Mae canlyniadau arolwg mawr a gynhaliwyd gan Chwaraeon Cymru wedi pwysleisio’r angen am wneud gweithgareddau chwaraeon yn fwy deniadol, addas a chroesawgar i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022, a oedd yn casglu barn mwy na 116,000 o ddisgyblion rhwng 7 ac 16 oed, wedi canfod nad yw dros draean o ddisgyblion yn gwneud unrhyw weithgarwch rheolaidd trefnus y tu allan i’w gwersi Addysg Gorfforol (AG). Mae’r ffigwr wedi codi o 28% i 36%, sy’n peri dychryn, ers i’r arolwg gael ei gynnal ddiwethaf yn 2018.
Mae canlyniadau'r arolwg hefyd yn dangos bod anghydraddoldebau hirdymor yn parhau o ran cyfranogiad chwaraeon. Mae bechgyn yn fwy actif na merched, ac mae plant ag anableddau, namau neu anawsterau dysgu yn parhau i wneud llai.
Mae pobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd o Gymru sydd â’r amddifadedd mwyaf yn cymryd rhan mewn llawer llai o chwaraeon na’r rhai mewn ardaloedd mwy cefnog, ac mae pobl ifanc Asiaidd neu o grwpiau ethnig eraill yn parhau i fod yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i’r cwricwlwm o gymharu â disgyblion o grwpiau ethnig cymysg neu luosog.
Er mai dim ond 39% o ddisgyblion sy’n actif deirgwaith neu fwy yr wythnos y tu allan i gwricwlwm yr ysgol, mae 93% o ddisgyblion yn gyffredinol eisiau gwneud mwy o chwaraeon. Dywedodd tri deg saith y cant o ymatebwyr yr arolwg y byddent yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai mwy o gyfleoedd a oedd yn addas ar eu cyfer.
Mae Cadeirydd newydd Chwaraeon Cymru, Tanni Grey Thompson, yn galw ar bawb sy’n gweithio yn y byd chwaraeon yng Nghymru i weithredu ar yr wybodaeth werthfawr hon.
Dywedodd Tanni: “Mae cymdeithas yn newid – mae gan bobl lawer mwy o alwadau ar eu hamser ac mae’r argyfwng costau byw presennol yn golygu bod ganddyn nhw lai o arian yn eu pocedi hefyd. Mae canlyniadau'r arolwg yma’n pwysleisio'r ffaith bod angen newid mawr tuag at wneud gweithgareddau chwaraeon yn fwy cynhwysol a hygyrch fel bod pawb yn gallu dod o hyd i rywbeth maen nhw’n ei fwynhau.
“Mae’r ffaith bod cymaint o bobl ifanc yn segur yn drist iawn. Mae’n magu problemau iechyd iddyn nhw yn nes ymlaen mewn bywyd. Rydyn ni eisiau i bawb ffurfio arferion iach a chael profiadau hwyliog o gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau ffitrwydd o oedran ifanc fel eu bod yn gallu mynd ymlaen i gadw'n heini drwy gydol eu hoes.
“Mae’r dystiolaeth yn dangos bod angen newidiadau system gyfan i’r hyn sy’n cael ei gynnig, ble mae’n cael ei gynnig, sut mae’n cael ei gynnig ac i bwy. Mae hon yn her y gall y sector chwaraeon, a thu hwnt, ei hwynebu ar y cyd, ond bydd angen cydweithredu, arloesi a derbyn graddfa’r newid hwnnw. Dydi unrhyw beth llai ddim yn mynd i fod yn ddigon da.
“Er y gallwn ni dynnu sylw at bandemig Covid-19 fel ffactor yn y canlyniadau diweddaraf hyn, dydi’r hyn rydyn ni’n ei weld yma ddim yn rhywbeth unigryw. Ers i Chwaraeon Cymru gynnal yr Arolwg Chwaraeon Ysgol am y tro cyntaf yn 2011, mae’r data bob amser wedi dangos bod llai na hanner plant Cymru yn gwneud digon o ymarfer corff.”