllido gan y Loteri Genedlaethol. Mae hi'n hyfforddi yng Nghanolfan Taekwondo Prydain Fawr sy’n cael ei chyllido gan y Loteri Genedlaethol ym Manceinion.

Dywedodd Jade: “Roedd gen i’r dyhead, yr ymrwymiad, y weledigaeth a’r gefnogaeth erioed i lwyddo ond fe wnaeth arian y Loteri Genedlaethol fy ngalluogi i gystadlu a hyfforddi’n llawn amser, gan ddefnyddio cyfleusterau o safon byd a rhaglenni hyfforddi sy’n rhoi’r fantais ychwanegol honno i chi mewn chwaraeon cystadleuol.”

Jade Jones yn dathlu gyda'i breichiau yn yr awyr wrth iddi ennill aur Olympaidd
Jade Jones ennill aur Olympaidd yng Ngemau Olympaidd London 2012

19. Datblygu modelau rôl ifanc sy'n hyrwyddo chwaraeon

Ers bron i 15 mlynedd, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi bod yn rhoi llawer o help i ddatblygu cenhedlaeth nesaf ein gwlad ni o arweinwyr. Cyflwynwyd rhaglen y Llysgenhadon Ifanc – sy’n cael ei gweithredu gan yr Youth Sport Trust fel gwaddol y cais llwyddiannus am gynnal Gemau Llundain 2012 – am y tro cyntaf yng Nghymru yn 2010 ac mae’n cael ei chefnogi’n helaeth gan arian y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru.



O’r Tyllgoed i’r Fflint, rydyn ni wedi gweld gwaith gwych yn cael ei wneud gan awdurdodau lleol ledled Cymru i ddatblygu ymhell dros 25,000 o fodelau rôl ifanc sy’n ysbrydoli, yn dylanwadu, yn mentora ac yn arwain eu cyfoedion.

Yn eu hysgolion ac yn eu cymunedau ehangach, maen nhw’n defnyddio chwaraeon fel cyfrwng i hyrwyddo newid cymdeithasol, gan helpu eraill i feithrin cyfeillgarwch, magu hyder, a mwynhau manteision cadarnhaol niferus chwaraeon.

20. Gwneud chwaraeon iâ yn hygyrch yn Arena Iâ Glannau Dyfrdwy

Ar Lannau Dyfrdwy, mae'r Loteri Genedlaethol wedi bod yn rhoi pobl ar iâ hefyd. Arena Iâ Glannau Dyfrdwy oedd un o'r prosiectau mawr cyntaf i gael grant. Derbyniodd bron i £1m yn 1997 i ailadeiladu'r rinc sglefrio yng Ngogledd Cymru.

Ymhlith y clybiau sy'n galw'r rinc iâ yn gartref mae Hoci Iâ Iau Dreigiau Glannau Dyfrdwy a Sglefrio Iâ Glannau Dyfrdwy. Sicrhaodd y Loteri Genedlaethol y gallai unrhyw un yng Ngogledd Cymru fynd ar yr iâ pan aeth ati i gyllido’r clwb i gynnal sesiynau sglefrio iâ ar gyfer pobl ag anableddau.

21. Cadw pobl yn actif drwy gydol eu hoes

Mae prynu tocyn lotto yn helpu merched yn eu nawdegau i rolio’r blynyddoedd yn ôl yng Nghlwb Bowls Awyr Agored Merched Rhiwbeina.  

Mae offer arbenigol, a brynwyd gydag arian y Loteri Genedlaethol, yn gwneud bywyd ar y lawnt fowlio yn haws i ferched mor hen â 91 oed. Mae ‘codwyr’ a ‘chasglyddion peli’ newydd wedi dileu’r angen am blygu ac ymestyn i gasglu peli a jacs.

Yn ogystal â helpu i’w cadw nhw’n actif yn gorfforol ac yn feddyliol, mae’r clwb hefyd yn achubiaeth gymdeithasol, gan leihau unigrwydd ac ynysu.

Pedwar aelod o glwb feterans y merched yn chwarae bowls ar y lawnt
Aelodau Rhiwbina Ladies

22. Grymuso gwahanol chwaraeon gyda'r adnoddau i gyflawni 

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn helpu i godi mwy na £30m yr wythnos i achosion da ledled y DU a dim ond un ohonyn nhw ydi chwaraeon yng Nghymru.

Eleni, mae mwy na £6.8m o arian y Loteri Genedlaethol wedi'i ymrwymo i'n cyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol ni, gan eu helpu i ddarparu cyfleoedd i’r genedl fod yn actif.

O griced a hoci i dennis bwrdd a thriathlon, mae’r rhestr o 35 o gyrff rheoli yng Nghymru yn cael ei chefnogi gan Chwaraeon Cymru drwy arian y Loteri Genedlaethol ac mae’n eu grymuso i gyflawni gwaith anhygoel.

