Bydd gwerth mwy na £3m o gyllid Chwaraeon Cymru yn cael ei wario ar wneud gwelliannau mewn cyfleusterau chwaraeon cymunedol a chanolfannau hamdden ledled Cymru yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.
Mae mwy nag £1.8m wedi’i fuddsoddi gan Chwaraeon Cymru i wneud canolfannau hamdden yn fwy ynni-effeithlon fel bod gweithgareddau’n gallu parhau i fod yn fforddiadwy i gymunedau eu mwynhau.
Mae £1.3m pellach wedi cael ei ddyfarnu i 13 o brosiectau a fydd yn gwneud cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon, gan gynnwys athletau, pêl fasged a chriced, yn fwy hygyrch a phleserus.
Bydd cyfanswm o 30 o ganolfannau hamdden – o Lanilltud Fawr i Gaernarfon – yn elwa o uwchraddio a fydd yn lleihau costau rhedeg a hefyd yn gwneud yr adeiladau’n fwy amgylcheddol gyfeillgar.
Er enghraifft, bydd grant o £200,000 sydd wedi’i ddyfarnu i Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn galluogi gosod goleuadau LED ynni-effeithlon yn y canolfannau hamdden yng Nghastell-nedd, Pontardawe a Chwm Nedd.
Ym Mhwll Nofio Llanfair-ym-Muallt, bydd biliau ynni'n cael eu lleihau diolch i baneli solar ac inswleiddio llofftydd, a bydd ffaniau dad-haenu a gorchuddion pyllau yng Nghanolfan Hamdden y Waun yn helpu i arbed gwres.
Gwahoddwyd sefydliadau fel awdurdodau lleol a chyrff rheoli chwaraeon i wneud cais am gyllid yn yr hydref a rhoddodd Chwaraeon Cymru flaenoriaeth i brosiectau a fyddai’n gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy hygyrch i’r rhai sydd ei angen fwyaf.
Dywedodd Brian Davies, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru: “Mae’r argyfwng costau byw, ynghyd â’r argyfwng hinsawdd, yn golygu bod mwy o frys nag erioed i fuddsoddiadau gael eu gwneud mewn cyfleusterau canolfannau hamdden sy’n cael eu gwerthfawrogi gymaint gan y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.
“Bydd pob un o’r prosiectau hyn yn lleihau costau rhedeg hirdymor y cyfleusterau hamdden yn sylweddol, gan eu galluogi i ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol a gallu parhau i ddarparu gweithgareddau fforddiadwy i bobl leol. Bydd y prosiectau hyn hefyd yn cynhyrchu arbedion carbon sylweddol, gan helpu i gefnogi targedau newid hinsawdd Cymru.”
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae’n wych gweld y cyllid yn cael ei ddyrannu ar draws y wlad mewn ffyrdd sy’n gwneud chwaraeon yn fwy hygyrch i bawb, ac yn gwella ansawdd chwaraeon yn ein cymunedau ni. Heb unrhyw arwydd y bydd costau byw a chostau gwneud busnes yn lleihau unrhyw bryd yn fuan, mae’n hanfodol bod cyllid yn cael ei ddefnyddio i wneud y sefydliadau hyn y mae ein cymunedau ni’n dibynnu arnyn nhw’n fwy cynaliadwy yn ariannol ar gyfer y dyfodol.”
Mae rhai o’r prosiectau eraill sydd wedi derbyn cyllid gan Chwaraeon Cymru yn cynnwys £30,000 i sefydliad Bocsio Cymru i brynu 20 o gadeiriau olwyn aml-chwaraeon, bydd Pêl Fasged Cymru yn defnyddio grant o £99,000 i adnewyddu cyrtiau awyr agored poblogaidd yn y Fflint, Caerdydd ac Abertawe, tra bo Athletau Cymru wedi cael £225,000 i adnewyddu trac Cwrt Herbert yng Nghastell-nedd.
Yn Abertawe, bydd y gymuned Fwslimaidd yn elwa o gais llwyddiannus Criced Cymru am £68,160 i drawsnewid Neuadd Chwaraeon Gymunedol Mosg Abertawe yn gyfleuster criced dan do.
Mae’r holl grantiau wedi bod yn bosibl diolch i gyfanswm o £10.3m o gyllid cyfalaf ar gyfer 2023-24 sydd wedi’i ddyrannu i Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru.
Mae pob grant yn amodol ar fodloni rhai telerau ac amodau. Mae rhai o'r prosiectau eisoes ar y gweill, tra bo eraill wedi'u cynllunio ar gyfer y misoedd nesaf. Mae manylion llawn am yr holl brosiectau sydd wedi derbyn cyllid ar gael isod.