Sut gallaf i gefnogi?
Rhannwch y fideo uchod ar gyfryngau cymdeithasol i ledaenu'r gair a defnyddio hashnod yr ymgyrch #MaeCasinebYnBrifoCymru. Darllenwch yr wybodaeth isod i wybod beth i'w wneud os byddwch chi'n dyst i drosedd casineb:
Sut i roi gwybod am drosedd gasineb
Os ydych wedi dioddef trosedd gasineb yn eich erbyn, gallwch hysbysu’r Heddlu neu’r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth (sy'n cael ei rhedeg gan Gymorth i Ddioddefwyr). Gallwch hefyd roi gwybod am y troseddau hyn os ydych yn gweld nhw’n digwydd i rywun arall.
Bydd yr Heddlu neu Cymorth i Ddioddefwyr yn gallu cynnig cymorth i chi ymdopi â’r hyn sydd wedi digwydd i chi a’ch helpu i benderfynu ar y camau nesaf.

Yr Heddlu
Mewn argyfwng, ffoniwch 999
Os nad yw’n argyfwng, ffoniwch 101
Cymorth i Ddioddefwyr
Gallwch siarad â Cymorth i Ddioddefwyr yn lle’r Heddlu. Maen nhw’n cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth annibynnol a chyfrinachol i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb yng Nghymru.
Gallwch ffonio Cymorth i Ddioddefwyr yn rhad ac am ddim ac ar unrhyw adeg ar 0300 3031 982
Ewch i’r wefan lle y gallwch roi gwybod am drosedd gasineb a chael rhagor o wybodaeth ynghylch y cymorth sydd ar gael.Mewn argyfwng, ffoniwch 999
Os nad yw’n argyfwng, ffoniwch 101
Cymorth i Ddioddefwyr
Gallwch siarad â Cymorth i Ddioddefwyr yn lle’r Heddlu. Maen nhw’n cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth annibynnol a chyfrinachol i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb yng Nghymru.
Gallwch ffonio Cymorth i Ddioddefwyr yn rhad ac am ddim ac ar unrhyw adeg ar 0300 3031 982
Ewch i’r wefan lle y gallwch roi gwybod am drosedd gasineb a chael rhagor o wybodaeth ynghylch y cymorth sydd ar gael.