23. Yng nghornel y bencampwraig focsio Lauren Price

Cyn iddi droi’n broffesiynol, roedd arian y Loteri Genedlaethol yn gefnogaeth enfawr i bencampwraig focsio’r byd gyntaf Cymru.

Mae Lauren Price wedi creu hanes yn sicr. Y ferch o Ystrad Mynach oedd un o’r merched cyntaf erioed i ennill medal bocsio yng Ngemau’r Gymanwlad – enillodd efydd yn 2014 a phedair blynedd yn ddiweddarach, enillodd fedal aur. Aeth ymlaen i fod yn Bencampwraig Ewropeaidd, Pencampwraig Byd ac, yn 2021, yn Bencampwraig Olympaidd:

“Mae llawer o’r hyn rydw i wedi’i gyflawni oherwydd bod y Loteri Genedlaethol wedi fy nghefnogi i fel athletwr. Fe alluogodd y cyllid i mi ganolbwyntio ar yr hyn rydw i wrth fy modd yn ei wneud ac i gyrraedd fy llawn botensial.”

24. Lledaenu'r gair am gyfleoedd chwaraeon mewn ardaloedd gwledig

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol hefyd yn ei gwneud yn haws i bobl yng nghefn gwlad ddod o hyd i gyfleoedd i fod yn actif.

Lansiodd Cyngor Sir Powys Amdani Powys yr haf diwethaf. Nod y wefan ddwyieithog, sef y gyntaf o'i bath yng Nghymru, yw helpu pobl i symud. Mae’n llawn syniadau a gweithgareddau; o bêl rwyd yn cerdded i gaiacio, beicio a phêl fasged cadair olwyn, mae rhywbeth at ddant pawb yn yr ardal wledig yma.

A'r gobaith ydi y gall gweithwyr iechyd proffesiynol lleol ei ddefnyddio hefyd i gyfeirio pobl at weithgareddau i hybu iechyd a lles.

Menyw mewn cadair olwyn yn taflu pêl-fasged.
Pêl-fasged cadair olwyn ym Mhowys

25. Cefnogi ein gwirfoddolwyr ni ar lawr gwlad sy'n newid y gêm 

Y tro nesaf y byddwch chi'n chwarae'r Loteri Genedlaethol, cofiwch ganmol chi'ch hun am gefnogi'r miloedd o wirfoddolwyr brwd sy'n rhoi o'u hamser rhydd i ddatblygu chwaraeon ledled Cymru.

Yn eu plith mae Tirion Thomas o'r Bala. Dim ond 20 oed yw hi, ond mae hi eisoes yn rym mawr yn y byd rygbi merched.

Yn 18 oed, dechreuodd hyfforddi ei thîm yng Nghlwb Rygbi’r Bala. Ers hynny, mae ei hymroddiad wedi gweld adran y merched yn ffrwydro o gynnwys un tîm i fod â phump. Gwyliwch Tirion yn ennill gwobr Arwr Tawel Chwaraeon BBC Cymru 2020.

Mae'r clwb wedi derbyn wyth grant gan y Loteri Genedlaethol, y mwyafrif gan Chwaraeon Cymru, sy'n dod i gyfanswm o £95,475. Mae’r grantiau wedi talu am wella’r cyfleusterau, offer ac, yn hollbwysig i stori Tirion, cyrsiau addysgu hyfforddwyr.

26. Creu amgylcheddau i athletwyr ffynnu

Nhw yw'r tîm y tu ôl i'r tîm. Mae Tîm Athrofa Chwaraeon Cymru, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd, yn defnyddio eu harbenigedd mewn gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon i gefnogi cyrff rheoli chwaraeon Cymru i ddatblygu athletwyr fel pobl a pherfformwyr cyflawn.

Yn cael ei gyllido'n gyfan gwbl gan y Loteri Genedlaethol, mae eu ffocws ar gefnogi chwaraeon i greu amgylcheddau chwaraeon cadarnhaol, yn ogystal â gofalu am iechyd a lles athletwyr a gwneud y gorau o'u datblygiad athletaidd. Maen nhw’n credu mewn dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o weithredu, gan ystyried yr hyn sydd ei angen ar bob unigolyn i ffynnu fel athletwr ac fel person.

Un enghraifft o’r dull yma sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o weithredu yw’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud gyda hyfforddwyr elitaidd a staff cymorth i’w haddysgu nhw am effaith cylch y mislif ar athletwyr benywaidd. Maen nhw wedi creu pedwar modiwl ar-lein y gall unrhyw gamp ac ymarferydd ledled Cymru eu defnyddio.

27. Sicrhau mynediad cyfartal i nofio i gymunedau amrywiol yng Nghymru

Mae'r Loteri Genedlaethol hefyd yn helpu i gadw cymunedau amrywiol yn ddiogel yn y dŵr.

