Mae Megan Wynne yn cael ei hysbrydoli gan Jess Fishlock wrth iddi deithio ar hyd y llwybr hir at adferiad ar ôl rhwygo ligamentau ei phen-glin.
Nod seren Merched Dinas Bryste yn y pen draw yw cynrychioli Cymru yn yr Ewros yn 2022, gyda Fishlock wrth ei hochr.
Mae Megan wedi bod yn creu cynnwrf yn Uwch Gynghrair y Merched dros y Robins – yn ystod tymor ar fenthyg o Tottenham Hotspur – ond wedyn dioddefodd anaf ym mis Awst, fis yn unig ar ôl newid clwb yn barhaol.
Yn fuan ar ôl dychwelyd i hyfforddi yn dilyn cyfyngiadau symud Covid-19, cafodd y ferch 27 oed wybod na fyddai’n gallu chwarae am naw mis ar ôl niweidio ei ligament croesffurf blaen.
Er ei bod yn cydnabod bod rhai dyddiau tywyll o’i blaen o hyd, mae Megan yn pwyntio tuag at y chwaraewraig sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau’n chwarae dros Gymru, Fishlock, fel esiampl o gadernid yn wyneb adfyd.