Pan ddywedwyd wrth Michael Jenkins am roi'r gorau i chwarae rygbi, mae'n cyfaddef ei fod wedi teimlo bod ei uchelgais mewn chwaraeon ar ben.
Bum mlynedd yn ddiweddarach ac mae'r sylw wedi'i hoelio ar y bachgen 18 oed o Sir Benfro ar ôl ei berfformiadau anhygoel fel para-athletwr.
Roedd Michael yn 13 oed pan ddywedodd meddygon wrtho y byddai'n annoeth parhau i chwarae rygbi oherwydd y risgiau y gallai beri i rywun sydd â pharlys yr ymennydd.
Roedd hynny'n siom fawr i sawl clwb rygbi - yn bennaf oherwydd i'r llanc ifanc fod yn ddigon ffodus i gael priodoleddau corfforol trawiadol, ac erbyn hyn mae'n saith troedfedd.
Ond roedd yn ergyd drom i'r llanc ei hun yr oedd y gamp yn golygu popeth iddo.
"Roedd hi'n teimlo fel ergyd enfawr cael gwybod na allwn i chwarae rygbi rhagor," meddai Michael.
"Mae'n anodd iawn, iawn pan mae'n rhaid i chi stopio gwneud rhywbeth rydych chi wrth eich bodd yn ei wneud. Ro’n i'n teimlo'n angerddol go iawn am rygbi a ro'n i eisiau cyrraedd y lefel uchaf y gallwn i, beth bynnag y byddai hynny wedi bod.
"Es i am ddau neu dri mis heb wneud unrhyw chwaraeon o gwbl. Ro'n i mor ypset a do'n i ddim eisiau gwneud unrhyw beth arall, sydd ddim yn iach.
"Fe wnes i drio rhedeg pellter hir i ddechrau - dwi ddim yn gwybod pam yn iawn - a do'n i ddim yn ei fwynhau, chwaith.”
Diolch i'r drefn, cafodd Michael ei wthio tuag at feysydd eraill o athletau y gwnaeth eu mwynhau. Fe wnaeth ffrind ei arwain tuag at glwb Pembrokeshire Harriers ac oddi yno buan y rhoddodd gynnig ar ddisgyblaethau taflu pwysau a disgen.
Gwelodd Ryan Spencer-Jones, hyfforddwr campau taflu Athletau Cymru Michael yn taflu mewn un digwyddiad a datblygodd y sgwrs yn gyflym.
"O’r munud y gwelodd fy mod i'n athletwr anabl a gweld pa mor bell ro'n i’n gallu taflu, daeth ataf a dweud, 'iawn, dwi am dy hyfforddi di.’ A dyna sut y dechreuodd y cyfan.”
Dyna sut y dechreuodd pethau a dyma sut mae'n mynd. Mae sesiynau hyfforddi wythnosol a dwywaith yr wythnos weithiau yng Nghaerdydd wedi datblygu talent Michael ac wedi profi pan fydd un drws chwaraeon yn cau gall un arall agor yn aml.
Mae'n dweud y bydd bob amser yn ddiolchgar i rygbi am roi sylfaen iddo mewn chwaraeon, ac fe wnaeth hefyd fwynhau ychydig o bêl-fasged gardd gefn, ond ym myd para athletau mae ei angerdd a'i dalent bellach.
"Pan o'n i'n iau, do'n i ddim yn gwybod llawer am y cyfleoedd rygbi i bobl anabl. Dwi'n meddwl ei fod yn llawer mwy nawr ac mae llawer o gyfleoedd, ond yn y bôn roedd yn rhaid i mi roi'r gorau i chwarae'r math o rygbi ro'n i'n ei chwarae ac roedd yn teimlo'n anodd.
“Ond dwi wedi ffeindio'r angerdd yna mewn athletau para, 100 y cant. Erbyn hyn dwi wastad yn meddwl am ddisgiau a sut alla i daflu ymhellach.”