Mae’r Gymdeithas Nofio i Bobl Dduon yn gweithio i sicrhau bod pobl o dras Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd yn cael mynediad cyfartal a theg i weithgareddau dŵr a phrofiad diogel yn y dŵr ac o'i gwmpas.

Dechreuodd ar ei gwaith yng Nghymru yn 2022, gan ddod â’i rhaglen ymgyfarwyddo â dŵr – Together We Can © – i gymunedau yng Nghaerdydd ac Abertawe.

Meddai Steph Makuvise o BSA Cymru: “Drwy arian y Loteri Genedlaethol, rydyn ni wedi gallu pontio’r bwlch rhwng y rhai sydd ddim yn ymgysylltu â gweithgareddau dŵr a’r cyfleoedd diddiwedd i wneud hynny o fewn y sector. Mae’r BSA hefyd wedi gallu cefnogi pobl ifanc i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda dŵr drwy gyfleoedd i fwynhau nofio, rhwyfo, canŵio a llawer mwy.”

Aelodau o'r Gymdeithas Nofio i Bobl Dduon yn dal eu Gwobr Loteri Genedlaethol o flaen pwll nofio.
Aelodau Gymdeithas Nofio i Bobl Dduon gyda'u Gwobr Loteri Genedlaethol

28. Creu Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas

Mae arian y Loteri wedi chwyldroi’r byd beicio ym Mhrydain ac mae gan Gymru enw rhagorol am gynhyrchu beicwyr sy’n bencampwyr byth ers i’r felodrom gwerth £7.5m gael ei adeiladu yng Nghasnewydd.

Ymhlith y rhai sydd wedi beicio’r byrddau mae Becky North, Elinor Barker, Emma Finucane ac wrth gwrs Geraint Thomas, a ysgogodd ailenwi’r cyfleuster ar ôl iddo ennill y Tour de France yn 2018.

Ewch draw i’r felodrom ar noson yn ystod yr wythnos ac fe welwch chi Beicio Cymru yno yn meithrin doniau arwyr trac y dyfodol.

29. Diogelu hanes chwaraeon Cymru

Gan fod chwaraeon yn rhan o wead bywyd yng Nghymru, mae’n hanfodol ein bod ni’n cadw straeon ein hanes a’n treftadaeth chwaraeon yn fyw. Ond er bod hanesion y dynion llwyddiannus yn y byd chwaraeon o'r gorffennol yn cael eu hadrodd yn dda, mae llai o wybodaeth am y merched sydd wedi rhagori yn ystod y 150 mlynedd diwethaf.

Fodd bynnag, gan ddefnyddio cyllid o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae cofnod cywir o ferched rhyfeddol Cymru’n cael ei gasglu bellach gan Archif Merched Cymru

O Agnes Davies o Rydaman, arloeswraig yn y byd snwcer gyda’i gyrfa gystadleuol wedi para am gyfnod anhygoel o 64 o flynyddoedd, i Audrey Bates a anwyd yng Nghaerdydd ac a gynrychiolodd Gymru mewn tennis, sboncen, tennis bwrdd a lacrosse, bydd straeon merched ysbrydoledig y 19eg a’r 20fed ganrif yn hawlio eu lle haeddiannol yn hanes chwaraeon Cymru diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Llun tîm o Glwb Pêl-droed Ffatri Cragen Genedlaethol Abertawe 1918
Tîm Glwb Pêl-droed Ffatri Cragen Genedlaethol Abertawe 1918

30. Rhoi cyfle i bob un ohonom ni ddod o hyd i gamp rydyn ni'n ei hoffi 

Am y 30 mlynedd diwethaf, mae grantiau’r Loteri Genedlaethol sydd wedi’u dyfarnu i glybiau a sefydliadau cymunedol gan Chwaraeon Cymru wedi bod yn hanfodol i roi mwy o gyfleoedd i bobl ddod o hyd i chwaraeon maent nhw’n eu hoffi.

Mae effeithiau chwaraeon – effeithiau sy’n newid bywydau - i'w gweld ar hyd a lled ein gwlad ni. Mae'n gwneud i ni deimlo'n well ac yn fwy hyderus amdanom ni ein hunain. Mae hefyd yn creu cyfeillgarwch a bond parhaol, gan ddod â’n cymunedau ni at ei gilydd. Mae pob un ohonyn nhw’n cefnogi cenedl iachach, hapusach a llai unig, gydag arbedion cost enfawr i’r GIG.

O Glwb Octowthio Penfro i Glwb Ffensio Wrecsam, mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd i chi gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru… diolch i gefnogaeth y Loteri Genedlaethol.

Gwyliwch Lauren Price yn ysbrydoli merched ifanc yn y gymuned

Lauren Price yn gwenu gyda'i bysedd wedi'u croesi.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy