Mae'r bencampwraig naid hir dan do genedlaethol wedi canmol y gefnogaeth gyffredinol sydd wedi’i rhoi i athletwyr eraill o Gymru gan gorff rheoli’r gamp yn ystod y pandemig.
Fe wnaeth Abrams hefyd enwi cydlynydd datblygu talent cenedlaethol Athletau Cymru ar gyfer neidiau a digwyddiadau cyfunol, Fyn Corcoran, i’w ganmol yn benodol.
"Dydw i ddim yn gallu rhoi mewn geiriau pa mor ddiolchgar ydw i," meddai. "Mae'n rhaid i mi roi pob clod i bawb yn Athletau Cymru.
"Ond yn arbennig i Fyn Corcoran. Mae ganddo fe lawer o athletwyr i ofalu amdanyn nhw, mae ganddo ei deulu ei hun i ofalu amdano, ac mae'n fy nghefnogi i’n ddi-baid, a'r cyfan o bell.
"Does dim ffiniau i’w help e ac rydw i'n credu bod hynny'n anhygoel. Rydw i'n teimlo ’mod i’n cael cefnogaeth wych, hyd yn oed pobl yn cysylltu jyst i wneud yn siŵr eich bod chi’n iawn.
"Ond maen nhw hyd yn oed yn mynd mor bell â chynnig help i ddod o hyd i offer. Dydw i ddim yn credu bod llawer o gyrff rheoli ac unigolion fyddai'n darparu'r math yma o gefnogaeth.
"Felly mae'n gwneud byd o wahaniaeth ac rydw i'n teimlo'n ffodus iawn gan fy mod i’n sylweddoli nad ydw i yn y lleoliad gorau i gael fy nghefnogi gan Athletau Cymru, ond dydw i ddim yn teimlo fy mod i’n cael fy ngadael allan, sy'n dda iawn.
"Alla i ddim pwysleisio digon pa mor ddiolchgar ydw i i Athletau Cymru. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i'n gallu dal ati heb y gefnogaeth honno, felly mae wir yn bwysig.
"Mae Fyn yn gwneud sesiynau zoom dair neu bedair gwaith yr wythnos efallai. Mae wedi bod yn eu gwneud nhw’n ddeddfol ers mis Mawrth.
"Mae'n awyrgylch mor dda, yn gymhelliant mor dda a dydw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi ei weld yn edrych fel nad ydi o eisiau bod yno.
"Rydw i'n siŵr bod adegau pan fyddai'n well ganddo gael paned o de ac eistedd o flaen y teledu neu wneud ei hyfforddiant ei hun, neu dreulio amser gyda'i deulu.
"Mae bob amser yno, mor frwdfrydig ac rydw i bob amser yn meddwl "sôn am ased". Rydw i'n credu ei fod yn anhygoel.”