Mae dod yn ôl wedi llawdriniaeth ddifrifol ar asgwrn y cefn a cheisio adennill eich lle yng nghanol athletwyr elitaidd y byd chwaraeon yn her enfawr.
Mae gwneud hynny yn syth ar ôl dod yn fam am yr eildro, a chyfuno ymarfer gyda gofynion edrych ar ôl dau o blant iau na dyflwydd oed, yn gwneud y dasg yn fwy heriol fyth.
Ond dyna'n union beth mae Helen Jenkins, triathletwraig fwyaf llwyddiannus Cymru, yn ceisio ei wneud wrth iddi geisio adennill ei lle yn nhîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf yn Tokyo.
Fis Mai, rhoddodd y Bencampwraig Byd ddwy waith, enedigaeth i fab, Max, brawd bach i'w merch 21 mis oed, Mali, gyda'i gŵr, ei hyfforddwr a chyd driathletwr rhyngwladol, Marc.
Dewisodd y cwpl o Ben-y-bont ar Ogwr ychwanegu at eu teulu ar ôl i Jenkins gael llawdriniaeth i uno asgwrn y cefn, llawdriniaeth debyg i'r un a gafodd y golffiwr Tiger Woods cyn iddo ddychwelyd i ennill ei 15fed major yn y Meistri yn Augusta ym mis Ebrill.
"Fe ddois i'n ôl ar ôl cael fy mhlentyn cyntaf, wedyn roeddwn i angen llawdriniaeth sydd wedi cymryd mwy o amser nag oedden ni'n ei feddwl i wella ohoni," meddai Jenkins, a enillodd deitl byd yr ITU yn 2008 ac eto dair blynedd yn ddiweddarach.
"Roedden ni'n meddwl ei fod yn amser delfrydol i gael babi arall os oedden ni am wneud hynny.
"Roedd fy nghefn i'n teimlo'n dda iawn drwy'r beichiogrwydd cyfan felly fe fydd yn gyffrous iawn os bydda' i'n llwyddo i ddod yn ôl i lefel lawn o hyfforddiant a 'fydd dim rhaid i mi ymdopi cymaint â phethau ag yr ydw i wedi gorfod ei wneud yn y gorffennol.
"Rydw i wir eisiau cyfuno hyfforddi a bod yn rhiant. Gyda fy merch, fe es i mas i ymarfer yn eithaf cyflym ar ôl rhoi genedigaeth iddi.
"Er nad ydw i'n teimlo 'mod i wedi colli unrhyw beth, oherwydd fe wnes i dreulio llawer o amser gyda Mali, mae'n anodd mynd mas drwy'r drwsl. Rydych chi'n teimlo'n euog ac rydych chi'n meddwl y byddai'n well gennych chi fod yn y tŷ.
"Dyna pam fy mod i wedi rhoi ffenestr o chwe mis i mi fy hun yn fy mhen eleni. Rydw i'n mynd i fod yn fam yn gyntaf, ac wedyn fe welwn ni sut mae fy ffitrwydd i a sut rydw i'n ymdopi gyda phopeth.
"Mae'r wythnosau cyntaf wedi bod yn ddiddorol gyda chael plentyn arall i ymdopi ag o. Mae'n mynd i fynd yn haws wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, ond rydyn ni'n eithriadol ffodus gan fod y ddau set o rieni'n byw yn agos ac yn gefnogol iawn.
"Os ydw i am fynd allan i hyfforddi, fe fyddwn ni angen y rhwydwaith hwnnw o gefnogaeth."
Mae Jenkins wedi bod yn un o driathletwyr gorau Prydain ers blynyddoedd lawer. Fel pencampwraig byd, roedd hi'n un o'r ffefrynnau ar gyfer Llundain 2012, ond cafodd anaf yn ystod y cyfnod paratoi effaith arni yn y cymal olaf, y rhedeg, a gorffennodd yn bumed.
Nawr mae'n gobeithio y bydd ei dau o blant yn cael cyfle i'w gweld yn brwydro am fedalau mawr eto.
"Mae'n gymhelliant mawr, rhoi cyfle i'r plant fy ngweld i'n cystadlu, oherwydd s'mo nhw wedi gweld hynny. Fe wnes i bopeth cyn eu cael nhw," ychwanegodd.
"Does dim llawer o stwff o fy ngyrfa i yn y tŷ. Ond roedden ni'n gwylio un o rasys cyfres y byd y dydd o'r blaen ac roedd Mali wrth ei bodd. Fe wnes i ddweud 'Roedd Mam yn arfer gwneud hyn', ond 'sa i'n credu ei bod hi'n deall. Mae hi dal yn ifanc iawn."
Nid yw dychwelyd yn llwyddiannus i gystadlu ar lefel elitaidd yn amhosib ar ôl rhoi genedigaeth. Mae'r bencampwraig beicio Olympaidd bedair gwaith, Laura Kenny, wedi ennill dau deitl Ewropeaidd ar ôl dod yn fam ac adenillodd yr heptathletwraig Jessica Ennis-Hill deitl y byd ar ôl rhoi genedigaeth hefyd.
A hyd yn oed yn ei champ ei hun mae esiampl berffaith a allai arwain at frwydr y Mamau Medrus yn Japan y flwyddyn nesaf, gyda Nicola Spirig o'r Swistir.
"Enillodd Nicola y Gemau Olympaidd yn Llundain ac wedyn cafodd fabi cyn ennill yr arian yn Rio," ychwanegodd Jenkins. "Felly rydych chi'n gwybod ei fod yn bosib.
"Mae Nicola yn ffrind felly rydyn ni'n cadw mewn cysylltiad ac rydw i wedi sgwrsio gyda hi am sut mae hi wedi ymdopi gyda'r cyfan. Mae hi'n mynd am Tokyo ar ôl cael ei thrydydd plentyn.