Mae Clwb Tenis Bwrdd Cynffig yn defnyddio technoleg laser modern i helpu i wneud eu camp yn fwy deniadol fyth i bobl ifanc.
Mae gan y clwb o Ben-y-bont ar Ogwr, a sefydlwyd yn 2022, chwaraewyr o 10 oed hyd at yr henoed, ond mae’r mwyafrif dros 60 oed.
Diolch i Gronfa Byddwch Egnïol Cymru Chwaraeon Cymru – sy’n defnyddio arian y Loteri Genedlaethol – gallant bellach ymgorffori chwarae â thywysydd laser yn eu sesiynau. Nhw yw’r unig glwb yng Nghymru, ac o bosibl y DU, i gynnig hyn.
"Roeddwn i'n ddeg oed pan ddaeth Star Wars allan a byth ers hynny rydw i wedi gwirioni gyda lasers," eglurodd Simon Lau o'r clwb. Astudiodd Simon dechnoleg laser yn y brifysgol ac mae wedi gweithio gyda thechnoleg laser ers hynny. Parhaodd: " Mae pobl yn cael yr argraff bod plant yn sownd yn eu hystafelloedd gwely, yn chwarae gemau ar y ffôn neu ar gyfrifiadur. Roeddwn i'n meddwl y gallem ddefnyddio'r dechnoleg laser hon i gyflwyno senario tebyg i hapchwarae o fewn chwaraeon go iawn."