Mae hi’n Bencampwraig Byd ac yn gobeithio cael ei dewis ar gyfer Gemau Olympaidd Paris yn yr haf, ochr yn ochr ag Elinor, ei chwaer fawr.
Ond yn ôl y feicwraig Megan Barker, nid dim ond gyrfa broffesiynol mae’r gamp wedi’i rhoi iddi. Mae hefyd wedi dysgu pwysigrwydd gwaith caled iddi, ac wedi rhoi hwb i’w hyder.
Dim ond saith oed oedd hi pan ddechreuodd hi feicio. Byddai Elinor a hithau’n mynd draw i Bwll y Maendy yng Nghaerdydd i gael gwersi nofio, ac yn pasio’r felodrom:
“Roedd y lle bob amser yn llawn plant yn gwibio o gwmpas y trac. Roeddwn i ar dân eisiau rhoi cynnig arno fe, ond roedd rhaid i’r chwaer fawr ddod gyda fi. Roeddwn i’n eithaf swil erioed!”
Cyn bo hir, roedd y Maendy’n ail gartref iddi:
“Roedd nos Fawrth yn sesiwn beicio ffordd,” esboniodd Megan. “Dydd Iau, roedden ni ar y trac. Dydd Sadwrn, yn dibynnu ar y tywydd, roedden ni yn y gweithdy, ar y rollers neu’n datblygu sgiliau drwy gemau. Roedd e’n gymaint o hwyl.”
Ffydd hyfforddwr
Cyn hir, roedden nhw’n rhagori yn y cynghreiriau llai ac roedd un hyfforddwr yn benodol wedi chwarae rhan hollbwysig yn eu datblygiad:
“Doedd fy rhieni ddim yn beicio, felly’n sydyn iawn, roedd llawer i’w ddysgu. Roedd Alan Davies yn bwysig ofnadwy bryd hynny. Fe oedd yn rhedeg y rhan fwyaf o’r sesiynau, ond roedd e’n ein helpu ni i gael gafael ar offer hefyd. Roedden ni’n prynu’r rhan fwyaf o’n beiciau ar eBay. Bydde fe’n dod o hyd i fargen ac yn anfon nhw at Dad. Felly doedd dim rhaid i ni dalu’n ddrud am feiciau newydd sbon. Roedd e’n helpu i drwsio ein beiciau ni hefyd ond yn bennaf oll, roedd e wir yn credu ynof fi o’r cychwyn cyntaf. Mae mor bwysig gwybod bod gan rywun hyder ynoch chi, rhywun y tu allan i’r teulu.
“Fe wnaeth e ddysgu agwedd dda at waith a gwerthoedd da i fi.”
Tynnu ar ôl y tylwyth
Wrth i amser fynd heibio, dyma’r chwiorydd yn dechrau cystadlu mewn rasys mwy yn y gyfres genedlaethol. Byddai’r teulu’n neidio yn y fan wersylla ac yn gyrru i ble bynnag oedd y ras y penwythnos hwnnw.
“Roedd e fel gwyliau bach bob penwythnos. Roedd fy ffrindiau i’n brysur yn cweryla gyda’u brodyr a’u chwiorydd, ond roedden ni’n dod yn agosach. Roedd gennym ni’r diddordeb yma roedden ni’n ei wneud gyda’n gilydd – ac roedden ni’n gefn i’n gilydd.
“Roedd El bob amser gam neu ddau o fy mlaen i, oherwydd mae hi dair blynedd yn hŷn. Hi oedd yn gwneud y pethau ofnus gyntaf,” meddai Meg gan chwerthin.