Os ydych chi'n ystyried troi at gyllido torfol i godi arian i'ch clwb chwaraeon, mae'n werth bod yn greadigol gyda'r gwobrau rydych chi'n eu cynnig.
Edrychwch ar yr hyn y mae Clwb Rygbi Caergybi wedi'i gyflawni, gan godi mwy na £15,000 i uwchraddio eu hystafelloedd newid, gan gynnwys £6,000 o gronfa ‘Lle i Chwaraeon’ Chwaraeon Cymru.
Mae cyllido torfol yn ffordd wych o godi arian ar gyfer prosiectau, drwy annog y gymuned leol i'ch cefnogi'n ariannol.
Pan fydd pobl yn addo arian i gefnogi eich Crowdfunder, gallant gael gwobr am eu rhodd. Gallwch gynnig cymhellion, felly mae rhoddwyr yn cael rhywbeth bach yn ôl.
Mae'n syniad da bod yn greadigol a chysylltu go iawn â'ch cymuned leol.
Dyma rai o'r gwobrau a gynigiwyd gan Glwb Rygbi Caergybi.
Glanhau traethau lleol
Yn gyfnewid am rodd o fwy na £50, torchodd tîm y merched eu llewys i dreulio dwy awr yn codi sbwriel ar draeth o ddewis y cefnogwyr. Dewiswyd y wobr hon bedair gwaith a dewiswyd Bae Trearddur ger Caergybi bob tro.
Dywed Leanne Robinson, Cadeirydd y Clwb: "Dyma'r traeth mwyaf poblogaidd o bell ffordd felly rydyn ni'n gweld cryn dipyn o sbwriel yma. Roedd yn deimlad da gwneud ein rhan i'w gadw'n lân.”
Gwirfoddoli mewn prosiect cymunedol lleol
Roedd tîm y merched yng Nghaergybi hefyd wrth law i gefnogi prosiectau cymunedol, ym mha bynnag ffordd bosib. Gwnaethant gynnig cyfrannu o leiaf 10 awr i brosiect yn gyfnewid am rodd o £100.
Roeddent yn barod am unrhyw beth, gan sicrhau eu bod ar gael i baentio ac addurno, torri gwair neu chwynnu gwelyau blodau. Ar y diwedd, fe wnaethant roi'r brwsys paent a'r rhawiau o’r neilltu a chodi'r peli rygbi. Gofynnodd grŵp Girl Guiding lleol i gynnal sesiynau ar thema rygbi ar gyfer Rainbows a Brownies. Ac maen nhw am fynd yn ôl a gwneud mwy.
Golchi ceir
Roedd y tîm hefyd yn hapus i faeddu ei ddwylo (neu eu glanhau?) ac yn cynnig golchi car am rodd o £25 neu fwy. Roedd y wobr hon yn eithaf poblogaidd ac fe'i dewiswyd sawl gwaith.
Cynigion poblogaidd eraill
Roedd y clwb hefyd yn cynnig hetiau a chotiau wedi'u brandio a oedd yn boblogaidd gydag aelodau sydd eisiau cadw'n gynnes y gaeaf hwn.
A dewisodd llawer o bobl a roddodd i'r achos da neges ddiolch syml ar gyfryngau cymdeithasol fel gwobr.
Mwy o wybodaeth am beth arall y gallwch ei gynnig fel gwobr ar Crowdfunder.