"Mae'n rhaid i chi fod yng nghanol llif y dŵr a chymryd y sampl tua 10cm o dan yr wyneb. Maen nhw'n boteli mawr ac ar ôl iddyn nhw lenwi maen nhw'n eithaf trwm."
Pan nofiodd 47km ar hyd Afon Cleddau, yn Sir Benfro, nid plastigau oedd yr unig bryder. Aeth yn sâl ac mae'n credu bod y slyri amaethyddol oedd yn rhedeg oddi ar y glannau i mewn i'r dŵr wedi achosi salwch stumog wnaeth ei gorfodi i roi'r gorau i nofio am wythnos.
"Ar un adeg, roeddwn i'n nofio, ac roedd tail gwartheg yn arnofio heibio, felly doedd hynny ddim yn bleserus iawn.
"Mae byffer 10 metr i fod rhwng y tir amaethyddol a'r afon, ond nid yw hynny'n llawer o gwbl pan mae llawer o law wedi bod."
Heblaw am y tail gwartheg, mae Laura – y mae ei bywyd fel nofiwr ac amgylcheddwr yn cael ei gofnodi yn y ffilm "Hydrotherapy" sy'n cael sylw yn yr ŵyl – yn hoff iawn o’r dŵr agored o hyd.
Efallai bod y pandemig presennol wedi arafu cwblhau ymchwil y parciau cenedlaethol, ond nid yw wedi arafu’r diddordeb yn ei nofio ar draws y byd chwaraeon.
"Rydw i wedi mynd â llawer o driathletwyr allan eleni ar gyfer dosbarthiadau hyfforddi," ychwanegodd Laura, sy'n gweithio ochr yn ochr â Dr Christian Dunn, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor.
"Maen nhw fel arfer yn hynod ffit ond weithiau maen nhw'n cael tipyn o ofn mewn dŵr oer iawn. Efallai mai'r rheswm am hynny yw am eu bod nhw ychydig yn iau a does ganddyn nhw ddim llawer o fraster i’w cynnal nhw, ond maen nhw’n mwynhau unwaith maen nhw’n dod i arfer ag o.
"Dyna'r peth am nofio mewn llynnoedd, afonydd a'r môr. Rydych chi'n gwirioni arno.”