Yng Nghlwb Pêl Droed Merched Coity Chiefs ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae merched a genethod yn rheoli pethau ar y cae ac oddi arno diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol.
Mae’r Chiefs yn un o’r llu o glybiau sy’n cefnogi twf cyflym pêl droed merched a genethod yng Nghymru, sydd wedi gweld cynnydd o 45% mewn cyfranogiad ers 2021.
Os nad yw merch wedi cicio pêl erioed o’r blaen, neu wedi bod yn chwarae ar hyd ei hoes, mae Coity Chiefs yn croesawu chwaraewyr rhwng 7 a 15 oed.
Mae'r clwb yn rhoi lle diogel i ferched lle maen nhw’n gallu mwynhau chwarae pêl droed, cymdeithasu a magu hyder hefyd.
Fodd bynnag, ni all unrhyw glwb ffynnu heb yr offer angenrheidiol sydd ei angen i chwarae’r gêm, a dyma’r broblem oedd yn wynebu’r Coity Chiefs y llynedd.
Yn 2023, daeth y clwb o dan berchnogaeth newydd, ac roedd yn cael anhawster dal ati i gynnig sesiynau oherwydd prinder cit ac offer.
Roedd y clwb ar y dibyn, ond yn sgil cais llwyddiannus i Chwaraeon Cymru dyfarnwyd gwerth £7,471 o gyllid y Loteri Genedlaethol iddo i dalu am beli newydd, goliau, bibiau, offer cymorth cyntaf a chyrsiau datblygu hyfforddwyr.